Rebecca Sutton, Medi Harris, Joseph Small, Lewis Fraser, Alys Thomas, Jacob Draper, Panayiotis Panaretos, Sofoklis Mouglis a Liam White.

Bydd saith myfyriwr presennol Prifysgol Abertawe a thri o'n graddedigion yn cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad yr haf hwn yn Birmingham.

Yng Ngemau Birmingham 2022, bydd cyfanswm o 54 gwlad ac 18 tiriogaeth yn cystadlu yn y digwyddiad aml-gamp rhyngwladol rhwng 28 Gorffennaf ac 8 Awst.

Mae'r nofwyr o Brifysgol Abertawe a ddewiswyd i gynrychioli Tîm Cymru'n cynnwys:

  • Lewis Fraser
  • Rebecca Sutton
  • Liam White
  • Medi Harris
  • Joseph Small

Bydd y nyrs raddedig Anwen Butten yn gapten ar Dîm Cymru wrth iddi gystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad, a hynny am y chweched tro, ym maes bowls lawnt.  

Bydd Alys Thomas a raddiodd mewn Seicoleg a phencampwr y Gymanwlad hefyd yn cynrychioli Tîm Cymru yn y pwll. Enillodd Alys fedal aur a record Gemau'r Gymanwlad ar gyfer 200m y dull pili pala yn 2018 ac yna aeth ymlaen i gynrychioli Tîm Prydain Fawr yn rownd derfynol 200m y dull pili pala yng Ngemau Olympaidd Tokyo.

Mae'r myfyrwyr Panayiotis Panaretos a Sofoklis Mouglis hefyd wedi cael eu dewis i gynrychioli Tîm Cyprus yn y digwyddiadau nofio. Byddant yn cystadlu yn y rasys 100m dull broga a 100m dull ar y cefn yn ôl eu trefn.

Bydd y chwaraewr hoci a'r myfyriwr graddedig mewn economeg, Jacob Draper yn cystadlu am y tro cyntaf yng Ngemau'r Gymanwlad dros Dîm Cymru yn Birmingham 2022, blwyddyn ar ôl cystadlu yn Tokyo 2020.

Meddai Imelda Phillips, Rheolwr Chwaraeon Perfformiad Prifysgol Abertawe: "Rydym wrth ein boddau'n llongyfarch ac yn cefnogi saith o'n nofwyr presennol ym Mhrifysgol Abertawe ar gael eu dewis i gynrychioli eu gwlad yng Ngemau'r Gymanwlad.

“Dyma'r nifer uchaf o athletwyr sydd wedi cael eu dewis am bencampwriaeth fawreddog o'n rhaglen nofio perfformiad uchel ac mae'n dyst i ymroddiad ac ymrwymiad ein athletwyr sy'n fyfyrwyr, a'r gwaith rhagorol a wneir gan ein hyfforddwyr, staff cefnogi a Rhaglen Gyrfa Ddeuol y Cynllun Ysgoloriaethau Athletwyr Talentog. Rydym yn dymuno'r gorau i bob un ohonynt yng Ngemau'r haf, ac mae hon yn bennod gyffrous i chwaraeon ym Mhrifysgol Abertawe!"

Dysgwch fwy am chwaraeon yn Abertawe.

Rhannu'r stori