Cynhadledd CEIC i rannu syniadau ar ddyfodol cynaliadwy yng Nghymru

Bydd hyrwyddwyr amgylcheddol o bob rhan o dde Cymru a'r tu hwnt yn gallu rhannu syniadau a chael ysbrydoliaeth werthfawr er mwyn cefnogi dyfodol cynaliadwy yng Nghymru mewn digwyddiad arbennig y mis nesaf.

Cynhelir Cynhadledd yr Hydref Cymunedau Arloesi'r Economi Gylchol (CEIC) yn Stadiwm SWALEC Caerdydd ddydd Mawrth, 27 Medi.

Mae tocynnau ar gael nawr ar gyfer y digwyddiad hwn am ddim â'r nod o drafod sut gall ymdrechion cynyddol, a gynlluniwyd yn dda arwain at effaith sylweddol.

Y prif siaradwr yw Dr Etienne Wenger-Trayner a fydd yn rhannu damcaniaeth ddysgu'n seiliedig ar y cysyniad o gymunedau ymarfer.

Mae rhaglen CEIC yn galluogi cydweithwyr o bob rhan o'r sector cyhoeddus a thrydydd sector i gydweithio a chreu cymunedau ymarfer i ddatblygu atebion arloesol i'r her fwyaf sy’n wynebu ein cenhedlaeth ni fwy na thebyg.

Dywedodd cyfarwyddwr prosiect CEIC, Dr Gary Walpole: “Mae gennym lawer o waith i'w wneud i gyrraedd y targed uchelgeisiol o garbon sero net erbyn 2030 ac mae angen help pawb arnom i'w gyrraedd.

“Bydd y gynhadledd hon yn arddangos y gwaith gwych sy'n cael ei wneud ledled gwasanaethau cyhoeddus de Cymru i gynnwys egwyddorion yr economi gylchol yn eu sefydliadau nhw. Mae'r gynhadledd hefyd yn creu cyfleoedd i gwrdd â chyfranogwr presennol, dysgu am yr hyn maent wedi bod yn ei wneud a siarad â thîm CEIC am gymryd rhan."

Amlinelliad y Gynhadledd

Sesiwn y Bore: Mae croeso i bawb ddod i glywed gan ein prif siaradwr, Dr Etienne Wenger-Trayner yn ogystal â dysgu am yr ymdrechion mae cyfranogwyr CEIC Cymru yn eu gwneud i fabwysiadu ymarferion yr economi gylchol i fynd i'r afael â'r argyfwng yn yr hinsawdd.

Sesiwn y prynhawn: Estynnir gwahoddiad i gyfranogwyr CEIC y presennol a'r gorffennol aros ar gyfer sesiwn rhwydweithio'r prynhawn lle byddwn yn gweithio ar heriau presennol a allai fod gennych chi.

Bydd y gynhadledd yn ddigwyddiad hybrid, gyda chyflwyniadau wyneb yn wyneb yn ogystal â chael eu ffrydio'n rhithwir. Cadwch eich lle chi nawr a dewis a ydych chi am ddod yn bersonol neu'n rhithwir.

Os oes gennych chi gwestiynau am y digwyddiad, e-bostiwch ceic@cardiffmet.ac.uk

Cynhelir rhaglen CEIC dros 10 mis, ac mae cyfranogwyr yn cwrdd unwaith y mis. Mae CEIC wedi'i hariannu'n llawn ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus Rhanbarth Bae Abertawe a Rhanbarth Prif-ddinas Caerdydd a’i nod yw datblygu manteision go iawn i sefydliadau sy'n cymryd rhan, y gymuned a'r blaned.

 

 

Rhannu'r stori