Rydyn ni’n defnyddio lloerennau i wella rhagolygon y tywydd a hinsawdd

Sentinel 3 satellite

Yr Her

Mae rhagfynegi'r tywydd mor gywir â phosibl yn hanfodol o bwysig i lawer o sectorau'r economi megis trafnidiaeth, amaethyddiaeth a gwasanaethau iechyd.  Mae angen rhagfynegiadau mwy hirdymor ar gyfer yr hinsawdd er mwyn cynllunio gwaith lliniaru ac addasiadau at y newid yn yr hinsawdd sy'n effeithiol o ran cost. Mae ar y ddau angen gwybodaeth fyd-eang y gellir ei chael gan loerennau yn unig. Er enghraifft, byddai cynnydd yn adlewyrchedd arwyneb y Ddaear i adlewyrchu golau'r haul gan ddim ond 4% yn fwy yn cael yr un effaith yn fras ar gydbwysedd ynni'r Ddaear â chael gwared â'r holl garbon deuocsid sydd wedi cael ei allyrru gan bobl hyd yma.Mae lloerennau'n mesur yn uniongyrchol y golau hwn a adlewyrchir. Fodd bynnag, maent yn gweld y Ddaear drwy ei hatmosffer, sydd ei hunan yn cynnwys niwlen o ffynonellau megis llwch anialdir, llygredd dinesig a thanau gwyllt. Her fawr yw sut i ddefnyddio gwybodaeth fel hynny gan gyfres gynyddol o loerennau er mwyn gwella rhagfynegi'r tywydd, yr hinsawdd ac ansawdd aer.

Stoirm dywod Athen

Athens sandstorm

Tanau Awstralia

Australian fires

Y DULL

Mae'r grŵp Modelu Amgylcheddol Byd-eang ac Arsylwi ar y Ddaear (GEMEO), a arweinir gan Yr Athro Peter North, yn defnyddio delweddau lloerennau a modelau amgylcheddol er mwyn gwella modelau rhagfynegi'r tywydd, gan weithio gydag asiantaethau meteorolegol mawr ledled y byd.  Gyda chyllid gan yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd, mae arloesiad a ddatblygwyd yn Abertawe yn ein galluogi i 'weld drwy' atmosffer niwlog er mwyn cael mesuriadau manwl gywir o adlewyrchedd arwynebau y mae eu hangen ar gyfer modelu'r tywydd a'r hinsawdd, a hefyd er mwyn darparu gwybodaeth am yr atmosfferig y mae ei hangen ar gyfer modelu ansawdd aer. Ar y cyd ag ymchwilwyr o Goleg y Brifysgol Llundain, datblygodd Abertawe set ddata o adlewyrchedd y Ddaear a ddefnyddir yn helaeth. Datblygodd Abertawe ragor o ddulliau mewn cydweithrediad â Swyddfa Meteorolegol y Deyrnas Unedig er mwyn defnyddio'r adlewyrchedd arwynebau hwn i ragfynegi'r tywydd a'r hinsawdd yn well.

Noswyl Iâ ICESat

ICESat Ice Elevation

Yr Effaith

Caiff modelau rhagfynegi a setiau data a gafodd eu datblygu a'u gwella gan GEMEO eu defnyddio'n rheolaidd gan asiantaethau yn y Deyrnas Unedig ac yn Ewrop (megis Swyddfa Meteorolegol y Deyrnas Unedig a'r Asiantaeth Ofod Ewropeaidd).  Mae'r Ganolfan Ewropeaidd ar gyfer Rhagolygon Tywydd Cyfnod Canolig (ECMWF) wedi defnyddio setiau data Prifysgol Abertawe er mwyn gwella modelau ansawdd aer rhanbarthol, ac er mwyn dadansoddi'r hinsawdd ac ynni solar. Mae Prifysgol Abertawe yn cydweithredu ag EUMETSAT er mwyn llunio map lloeren amser go-iawn o lygredd atmosfferig er mwyn gwella gwaith rhagfynegi ansawdd aer, sydd ar gael i'r cyhoedd ac i asiantaethau rhagfynegi'r tywydd. Mae sawl asiantaeth genedlaethol wedi defnyddio'r setiau data gwell gan Abertawe er mwyn meincnodi eu modelau hinsawdd, tra yn y Deyrnas Unedig mae'r setiau data wedi cael eu defnyddio er mwyn gwella'n sylweddol waith rhagfynegi'r tywydd yn ddyddiol, a rhagfynegi rhagolygon hinsawdd mwy realistig a gyflwynir i'r Panel Rhynglywodraethol ar Newid yn yr Hinsawdd (yr IPCC).

Text ReadsNodau datblygu cynaliadwy y cenhedloedd unedig
UNSDG for health showing a heart
UNSDG Climate Action
UNSDG Life on Land
Themâu ymchwil Prifysgol Abertawe