Ymweliad â swyddogion diwylliannol yn hybu cysylltiadau Abertawe ag Oman a Qatar

Ymweliad â swyddogion diwylliannol Oman (de) a Qatar (chwith)

Cysylltiadau cryfach ag Oman a Qatar oedd testun y trafodaethau yn ystod ymweliad gan uwch-gynrychiolwyr Prifysgol Abertawe â swyddfeydd Swyddogion Diwylliannol y ddwy wlad yn Llundain.

Yr Athro Judith Lamie, y Dirprwy Is-ganghellor dros Ymgysylltu Rhyngwladol, oedd arweinydd yr ymweliad, ar y cyd â Mohammed Hadia, Pennaeth Rhanbarthol dros y Dwyrain Canol, Affrica, Twrci a Phacistan yn Swyddfa Datblygu Rhyngwladol y Brifysgol.

Yn swyddfa Oman, cyfarfu'r tîm o Abertawe â'i Hardderchogrwydd Mrs Abeer Ali Awadh, Swyddog Diwylliannol Oman, a Mr Mohamed Ali, y Pennaeth Cyllid.

Yn swyddfa Qatar, cyfarfu'r tîm â'i Ardderchogrwydd Mr Fahad Al-Kuwari, Swyddog Diwylliannol Qatar, a Mrs Reem Al-Sabbagh, sy'n Ymgynghorydd Academaidd.

Mae gan Abertawe gysylltiadau eisoes â Swltaniaeth Oman a Gwladwriaeth Qatar gan fod myfyrwyr o Oman a Qatar yn astudio yn y Brifysgol. Diben yr ymweliad oedd cyflwyno'r Athro Lamie i'r ddau Swyddog Diwylliannol ac ystyried sut gellid atgyfnerthu'r cysylltiadau hyn .

Roedd y meysydd cydweithredu eraill a drafodwyd yn cynnwys y cymorth a ddarperir i fyfyrwyr presennol a darpar fyfyrwyr o Oman a Qatar.

Trafodwyd mentrau ymchwil cydweithredol mewn pynciau amrywiol hefyd; dyma un o brif flaenoriaethau Abertawe fel prifysgol sy'n rhoi pwyslais ar ymchwil ac sy'n ymrwymedig i bartneriaethau rhyngwladol cryf.

Meddai'r Athro Judith Lamie, Dirprwy Is-ganghellor ym Mhrifysgol Abertawe:

“Mae cysylltiadau Abertawe ag Oman a Qatar yn hynod bwysig i ni, a dyna'r rheswm pam roedd mor werthfawr gallu cwrdd â'r ddau Swyddog Diwylliannol yn Llundain.

Roedd ein trafodaethau'n ddefnyddiol iawn ac rwy'n hyderus y byddant yn arwain at gyfleoedd newydd i gydweithredu, gan roi cymorth i fyfyrwyr ac annog mentrau ymchwil cydweithredol.” "

 

Rhannu'r stori