Bachgen yn y GwyddonLe

Mae Prifysgol Abertawe yn falch o noddi un o brif atyniadau maes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, sef pafiliwn y GwyddonLe, eto eleni, gan gynnig wythnos lawn o weithgareddau addysgiadol difyr i blant a phobl ifanc.

Bydd modd i ymwelwyr â’r Eisteddfod, sy’n cael ei chynnal yn Sir Ddinbych rhwng 30 Mai a 4 Mehefin, fwynhau arlwy amrywiol o weithgareddau o fyd gwyddoniaeth dan arweiniad gwyddonwyr Prifysgol Abertawe, yn ogystal â sioeau, arddangosiadau, crefftau a chystadlaethau.

Thema'r GwyddonLe eleni yw ‘Canrif o Ddatblygiadau Iechyd’ ac yn ogystal â stondinau a gweithgareddau gwyddonol bydd arddangosfa arbennig yn dathlu canrif o ddatblygiadau meddygol i gyd-fynd â dathliadau canmlwyddiant yr Urdd. Bydd yr arddangosfa ar ffurf taith yn rhannu gwybodaeth am y cerrig milltir meddygol sydd wedi newid y byd ers 1922. Ar ddiwedd y daith bydd cyfle i bawb nodi eu hoff ddatblygiad o’r ganrif ddiwethaf a rhannu eu syniadau am beth hoffent ei weld yn cael ei ddyfeisio a’i gyflwyno dros y can mlynedd nesaf. Ar ôl profi'r arddangosfa bydd cyfle i ymwelwyr â'r GwyddonLe droi at y byd digidol gyda'n gêm Anatomeg Realiti Rhithwir, sydd wedi cael ei chreu gan fyfyrwyr Prifysgol Abertawe. Mae'r gêm yn addysgu am y corff trwy ddysgu rhyngweithiol hwyliog fydd yn aros yn hir yn y cof. 

Fel rhan o’r digwyddiadau i nodi dathliadau 60 mlynedd Coleg Brenhinol y Patholegwyr, bydd Dr Emyr Benbow o Brifysgol Manceinion yn cyflwyno ymwelwyr i fyd y patholegydd am 10am ar y dydd Gwener, gan ddefnyddio rhywun byw i esbonio sut mae cynnal awtopsi.

Bydd cystadleuaeth siarad cyhoeddus Her Sefydliad Morgan yn cael ei chynnal am 12pm ar y dydd Gwener a’r testun gosod yw ‘Dylai fod yn orfodol i bobl gael eu brechu yn erbyn heintiau difrifol, er lles cymdeithas’. Bydd disgyblion Ysgol Bro Teifi ac Ysgol Bro Pedr yn mynd benben er mwyn ennill y tlws a’r cyfle am brofiad gwaith i’r siaradwr gorau wedi ei drefnu gan Academi Hywel Teifi.

Noddir y gystadleuaeth gan Sefydliad Morgan, canolfan ymchwilio materion polisi cyhoeddus Prifysgol Abertawe. Lansiwyd y gystadleuaeth yn 2018 a’i nod yw rhoi cyfle i ddisgyblion arddangos eu sgiliau rhesymu a dadlau yn ogystal â derbyn adborth gan feirniaid blaenllaw ym maes polisi a gwleidyddiaeth. Beirniaid y gystadleuaeth eleni fydd yr Athro Angharad Puw Davies o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe a’r gwleidydd Llyr Gruffydd AS.

Mi fydd partneriaid allanol y GwyddonLe, sef Llaeth y Llan, SBARDUNO, RAS200, Wessex Archaeology ac Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, hefyd yn darparu gweithgareddau amrywiol yn ystod yr wythnos.

Meddai Gwenno Ffrancon, Cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe: "Ar ôl dwy flynedd o gyfrannu trwy ddulliau digidol at fwrlwm Eisteddfod T, mi rydyn ni fel staff a myfyrwyr Prifysgol Abertawe wrth ein boddau ein bod nawr yn cael dychwelyd i faes Eisteddfod yr Urdd ac ailgyflwyno pobl ifanc Cymru i hwyl a chyffro'r GwyddonLe. 

“Eleni mae ein thema yn cydblethu â dathliadau canmlwyddiant yr Urdd a bydd y GwyddonLe yn rhoi cyfle i ymwelwyr ddysgu am y datblygiadau sydd wedi eu gweld ym maes gofal iechyd a meddygaeth yn ystod canrif yr Urdd. Fel sydd wedi bod yn arferol yn y GwyddonLe, bydd cyfle i blant a phobl ifanc ddysgu am y datblygiadau ers 1922 trwy sioeau, arbrofion, cwisiau a chrefftau hwyliog. Bydd rhywbeth at ddant pawb ac mi fydd yn hyfryd croesawu pawb yn ôl atom!"

Rhannu'r stori