Gwyddonydd yn gwisgo gogls wrth ddefnyddio laser i gynnal arbrawf mewn ystafell dywyll

Mae Prifysgol Abertawe wedi ennill cyllid gwerth mwy na £2m i barhau i ddatblygu effaith ei gwaith ymchwil ac arloesi eang. 

Mae Cyfrif Cyflymu Effaith y Brifysgol wedi sicrhau £2,058,212 a defnyddir cyfran sylweddol o'r cyllid hwn i gefnogi portffolio o weithgareddau.

Mae'r rhain yn cynnwys:

  • ymgysylltu â defnyddwyr ymchwil ar adeg gynnar;
  • datblygu cyrhaeddiad a dyfnder effaith y Brifysgol;
  • ysgogi syniadau a dangos prawf o'u buddion;
  • cefnogi llwybrau masnachol i'r farchnad;
  • gwneud y mwyaf o fentrau cydweithredol posib drwy secondio staff i sefydliadau partner ac oddi arnynt.

Bydd rhagor o gyfleoedd hyfforddiant i ehangu effaith ymchwilwyr yn ogystal â gweithgareddau marchnata a hyrwyddo.

Bydd y cyllid hefyd yn helpu i greu cyfleoedd ymchwil, cefnogi ymgysylltiad â'r cyhoedd a chreu a sicrhau cyflogaeth sy'n gysylltiedig â phrosiectau unigol.

Mae'r arian yn rhan o hwb tair blynedd gwerth £118m a ddyfarnwyd gan y Cyfrif Cyflymu Effaith (IAA) i 64 o brifysgolion a sefydliadau ymchwil. Nod cyllid yr IAA, sydd bellach yn ei 10fed flwyddyn, yw ailgynnau'r broses o gyfnewid gwybodaeth, ei rhoi ar waith a'i masnacheiddio.

Mae'r cyllid, a ddefnyddir ledled cyfadrannau'r Brifysgol, yn cynnwys £450,000 gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC), £450,000 gan y Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC), ynghyd â £1,158,212 gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC).

Meddai Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Paul Boyle: “Ym Mhrifysgol Abertawe, rydyn ni'n ymdrechu i wneud gwaith ymchwil rhyngddisgyblaethol o'r radd flaenaf, dan arweiniad ein hacademyddion arloesol sy'n gweithio gyda phartneriaid cenedlaethol a rhyngwladol i fynd i'r afael â heriau pwysicaf y presennol a'r dyfodol.

“Rydyn ni wrth ein boddau i dderbyn y dyfarniad sylweddol hwn gan UKRI, sy'n adlewyrchu ein hymrwymiad i gefnogi datblygiad ein hymchwilwyr, ac ehangu defnydd a chyrhaeddiad ein gweithgarwch ymchwil.”

Ychwanegodd yr Athro Helen Griffiths, Dirprwy is-ganghellor y Brifysgol ar gyfer Ymchwil ac Arloesi: “Mae Prifysgol Abertawe wedi bod yn ymrwymedig i weithio mewn partneriaeth â'i chymuned i fynd i'r afael ag anghenion y rhanbarth a'r byd ehangach, gan wella bywydau dinasyddion, ers ei sefydlu ym 1920.

“Mae ein hymrwymiad i ymchwil sy'n newid bywydau ac yn ysgogi arloesedd a thwf rhanbarthol yn parhau hyd heddiw ac mae'n fraint i ni dderbyn y dyfarniad diweddaraf hwn gan Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI), er mwyn cefnogi ein cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer effaith.”

Meddai'r Fonesig Athro Ottoline Leyser, Prif Weithredwr UKRI: “Mae gan ymchwil ac arloesi'r potensial i wella bywydau a bywoliaethau pobl, gan adfywio cymunedau ledled y DU a mynd i'r afael â heriau byd-eang. Mae'n hanfodol ein bod ni'n gwneud yn fawr o'r potensial hwnnw.

“Nid yw'r llwybr rhwng darganfod ac effaith yn syml, felly mae'n hollbwysig ein bod ni'n rhoi cymorth hyblyg sy'n galluogi pobl a thimau talentog, a sefydliadau o safon fyd-eang i gysylltu darganfod â ffyniant a lles y cyhoedd.”

Uchafbwyntiau Ymchwil

 

Rhannu'r stori