Dr Rhian Hedd Meara

Mae Dr Rhian Hedd Meara, Uwch-ddarlithydd Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe, wedi derbyn Gwobr Goffa Eilir Hedd Morgan gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, am ei hymroddiad wrth ddatblygu elfen sylweddol o'r ddarpariaeth Gymraeg ym maes Daearyddiaeth yn y brifysgol.

Derbyniodd Dr Meara’r Wobr yn ystod derbyniad blynyddol y Coleg ar faes Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023, lle cafodd pum gwobr eu cyflwyno i fyfyrwyr a darlithwyr sydd wedi gwneud gwaith a chyfraniad rhagorol yn eu prifysgolion.

Cyflwynir y Wobr Goffa i ysgolhaig o 40 mlwydd oed neu iau i gydnabod, nid yn unig blaengarwch ymchwil ymysg y gwyddorau, ond cyfraniad i addysgu’r gwyddorau trwy gyfrwng y Gymraeg mewn sefydliad addysg uwch.

Ond yn naw ar hugain mlwydd oed pan fu farw, roedd Dr Eilir Hedd Morgan yn wyddonydd  ifanc, disglair a galluog, a hefyd yn addysgwr greddfol oedd yn hynod boblogaidd. Sefydlwyd y Wobr gan ei rieni Iwan ac Alwena er cof amdano.

Mae Dr Meara yn Uwch-ddarlithydd Daearyddiaeth Ffisegol a Daeareg yn Adran Ddaearyddiaeth Prifysgol Abertawe ar ran y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Cwblhaodd ei gradd israddedig mewn Daeareg ym Mhrifysgol Caerlŷr yn 2003 – 2007 ac arbenigodd mewn geocemeg, petrogenesis igneaidd a llosgfynyddyddiaeth ffisegol. Yna symudodd i Gaeredin lle cwblhaodd ei PhD a oedd yn canolbwyntio ar tephrocronoleg haenau teffra silicig Holocene yng Ngwlad yr Iâ.

Meddai Dr Rhian Meara: “Mae’n fraint cael derbyn y Wobr hon gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sefydliad sydd wedi rhoi cymaint o gefnogaeth a chyfleoedd i mi yn ystod y naw mlynedd ‘dwi wedi bod yn dysgu yn Abertawe. Mae’n bleser cael dysgu cymaint o fyfyrwyr sy’n frwdfrydig dros astudio daearyddiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg, a braint yw cael chwarae rhan yn narpariaeth cyfrwng Cymraeg y pwnc o fewn y sector addysg uwch.”

Dywedodd Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg, Dr Ioan Matthews: “Mae’r enillwyr yn haeddu pob canmoliaeth a chydnabyddiaeth am eu gwaith ond hefyd am annog a chefnogi eu cyfoedion a’u cydweithwyr o fewn y prifysgolion a gweithleoedd i arddel eu Cymreictod a thrwy wneud hynny godi proffil y Gymraeg. Llongyfarchiadau mawr iddynt a dymunwn bob llwyddiant iddynt yn y dyfodol”.

Rhannu'r stori