Dr Angharad Closs Stephens

Dr Angharad Closs Stephens

Athro Cyswllt, Geography

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Rhugl
Swyddfa Academaidd - 207
Ail lawr
Adeilad Wallace
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae ymchwil Angharad yn canolbwyntio ar ddatblygu dulliau critigol mewn perthynas â’n gwybodaeth a’n dealltwriaeth o genedlaetholdeb. Mae hyn yn cynnwys deall y ffordd y mae gwleidyddiaeth yn cael ei hangori o amgylch y genedl-wladwriaeth yn ystod modernedd yn ogystal â defnyddio ffyrdd hanesyddol a diwylliannol gwahanol o ddeall gwleidyddiaeth, goddrychiaeth a dinasyddiaeth. Cyflwynwyd y gwaith hwn yn ei llyfr cyntaf awdur-sengl, sef The Persistence of Nationalism: from imagined communities to urban encounters (Routledge, 2013). Ar hyn o bryd mae hi’n gweithio ar nifer o brosiectau sy’n mynd i’r afael â rôl teimlad, emosiwn a’r synhwyrau wrth alluogi a chyfreithloni syniadau ynghylch hunaniaeth genedlaethol. Mae hyn wedi ei harwain at ysgrifennu am y berthynas rhwng gwleidyddiaeth a chelfyddyd, perfformiad, dawns a theatr. Yn ystod 2018-19, derbyniodd Gymrodoriaeth Ymchwil Leverhulme ar gyfer prosiect sy’n astudio ‘National Affects: Towards a Cultural Politics of Atmospheres’. Mae Angharad yn ymchwilio’n bennaf i ffyrdd gwahanol o ddeall sut rydyn ni’n byw gyda’n gilydd sy’n gwrthsefyll fframwaith cenedlaethol.

Mae hi wedi cael ei gwahodd i gyflwyno’i gwaith yn Awstralia, Brasil, Cenia, Siapan, yr Unol Daleithiau a ledled Ewrop. Ym mis Chwefror 2019, roedd yn Gymrawd ar Ymweliad yn yr Emerging Technologies Lab, Prifysgol Monash, Awstralia. Roedd yn athro ar ymweliad yn Ysgol Aeaf PUC-Rio (Rio de Janeiro, Brasil) ar gyfer myfyrwyr doethuriaethol ym mis Gorffennaf 2018 ac yn athro ar ymweliad yn Labordy Syniadau Gregynog (Cymru) ar gyfer myfyrwyr doethuriaethol ym mis Tachwedd 2019. Mae hi’n aelod o’r American Association of Geographers a’r International Studies Association, ac mae hi’n cyhoeddi ym maes Daearyddiaeth yn ogystal ag ym maes Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol mewn cyfnodolion gan gynnwys: Environment and Planning D: Society and Space, International Political Sociology, Cultural Geographies, Emotion, Space and Society, a GeoHumanities. Rhwng 2014 a 2017 hi oedd golygydd cynorthwyol y cyfnodolyn Citizenship Studies. Yn 2017, enillodd wobr ‘Peer Review Prize for Excellence’ y cyfnodolyn International Political Sociology.

Meysydd Arbenigedd

  • Dulliau critigol o astudio cenedlaetholdeb
  • Perfformiad, celfyddyd a gwleidyddiaeth
  • Astudiaethau diogelwch critigol
  • Damcaniaethau critigol
  • Dulliau creadigol ac artistig
  • Agweddau diwylliannol a gwleidyddol ar ddaearyddiaeth
  • Dinasoedd a dina