Abstract buildings against dark blue sky

Trosolwg o'r Grŵp Ymchwil

Mae ymchwil Daearyddiaeth Ddynol Abertawe'n cynnwys amrywiaeth eang o themâu ac mae'n canolbwyntio ar ddau faes: ymfudo, ffiniau a hunaniaethau; a damcaniaeth gymdeithasol a gofod trefol. Mae ein hymchwil wedi'i seilio ar ddamcaniaeth, mae'n empirig gyfoethog ac mae'n rhan weithredol o'r drafodaeth ymchwil ehangach, gyda pherthnasedd ac effaith i bolisi ac ymarfer.

Mae ein hymchwil i fudo, ffiniau a hunaniaethau yn canolbwyntio ar wead cymdeithasol a gwleidyddol dinasyddiaeth, cenedlaetholdeb ac ymdeimlad o genedl, y perthnasoedd rhwng mudo (mewnol a rhyngwladol), globaleiddio a chydsyniadau o le ac mewn ardaloedd gwledig yr unfed ganrif ar hugain. Mae hefyd yn ymchwilio i ddaearyddiaeth allgáu, trais a gwthio i'r cyrion, yn enwedig mewn perthynas â hil, rhywedd, diwylliant a phlentyndod. Mae ein cyfraniad unigryw'n cynnwys datblygu fframweithiau damcaniaethol newydd er mwyn deall goblygiadau mathau gwahanol o fudo, gwrthrychedd a ffiniau. Caiff llawer o'r ymchwil hon ei datblygu drwy'r Ganolfan Ymchwil i Bolisi Mudo (CMPR).

Mae ein hymchwil i ddamcaniaeth gymdeithasol a gofod trefol yn canolbwyntio ar ddinasoedd modern ac ôl-fodern, gofod cyfalafiaeth a'r economi wleidyddol ddaearyddol. Mae'n mabwysiadu ac yn datblygu ystod o ymagweddau cysyniadol a methodolegol, gan gynnwys ôl-strwythuriaeth, ôl-Farcsiaeth, seicdreiddiad, theori actor-rwydwaith, dadansoddiad o ofod ac ethnograffeg. Rydym yn enwedig o adnabyddus am ein cydgysylltiad â damcaniaethwyr cymdeithasol a diwylliannol dylanwadol o Ewrop ac athronwyr o'r Cyfandir. Gwneir ymchwil mewn cyd-destunau hynod amrywiol a chymdeithasol-ofodol, gan gynnwys y gymdeithas defnyddwyr, diwylliant ffilm a gweledol, perfformio a chreadigrwydd, y cyfryngau, adfywio trefol, yr economi wybodaeth, gofal iechyd a dinasoedd byd-eang. Caiff llawer o'r ymchwil hon ei datblygu drwy'r Ganolfan Damcaniaeth Drefol (CUT).

Mae cyllid sylweddol ar gyfer ysgoloriaethau PhD ar gael drwy ein cyfranogiad yn Llwybr Daearyddiaeth Ddynol Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru'r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), sy'n cynnig ysgoloriaethau PhD a hyfforddiant mewn dulliau ymchwil uwch.

Abstract building
Road crossing
Reflected building
Bridge

Prosiect PACONDAA gydag Ysgol Sant Joseph

Setliad Cymunedol SSAMIS - Taith, Anheddiad, Cartref

Ymgysylltu â'r Gymuned Greadigol, Bangladesh deheuol

Llundain ar ôl Brexit - sgwrs TedX gan Dr Richard Smith