Trosolwg o'r Grŵp Ymchwil

Mae ymchwil Daearyddiaeth Ddynol Abertawe'n cynnwys amrywiaeth eang o themâu ac mae'n canolbwyntio ar ddau faes: Mudo, ffiniau a hunaniaethau a Damcaniaeth gymdeithasol a gofod trefol. Mae ein hymchwil wedi'i seilio ar ddamcaniaeth, mae'n empirig gyfoethog ac mae'n rhan weithredol o'r drafodaeth ymchwil ehangach, gyda pherthnasedd ac effaith i bolisi ac ymarfer.

Mae ein hymchwil Mudo, ffiniau a hunaniaethau yn canolbwyntio ar wead cymdeithasol a gwleidyddol a dinasyddiaeth, cenedlaetholdeb ac ymdeimlad o genedl, y perthnasoedd rhwng mudo (mewnol a rhyngwladol), globaleiddio a chydsyniadau o le ac mewn ardaloedd gwledig yr unfed ganrif ar hugain. Mae hefyd yn ymchwilio i ddaearyddiaeth allgáu, trais a gwthio i'r cyrion, yn enwedig mewn perthynas â hil, rhywedd, diwylliant a phlentyndod. Mae'n cyfraniad unigryw'n cynnwys datblygu fframweithiau damcaniaethol newydd er mwyn deall goblygiadau gwahanol mathau o fudo, gwrthrychedd a ffiniau. Caiff llawer o'r ymchwil hon ei datblygu drwy'r Ganolfan Ymchwil i Bolisi Mudo (CMPR).

Mae'n hymchwil Damcaniaeth gymdeithasol a gofod trefol yn canolbwyntio ar ddinasoedd modern ac ôl-fodern, gofod cyfalafiaeth a'r economi wleidyddol ddaearyddol. Mae'n mabwysiadu ac yn datblygu ystod o ymagweddau methodolegol, gan gynnwys ôl-strwythuriaeth, ôl-Farcsiaeth, seicdreiddiad, theori actor-rwydwaith, dadansoddiad o ofod ac ethnograffeg. Rydym yn enwedig o adnabyddus am ein cydgysylltiad â damcaniaethwyr cymdeithasol a diwylliannol o Ewrop ac athronwyr o'r Cyfandir. Gwneir ymchwil mewn cyd-destunau hynod amrywiol a chymdeithasol-ofodol, gan gynnwys y gymdeithas defnyddwyr, diwylliant ffilm a gweledol, perfformio a chreadigedd, y cyfryngau, adfywio trefol, yr economi wybodaeth, gofal iechyd a dinasoedd byd- eang. Caiff llawer o'r ymchwil hon ei datblygu drwy'r Ganolfan dros Ddamcaniaeth Drefol (CUT).