Gwnaeth Dr Iain Robertson o Adran Ddaearyddiaeth Prifysgol Abertawe, ynghyd â Dr Zewdu Eshetu o Brifysgol Addis Ababa yn Ethiopia, arwain tîm rhyngwladol a nododd sampl o goed merywen yn Ethiopia.

Gwnaeth Dr Iain Robertson o Adran Ddaearyddiaeth Prifysgol Abertawe, ynghyd â Dr Zewdu Eshetu o Brifysgol Addis Ababa yn Ethiopia, arwain tîm rhyngwladol a nododd sampl o goed merywen yn Ethiopia (yn y llun).

Wrth i arweinwyr y byd ymgynnull yn yr Aifft ar gyfer yr uwchgynhadledd COP27 nesaf, wedi'i threfnu gan y Cenhedloedd Unedig, bydd pedwar arbenigwr o Abertawe sy'n cynnal ymchwil i wahanol agweddau ar yr argyfwng hinsawdd yn rhan o arddangosiad o gydweithrediadau yng Nghymru â phrifysgolion yn Affrica.

Mae'r uwchgynhadledd COP 27, a fydd yn dechrau ar 6 Tachwedd, yn dilyn y digwyddiad COP 26 a gynhaliwyd yn Glasgow yn yr hydref 2021.

Mae'r Rhwydwaith Ymchwil i Ynni Carbon Isel a'r Amgylchedd, sy'n rhan o Brifysgol Bangor yng Nghymru, yn casglu ac yn hyrwyddo enghreifftiau o gydweithio rhwng ymchwilwyr yng Nghymru ac Affrica, ar gyfer COP27 ac Wythnos Hinsawdd Cymru hefyd, a gynhelir o 21 Tachwedd.

Paneli Solar Ailgylchadwy:

Mae'r Athro Matthew Davies a'i dîm yng Nghanolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC Prifysgol Abertawe wedi bod yn gweithio gydag ymchwilwyr ym Mhrifysgol Kwazulu-Natal yn Ne Affrica i ddatblygu canolfan profi ynni solar.

Eu nod yw datblygu paneli solar sy'n hynod effeithlon ac sy'n deillio o ddeunyddiau y gellir eu hailddefnyddio, gan leihau'r angen i gloddio a defnyddio deunyddiau newydd.

Esbonia'r Athro Davies:

"Mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar greu cynnyrch ag ailgylchu dolen gaeedig er mwyn i ni allu datgyplu deunyddiau sylfaenol o'r economi.Drwy ddefnyddio'r deunyddiau eilaidd hyn, gallwn hyrwyddo'r economi heb greu CO2 hefyd."

Cylchoedd coed, tystiolaeth o'r hinsawdd a sychder:

Gall cylchoedd coed ddweud wrthym am hinsawdd y gorffennol, gan ddarparu tystiolaeth hanfodol am dueddiau hirdymor. Gwnaeth Dr Iain Robertson o Adran Ddaearyddiaeth Prifysgol Abertawe, ynghyd â chydweithwyr o Brifysgol Addis Ababa yn Ethiopia, arwain tîm rhyngwladol a nododd sampl o goed merywen yn Ethiopia a ddarparodd cofnodion hinsawdd o safon yn eu cylchoedd.

Roedd cymryd creiddiau o'r coed hyn yn galluogi'r tîm i weld patrymau o weithgarwch hinsawdd hyd at 300 o flynyddoedd yn ôl, gan roi tystiolaeth gadarn bod llai o ddŵr yn dod i'r wlad o Fasn y Congo, a bod risg uwch o sychder.

Meddai Dr Robertson:

"Tan nawr, y cofnodion hinsawdd hirdymor gorau a oedd gennym ar gyfer Ethiopia oedd archifau ynghylch llif Afon y Nîl, sy'n deillio yma. Drwy gymharu'r cofnodion hyn, mae gennym ddealltwriaeth well bellach o'r hyn i'w ddisgwyl wrth i Gefnfor yr India barhau i gynhesu."

Bygythiad i gŵn gwyllt Affrica:

Mae anifeiliaid ar draws y byd yn cael eu heffeithio gan newidiadau sy'n gysylltiedig â'r argyfwng hinsawdd, gan gynnwys cŵn gwyllt Affrica, sef un o'r prif ysglyfaethwyr yng nghanolbarth a de Affrica.

Mae'r Athro Luca Borger ac aelodau o Labordy Symudedd Anifeiliaid Abertawe o Adran y Biowyddorau ym Mhrifysgol Abertawe wedi bod yn astudio eu hymddygiad, ar y cyd â chydweithwyr o Brifysgol Pretoria yn Ne Affrica a Chymdeithas Sŵolegol Llundain. Maent wedi gosod tagiau ar gŵn gwyllt er mwyn olrhain eu symudiadau, eu tymheredd a'u defnydd o egni.

Bydd y data'n helpu wrth ddeall a yw cŵn gwyllt yn addasu at dymereddau cynyddol drwy newid ymddygiad, a sut maent yn gwneud hynny, er enghraifft drwy hela ysglyfaeth wahanol neu ddefnyddio cynefinoedd sydd â mwy o gysgod.

Meddai'r Athro Borger:

Mae cŵn gwyllt Affrica eisoes yn un o'r mamaliaid sy'n wynebu'r perygl mwyaf yn y byd, ac mae tymereddau uwch yn effeithio ar ddeinameg eu poblogaeth ymhellach. Drwy ddeall eu hymatebion ymddygiadol a ffisiolegol manwl, ein nod yw helpu i ddyfeisio mentrau cadwraeth gwell.

Cysylltu Cymunedau yn Liberia:

Mae Dr Krijn Peters o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe, ar y cyd â chydweithwyr yn Liberia, gan gynnwys LIDA-Research, wedi archwilio ateb newydd i wella mynediad i gymunedau gwledig.

Rhagfynegir y bydd mwy o law yn ystod y tymor gwlyb o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd yn Liberia, felly mae mwy o berygl o lwybrau mynediad yn cael eu rhwystro, gan gyfyngu ar fynediad i farchnadoedd, cyfleusterau addysg a chyfleusterau iechyd lleol.

Mae'r tîm ymchwil wedi datblygu dyluniad newydd i bontydd, wedi'i addasu ar gyfer yr amgylchedd lleol ac sy'n addas ar gyfer tacsis beic modur, sy'n drafnidiaeth boblogaidd. Bydd hyn yn cadw cymunedau gwledig yn gysylltiedig yn ystod y tymor gwlyb, ac oherwydd ei lled cyfyngedig bydd yn rhwystro coedwyr anghyfreithlon rhag dod i'r ardal gyda'u hoffer a'u tryciau.

Meddai Dr Peters:

Wrth i'r hinsawdd newid, mae Liberia'n disgwyl tymor glaw mwy gwlyb. Bydd hyrwyddo ffyrdd a phontydd wedi'u hatgyfnerthu yn helpu i gadw mynediad ar agor drwy gydol y flwyddyn, wrth geisio atal datgoedwigo coedwigoedd sylfaenol hefyd.

Dyfodol Cynaliadwy, Ynni a'r Amgylchedd - ymchwil Abertawe

Rhannu'r stori