Ymchwilwyr yn y labordai sydd wedi'u hadnewyddu yn Adeilad Wallace: Andy Stawowy (chwith), Elfina Karima (de), Gemma Woodhouse (blaen)

Ymchwilwyr yn y labordai sydd wedi'u hadnewyddu yn Adeilad Wallace: Andy Stawowy (chwith), Elfina Karima (de), Gemma Woodhouse (blaen)

Bydd gwaith adnewyddu gwerth £1.2m ar labordai ym Mhrifysgol Abertawe sydd newydd ei gwblhau'n rhoi hwb enfawr i ymchwil i'r biowyddorau a daearyddiaeth.

Bydd yr ymchwil o fudd i feysydd o fioamrywiaeth i gadernid ecosystemau, o batrymau hinsawdd y gorffennol i astudio microbau a all dreulio plastigion.

Mae'r labordai sydd wedi'u hadnewyddu'n gartref i gyfarpar ac offer dadansoddol newydd a mwy modern. Maent hefyd yn fwy, sy'n golygu y gall mwy o ymchwilwyr weithio ar unrhyw adeg benodol, yn ogystal â bod yn fwy hygyrch. 

Mae'r labordai yn Adeilad Wallace, adeilad rhestredig Gradd II o'r 1950au ar Gampws Parc Singleton y Brifysgol. Fe'i henwyd ar ôl Alfred Russel Wallace, y gwyddonydd Fictoraidd arloesol a anwyd yn ne Cymru, a feddyliodd am y syniad chwyldroadol o esblygiad drwy ddethol naturiol yn hollol annibynnol ar Charles Darwin.

Mae'r adeilad arloesol hwn yn gartref i adrannau'r Biowyddorau a Daearyddiaeth, gyda myfyrwyr yn dilyn cyrsiau sy'n cynnwys sŵoleg, bioleg, bioleg y môr, a daearyddiaeth ffisegol a dynol.

Cafodd y prosiect adnewyddu ei arwain gan dîm Ystadau'r Brifysgol a'r Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg, gan weithio mewn partneriaeth agos â'r prif gontractiwr, John Weaver Ltd

Dyma'r cyfleusterau newydd:

1  Labordy ecoleg arfordirol newydd: cartref newydd ar gyfer ymchwil i gadw bioamrywiaeth arfordirol wrth i lefelau'r môr newid ac wrth i adeileddau o waith dyn gael eu hadeiladu i ddiogelu cymunedau arfordirol.

Meddai Dr Tom Fairchild o'r Biowyddorau:

“Mae'r mannau labordy newydd wedi ein galluogi i gynyddu cwmpas ein gwaith, gan gynnwys ymchwil newydd ym maes biocemeg sy'n ystyried ffotopigmentau mewn gwymonau. Mae'r mannau cynyddol ar gyfer meinciau'n galluogi mwy o bobl i'w defnyddio ar yr un pryd. Bydd hyn yn rhoi mwy o amser i staff a myfyrwyr ymchwil yn y labordy ac yn eu galluogi i wneud mwy o ymchwil ecolegol newydd a phwysig.”

2  Labordy cynhyrchion naturiol – mae ein timau ymchwil yn datblygu dewisiadau naturiol amgen i gynhyrchion a ddefnyddir mewn nwyddau fferyllol, amaethyddiaeth a gweithgynhyrchu, er mwyn lleihau'r effaith ar yr amgylchedd. Er enghraifft, maent yn ymchwilio i sut gellir defnyddio microbau i dreulio llygryddion plastig. Maent hefyd yn nodi cemegion newydd o ffyngau i ddatblygu plaladdwyr naturiol i ddiogelu cnydau rhag plâu pryfed.

Meddai'r Athro Dan Eastwood o'r Biowyddorau:

“Bydd cyfarpar newydd gan gynnwys roboteg yn ein galluogi i samplu microbau a datblygu cynhyrchion naturiol newydd yn gyflymach. Ein prif faes i elwa fydd ein hymchwil i ddefnyddio ffyngau fel ffordd naturiol o reoli plâu pryfed; bydd ein BioHYB Cynhyrchion Naturiol, sy'n ein cysylltu â phartneriaid diwydiannol, yn helpu i wneud Abertawe'n ganolfan ar gyfer arloesi cynhyrchion naturiol. Mae'r man gweithio hefyd yn llawer gwell i staff a myfyrwyr fel ei gilydd bellach. Mae hygyrchedd wedi'i gynnwys yn y dyluniad newydd, sydd eisoes o fudd i fyfyriwr PhD presennol sy'n defnyddio cadair olwyn.”

3   Labordy Isotopau Sefydlog: mae'r Labordy Isotopau Sefydlog yn yr Adran Ddaearyddiaeth yn dadansoddi traswyr cemegol a gedwir mewn archifau naturiol megis cylchoedd coed, paill, gwaddodion llynnoedd a mawndiroedd i archwilio hinsawdd y gorffennol, ffisioleg planhigion a chadernid ecosystemau i newid amgylcheddol. Bydd y labordy sydd wedi'i adnewyddu, â'r cyfarpar dadansoddol newydd, yn gyfleuster cenedlaethol ar gyfer dyddio archeolegol drwy ddefnyddio dendrocronoleg isotopau sefydlog, dull uwch o ddadansoddi cylchoedd coed.

Meddai'r Athro Neil Loader, sy'n rheoli'r labordy:

“Wrth i ni ddathlu 70 mlynedd o raddedigion daearyddiaeth yn Abertawe, mae'r gwaith adnewyddu hwn yn gwella ein hamgylchedd ymchwil yn sylweddol. Bydd y labordy newydd yn ategu ein hymchwil sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang mewn deinameg amgylcheddol, yn ogystal â darparu cyfleusterau i feithrin partneriaethau rhyngwladol newydd a hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o ddaearyddwyr ac archeolegwyr amgylcheddol.”

Meddai Joan Tamlyn, Pennaeth Datblygu Busnes John Weaver Contractors:

“Roedd yn bleser gan John Weaver Contractors gryfhau ein perthynas weithio â Phrifysgol Abertawe, gan gwblhau'r gwaith ailfodelu'n llwyddiannus ar yr adeilad rhestredig Gradd II hyfryd hwn.

Bu Nigel Latham, ein rheolwr safle, yn gweithio'n agos gyda thîm y Brifysgol i sicrhau bod gorffeniadau o safon uchel yn cael eu cyflawni ac ymdriniwyd ag unrhyw broblemau dylunio'n gyflym i sicrhau y cafodd y prosiect ei gwblhau'n brydlon ar ran eich staff a'ch myfyrwyr. Hoffen ni ddiolch i'r Brifysgol a'n his-gontractwyr sydd wedi ein helpu i gyflawni rhagoriaeth yn y cyfleuster hwn sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang.”

Rhannu'r stori