Mae orang-wtan gwrywaidd yn ei lawn dwf yn gloddesta ar ffrwythau yn niogelwch Ardal Gadwraeth Dyffryn Danum ym Morneo.

Mae orang-wtan gwrywaidd yn ei lawn dwf yn gloddesta ar ffrwythau yn niogelwch Ardal Gadwraeth Dyffryn Danum ym Morneo.

Mae ymchwilwyr blaenllaw yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg yn parhau â phartneriaeth lwyddiannus â rhaglen ymchwil flaenllaw i goedwigoedd glaw ym Morneo yn dilyn grant ymchwil newydd gwerth £330,000.

Mae Partneriaeth Ymchwil Coedwigoedd Glaw De-ddwyrain Asia (SEARRP) wedi adnewyddu ei chydweithrediad sydd wedi para ers degawdau â Phrifysgol Abertawe drwy lofnodi cytundeb partneriaeth pum mlynedd newydd. Mae SEARRP yn cefnogi gwyddoniaeth amgylcheddol o safon ryngwladol, o'i chartref byd-enwog yng Nghanolfan Maes Dyffryn Danum yn Sabah, yn ochr Falaysiaidd Borneo.

Mae gwyddoniaeth SEARRP yn ymdrin â rhai o'r prif faterion sy'n wynebu'r gwaith o gadw, rheoli ac adfer tirweddau a choedwigoedd glaw trofannol de-ddwyrain Asia.

Lluniau: Canolfan Maes Dyffryn Danum yn Sabah

Meddai'r Athro Mary Gagen o Adran Ddaearyddiaeth Prifysgol Abertawe, arweinydd y prosiect:

“Mae gwyddoniaeth coedwigoedd bob amser wedi bod yn rhan gref o ymchwil amgylcheddol Prifysgol Abertawe a bydd hynny'n cynyddu yn sgîl sefydlu'r cytundeb partneriaeth newydd hwn â SEARRP ar ymchwil i goedwigoedd trofannol.

Mae Abertawe wedi gweithio gyda SEARRP ers iddi gael ei sefydlu yn y 1980au ac mae'r bartneriaeth honno wedi tyfu i gyrraedd cam newydd, sy'n seiliedig ar waith amgylcheddol allanol ac ennyn diddordeb y cyhoedd yn ogystal â gwyddoniaeth coedwigoedd glaw.

Er gwaethaf llawer o addewidion a datganiadau byd-eang ynghylch diogelu coedwigoedd, mae datgoedwigo byd-eang yn parhau ar gyflymder na ellir ei gynnal. Mae Sabah yn arwain y byd wrth ddatblygu polisïau ar goedwigoedd sy'n cefnogi cadwraeth amgylcheddol ac rydym yn falch o atgyfnerthu perthynas Abertawe â SEARRP wrth i ni gyrraedd y degawd hollbwysig ar gyfer troi'r gornel ac atal datgoedwigo byd-eang, a diogelu a chadw coedwigoedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.”

Meddai Dr Glen Reynolds, Cyfarwyddwr SEARRP a chymrawd ymchwil ôl-ddoethurol yn Abertawe:

“Mae academyddion a myfyrwyr ymchwil Abertawe wedi bod yn gyfrifol am enghreifftiau o'r gwaith gwyddonol pwysicaf a mwyaf effeithiol a wnaed drwy SEARRP.

Mae'r Athro Rory Walsh wedi gwneud cyfraniad arloesol at wella ein dealltwriaeth o hinsawdd a hydroleg coedwigoedd glaw trofannol, deinameg dalgylchoedd a materion sy'n ymwneud â newid defnydd tir ac erydu pridd – gwaith sydd wedi cael effaith uniongyrchol ar y broses o gadw a rheoli coedwigoedd Borneo.

Mae ymchwil yr Athro Neil Loader a'r Athro Mary Gagen i newid hirdymor yn yr hinsawdd sy'n defnyddio cofnodion o goed hirhoedlog mewn coedwigoedd glaw – yn enwedig eu hymchwil i gyfnodau o sychder difrifol sy'n cael dylanwad mawr ar ddeinameg coedwigoedd glaw – yn parhau i lywio syniadau am effeithiau posib hinsawdd newidiol Sabah.

Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd llofnodi'r cytundeb hwn yn dechrau cam hyd yn oed yn fwy cynhyrchiol yn y bartneriaeth rhwng Abertawe a SEARRP.”

Mae'r cytundeb partneriaeth newydd yn dilyn dau grant gan National Geographic: grant archwilio i gefnogi ymchwil yr Athro Gagen i newid yn yr hinsawdd yn Sabah a grant cymunedol National Geographic, a fydd yn gweld yr Athro Gagen yn gweithio mewn cydweithrediad â SEARRP yn Nyffryn Danum unwaith eto, er mwyn cynorthwyo'r broses o ddatblygu rhaglen addysg amgylcheddol ac allgymorth cadwraethol sy'n canolbwyntio ar y gymuned ar gyfer coedwig law iseldir Borneo.

Mae SEARRP hefyd yn cynnal cyrsiau maes i israddedigion yn ei chartref yn Nyffryn Danum, gan roi profiad ymarferol i fyfyrwyr daearyddiaeth a bioleg o ymchwil i goedwigoedd trofannol a chipolwg uniongyrchol ar y bygythiadau sy'n wynebu coedwigoedd trofannol a sut gellir lliniaru'r rhain.

Yn ddiweddar, mae'r Athro Mary Gagen wedi dechrau secondiad am flwyddyn i WWF-UK fel Prif Gynghorydd ar Goedwigoedd.

Gallwch ddilyn ymchwil SEARRP

Daearyddiaeth - Prifysgol Abertawe

Dyfodol cynaliadwy, Ynni a'r Amgylchedd - ymchwil Abertawe

 

Rhannu'r stori