Mae gwyddoniaeth newid yn yr hinsawdd a'r ddealltwriaeth ohono wedi canolbwyntio'n bennaf ar safbwyntiau gorllewinol, gan fethu integreiddio gwybodaeth, diwylliannau a lleisiau amgen mewn agendâu a oedd eisoes yn bodoli. Mae gwyddoniaeth yn ôl yr arfer a chyfathrebu yn ôl yr arfer ynghylch yr hinsawdd wedi methu newid ein gweithredoedd a'n cymdeithas. 

Mae angen newid sylfaenol ar draws pob agwedd ar wyddoniaeth, cymdeithas ac economi. 

Ein hamcan yw hyrwyddo gweithredu ar yr hinsawdd sy'n blaenoriaethu lles pob unigolyn a chymuned, gan greu dialogau, naratifau ac ieithwedd newydd a chydnabod bod cysylltiad rhwng cyfiawnder o ran yr hinsawdd ac ansawdd bywyd cyffredinol.

Drwy fynd i'r afael â'r annhegwch hwn a meithrin ymagweddau cynhwysol, gallwn anelu at greu dyfodol mwy teg a chynaliadwy.

Yr Athro Andrew Kemp

Athro, Cadeirydd Personol ac Arweinydd Ymchwil yr Ysgol, Psychology
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Yr Athro Mike Buckle

Athro mewn Cyllid, Accounting and Finance
+44 (0) 1792 602395
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig
Field of red poppies

Climate Lab

Gweld a theimlo'r argyfwng hinsawdd

YNGHYLCH CLIMATE LAB

Global Climate Lab, a ariennir gan Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan

Mae Climate Lab yn lle ar gyfer cydweithredu rhwng ymchwilwyr i'r hinsawdd ac artistiaid, gan ymchwilio'n ddwfn i'r emosiynau sy'n cael eu diystyru fel arfer gan ddulliau gwyddonol (gorllewinol). 

Mae anwybyddu emosiynau ym maes gwyddor hinsawdd yn amharu ar gyfathrebu a chysylltu, gan effeithio'n ddifrifol ar ein gallu i weithredu yn wyneb newid yn yr hinsawdd; mae'r gweithdai hyn yn arbrawf wrth ddod â'r galon a'r meddwl yn agosach at ei gilydd er mwyn creu llwybrau i oresgyn y diffyg egni sy'n peri problemau i'n prifysgolion ar hyn o bryd yn wyneb yr argyfwng hinsawdd a'r argyfwng ecolegol. 

A meadow

Cae Felin

Mynediad cynhwysol i bawb at fyd natur

Cae Felin

Drwy ein sesiynau gwirfoddoli agored, rydym yn rhoi mynediad cynhwysol i bawb at fyd natur, lle gall pobl ailgysylltu â harddwch a llonyddwch yr amgylchedd lleol.

Mewn cydweithrediad â Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, mae cae saith erw yn cael ei drawsnewid yn lleoliad nodedig, lle gall bywyd gwyllt a phobl ffynnu ar y cyd.

Gwrychoedd a adferwyd, dolydd blodau gwyllt a pherllan newydd yw'r cefndir ar gyfer tyfu bwyd, cymdeithasu a dathlu amrywiaeth.

Rydym yn croesawu pawb o ba bynnag oedran, gallu neu gefndir i ymuno â ni, i ofalu am natur, meithrin cymuned a thyfu ffrwythau a llysiau blasus iawn. 

A colourful design with leaves and branches

Grŵp Ymchwil Lles Cynaliadwy

Rhagor o wybodaeth am ein prosiectau

Grŵp Ymchwil Lles Cynaliadwy

Mae ein grŵp yn yr Ysgol Seicoleg ym Mhrifysgol Abertawe yn ymroddedig i gynnal ymchwil arloesol i sut gall ffyrdd cynaliadwy o fyw gyfrannu at les unigol, cyfunol a phlanedol.

Nod ein gwaith yw pontio'r bwlch rhwng ymchwil ac ymarfer drwy gynnig dealltwriaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth a all lywio polisïau ac ymyriadau i hyrwyddo ffyrdd cynaliadwy o fyw a lles.