Tri phlentyn yn gwenu ac yn dal dwylo wrth iddynt redeg drwy'r glaswellt hir ar ddiwrnod heulog gydag oedolyn yn gwenu y tu ôl iddynt.

Mae'r heriau unigryw sy'n wynebu iechyd a lles wrth i ni gyrraedd cyfnod newydd ar ôl y pandemig wedi cael eu hamlygu mewn adroddiad blynyddol a lansiwyd heddiw. 

Mae Sefydliad Gweithgarwch Corfforol, Iechyd a Chwaraeon Cymru (WIPAHS) yn rhwydwaith Cymru gyfan sy'n cynnwys pob un o'r wyth prifysgol wrth iddynt weithio gyda Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cymru. Mae'n dod â'r byd academaidd, y rhai sy'n hwyluso gweithgarwch corfforol a chwaraeon, llunwyr polisi a'r cyhoedd ynghyd er mwyn helpu i greu cymdeithas iachach.

Un enghraifft o waith y sefydliad oedd arolwg ledled y wlad sy'n asesu effaith cau ysgolion a llacio'r cyfyngiadau ar lefelau gweithgarwch corfforol ac iechyd meddwl plant. Datgelodd fod plant y cyfnodau clo a'r cyfyngiadau cysylltiedig wedi cael effaith wael ar blant; roedd rhai plant yn eistedd am 14 awr y dydd!

Meddai'r Athro Kelly Mackintosh o Adran Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff Prifysgol Abertawe, cyd-gadeirydd y Sefydliad: “Mae llawer o ffactorau wedi arwain at eistedd am gyhyd. Datgelodd ein hadolygiad cysylltiedig fod y rhain yn amrywio o ffactorau unigol, megis oedran a rhyw, i ffactorau cymdeithasol, megis amgylchedd y teulu.

“Mae hyn yn amlygu bod y broblem hon yn un gymhleth i'w datrys a bod angen i bawb – o deuluoedd i ysgolion a llunwyr polisi – gydweithio ar frys i hyrwyddo gweithgarwch corfforol a gwella iechyd meddwl y genhedlaeth nesaf.”

Mae'r Sefydliad bellach yn awyddus i barhau i helpu ymarferwyr a llunwyr polisi drwy rannu ei arbenigedd a'i allu ymchwil.

Meddai Cyfarwyddwr Ymchwil WIPAHS, yr Athro Melitta McNarry, hefyd o Brifysgol Abertawe: “Rydyn ni'n ymfalchïo yn y ffaith ein bod ni'n grŵp croesawgar a chyfeillgar sy'n gallu rhoi cymorth mewn amrywiaeth eang o bynciau ym meysydd gweithgarwch corfforol, iechyd a chwaraeon.

“Rydyn ni am ddarparu'r atebion y mae eu hangen ar bartneriaid er mwyn eu helpu gyda'u camau nesaf, yn ogystal â rhannu gwybodaeth ag amrywiaeth o gynulleidfaoedd. Os hoffech ragor o wybodaeth ynghylch sut gallen ni helpu, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Enghraifft arall o'r gwaith a wnaed yn ystod y flwyddyn ddiwethaf oedd cydweithrediad â Thriathlon Cymru, y corff cenedlaethol sy'n llywodraethu camp y triathlon yng Nghymru, a oedd am wybod a fu rhagor o achosion o bobl yn gorymarfer ac yn cael anafiadau gorddefnyddio yn sgîl y cynnydd yn y defnydd o blatfformau hyfforddiant ymarfer corff ar-lein yn ystod y pandemig.

Yn dilyn ymgynghoriad, gwnaeth WIPAHS baratoi a dosbarthu arolwg pwrpasol, gan ganfod bod naw y cant o gyfranogwyr yn gorymarfer, a oedd yn debyg i dymor arferol ymhlith athletwyr o safon uchel.

Llwyddodd Triathlon Cymru i ddefnyddio'r canfyddiadau er mwyn rhoi cyngor a chymorth gwell a oedd yn seiliedig ar dystiolaeth i athletwyr.

Meddai Owen Hathway, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Chwaraeon Cymru a Chyd-gadeirydd y Sefydliad: “Mae gwaith WIPAHS wedi rhoi hwb mawr i allu Chwaraeon Cymru, a'r sector chwaraeon, i flaenoriaethu adnoddau a buddsoddiad a gwneud penderfyniadau gwybodus ar bolisïau.

“Mae wedi gwneud cyfraniad hollbwysig wrth ymateb i anghenion ymchwil a deall rôl gweithgarwch corfforol a chwaraeon o safbwynt cyhoedd ehangach Cymru. Mae'r Sefydliad yn parhau i fod yn bartner strategol cynyddol bwysig ac mae'r adroddiad blynyddol yn dangos ansawdd a lled ei waith, gan ganolbwyntio ar Gymru gyfan.”

Mae'r adroddiad blynyddol yn amlygu ymchwil a gwblhawyd eisoes gan y Sefydliad, sydd hefyd yn edrych tua'r dyfodol gyda rhagor o brosiectau.

Mae'r rhain yn cynnwys gwerthusiad o'r fenter Active Education Beyond the School Day sy'n rhan o'r buddsoddiad gwerth £25m gan Lywodraeth Cymru mewn ysgolion sy'n canolbwyntio ar y gymuned er mwyn mynd i'r afael ag effaith tlodi.

Bydd y canfyddiadau'n helpu i ddarparu argymhellion ynghylch sut i greu ysgolion a all ennyn brwdfrydedd teuluoedd a chymunedau, yn enwedig y rhai sydd dan anfantais oherwydd tlodi.

Mae'r prosiect cyffrous hwn yn enghraifft o'r ffordd y mae WIPAHS yn gweithredu ar draws sectorau er mwyn darparu tystiolaeth allweddol i hyrwyddo iechyd a lles i bawb yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth am WIPAHS a'i waith 

Rhannu'r stori