Building with graphics

Mae'r Ganolfan yn ymroddedig i hyrwyddo dealltwriaeth arloesol o fri rhyngwladol ynghylch natur newidiol cymdeithas a gofod trefol. Nod yr ymchwil a wneir yn y Ganolfan yw datblygu a gwella dealltwriaeth ddamcaniaethol o ofod trefol, yn enwedig o ran effaith cyfalafiaeth brynwriaethol fyd-eang a thechnolegau newidiol y cyfryngau.

Mae'r Ganolfan, wedi'i harwain gan y grŵp ymchwil Daearyddiaeth Ddynol Feirniadol yn Adran Ddaearyddiaeth y Brifysgol, sy’n canolbwyntio ar ddamcaniaethu uwch dinasoedd. Yn benodol, mae'n ymgymryd â gwaith datblygu ymagweddau cysyniadol newydd i helpu i ddeall ein cymdeithasau trefol cynyddol gymhleth a'u cyfansoddiad cynyddol fyd-eang. Mae'r prif feysydd ymgysylltu a'r arbenigeddau ymchwil presennol yn cynnwys:

• yr economi wleidyddol drefol a'r economi libidinaidd drefol
• diwylliannau dinasoedd: modern ac ôl-fodern
• cymwysiadau gofodol o ôl-strwythuriaeth, damcaniaeth rhwydweithiau actor, a damcaniaeth anghynrychiolaidd
• dinasoedd byd-eang a rhwydweithiau byd-dinas
• dinasoedd sinematig a threfolaeth drwy gyfryngau torfol
• diwylliant gweledol dinesig a chof trefol
• marchnadoedd ariannol a hybu'r sector ariannol
• gwleidyddiaeth affeithiol ac awyrgylchoedd gwleidyddol

Cyd-gyfarwyddwyr y Ganolfan
Yr Athro Marcus Doel
Dr Richard Smith

Ferris wheel
Viewer
Reflected building
Character brand on building