Mwgwd untro glas wedi’i daflu i mewn i fin du.

Mae academyddion o Brifysgol Abertawe wedi arloesi proses sy'n trosi'r carbon a geir mewn mygydau a daflwyd er mwyn creu nanodiwbiau carbon ag un wal, a ddefnyddiwyd wedi hynny i wneud ceblau ether-rwyd o ansawdd band eang.

Mae'r astudiaeth, a gyhoeddwyd yn Carbon Letters, yn amlinellu sut gellid defnyddio'r gemeg werdd newydd hon i uwchgylchu deunyddiau a fyddai wedi cael eu taflu fel eraill a'u trawsnewid yn ddeunyddiau gwerthfawr i'w defnyddio yn y byd go iawn. Gall y nanodiwbiau carbon a gynhyrchir drwy'r dechneg hon gael eu defnyddio wrth gynhyrchu batris ysgafn ar gyfer ceir trydan a dronau, yn ogystal ag at ddibenion ceblau ether-rwyd. 

Meddai'r Athro Alvin Orbaek White, o Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni Prifysgol Abertawe:

“Mae mygydau untro yn faen tramgwydd go iawn i'r system ailgylchu gan eu bod yn creu symiau helaeth o wastraff plastig sy’n cyrraedd ein cefnforoedd. Yn ystod yr astudiaeth, gwnaethon ni gadarnhau y gellir defnyddio'r carbon y tu mewn i'r mwgwd fel defnydd crai da i greu deunyddiau o safon uchel megis nanodiwbiau carbon. 

“Mae galw mawr am nanodiwbiau carbon gan fod ganddyn nhw briodweddau ffisegol ffafriol ac maen nhw'n tueddu i fod yn llawer drutach ar raddfa ddiwydiannol. Felly, drwy'r astudiaeth hon, gwnaethon ni ddangos y gallen ni greu deunyddiau gwerthfawr iawn drwy brosesu'r nanodiwbiau carbon o fygydau gwastraff a oedd, i bob pwrpas, yn ddiwerth.”

Astudiodd aelodau'r tîm y costau ynni sy'n gysylltiedig â defnyddio'r broses hon hefyd, gan ddod i'r casgliad bod y dechneg yn wyrdd o ran lefelau defnyddio adnoddau, yn ogystal ag o ran creu cynnyrch sydd o werth yn hytrach na gwastraff. Hefyd, roedd y cebl ether-rwyd a gynhyrchwyd drwy ddefnyddio'r  nanodiwbiau carbon o safon dda a chydymffurfiodd â chyflymderau trosglwyddo Categori 5 wrth ragori'n hawdd ar y meincnodau a bennir ar gyfer rhyngrwyd band eang yn y rhan fwyaf o wledydd, gan gynnwys y DU. 

Meddai'r Athro Orbaek White:

“Mae defnyddio haenau nanodiwbiau carbon mewn batris yn hytrach na haenau metel yn cael llai o effaith ar yr amgylchedd gan fod y defnydd o garbon yn gwrthbwyso'r angen am weithgareddau mwyngloddio ac echdynnu. Dyma waith hollbwysig gan ei fod yn cyfrannu at economi gylchol. Yn ogystal â hynny, gellir ei ehangu, mae'n ymarferol at ddibenion prosesu diwydiannol ac mae cemeg werdd wrth wraidd y cyfan.”

Rhannu'r stori