Grŵp o raddedigion yn taflu eu capiau yn yr awyr.

Mae Academi Cyflogadwyedd Prifysgol Abertawe wedi cael ei henwebu am bum gwobr yng Ngwobrau Rhagoriaeth AGCAS (Association of Graduate Careers Advisory Services) 2022.

Mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe, sy'n rhoi cymorth i fyfyrwyr a graddedigion drwy gynnig cyngor ar yrfaoedd a chyfleoedd am gyflogaeth iddynt, wedi cyrraedd y rhestr fer mewn pedwar categori, gan gynnwys:

  • Newydd-ddyfodiad Gorau;
  • Arloesi Strategol;
  • Meithrin Partneriaethau Effeithiol;
  • A dau enwebiad am Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynwysoldeb.

Mae Gwobrau Rhagoriaeth AGCAS yn dathlu ac yn rhannu arferion da ymhlith ymarferwyr gyrfaoedd a chyflogadwyedd a'u sefydliadau partner ym maes addysg uwch.

Mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe'n cael ei chydnabod am ei Rhaglen Cymorth i Raddedigion, a’i Chwrs Datblygu Gyrfa rhyngweithiol ar-lein sydd ar gael i fyfyrwyr a graddedigion Prifysgol Abertawe.

Mae'r rhaglenni’n  galluogi unigolion i ddatblygu'r sgiliau i'w paratoi ar gyfer y gweithle a hybu eu hyder wrth iddynt baratoi ar gyfer y broses recriwtio a sicrhau swydd i rywun sydd wedi graddio.

Mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe hefyd wedi cael ei henwebu am ei chyfranogiad yn RE:Action 24/7, sef partneriaeth rhwng saith prifysgol yn y DU, a TG Consulting, asiantaeth sy'n cysylltu addysgwyr, myfyrwyr a chyflogwyr.

Mae'r rhaglen unigryw hon yn helpu i chwalu rhwystrau i fyfyrwyr o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol llai breintiedig, gan roi mynediad at fodelau rôl ysbrydoledig, hyfforddiant sy'n grymuso, a sesiynau myfyrio.

Ar ôl ei chwblhau, cafwyd cynnydd o 30% yn hyder myfyrwyr Prifysgol Abertawe a chynnydd o 69% mewn cyfeiriad gyrfa.

Meddai Lucy Griffiths, Pennaeth Academi Cyflogadwyedd Prifysgol Abertawe: “Rwyf wrth fy modd bod aelodau tîm Academi Cyflogadwyedd Abertawe wedi cael eu henwebu yng Ngwobrau Rhagoriaeth AGCAS, sy'n uchel eu bri, eleni.

“Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynwysoldeb wrth wraidd cenhadaeth Academi Cyflogadwyedd Abertawe, er mwyn sicrhau chwarae teg i'n holl fyfyrwyr a graddedigion, ac ni fydden ni'n gallu gwneud hyn, a'n nodau strategol eraill, heb weithio'n ardderchog mewn partneriaeth a rhoi pwyslais cryf ar arloesi strategol.

“Rwyf wrth fy modd hefyd fod un o aelodau diweddaraf ein tîm, Rob Yarr, yn cael ei gydnabod am ei effaith, ochr yn ochr â'r tîm ehangach, ar y gwaith yr ymgymerwyd ag ef â phartneriaid talentog ein prifysgol a TG Consulting, sy'n rhagorol.

“Ar ben hynny, mae'n anrhydedd anferth ein bod ni wedi cael ein cydnabod am ein Cwrs Datblygu Gyrfa arloesol a'n Rhaglen Cymorth i Raddedigion, a ariennir gan Lywodraeth Cymru drwy Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

“Waeth beth am y canlyniad, mae cael cynifer o enwebiadau'n anhygoel ac yn rhoi tystiolaeth o'r buddsoddiad yng nghyflogadwyedd ein myfyrwyr a'n graddedigion ym Mhrifysgol Abertawe.”

Meddai'r Athro Martin Stringer, Dirprwy Is-ganghellor ar gyfer Addysg: “Mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe'n rhan o daith pob myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe.

“Mae'r enwebiadau hyn yn amlygu ymrwymiad y tîm i gefnogi ein myfyrwyr a'n graddedigion wrth iddyn nhw lywio'r broses recriwtio sy'n heriol yn aml.”

Cyhoeddir yr enillwyr yn ystod cynhadledd ar-lein AGCAS, o 21 – 23 Mehefin 2022.

Dysgwch fwy am gyflogadwyedd ym Mhrifysgol Abertawe.

Rhannu'r stori