Mariia Hryhorian yn y labordy, Prifysgol Abertawe. Mae Mariia ymysg y grŵp cyntaf o fyfyrwyr i elwa o'r bartneriaeth newydd.

Mariia Hryhorian yn y labordy, Prifysgol Abertawe.  Mae Mariia ymysg y grŵp cyntaf o fyfyrwyr i elwa o'r bartneriaeth newydd.

Mae myfyriwr meddygaeth o Wcráin sy'n treulio semester yn Abertawe fel rhan o bartneriaeth newydd gyda phrifysgol yn ei mamwlad wedi dweud ei bod wedi cwympo mewn cariad â'r wlad o'r diwrnod cyntaf ac wedi diolch i'r ddwy brifysgol am wneud yr ymweliad yn bosib.

Mae Mariia Hryhorian o Mykolaiv, dinas borthladd gydag oddeutu 470,000 o bobl yn ne Wcráin sydd wedi bod dan gyrch mynych ers i luoedd Rwsia ymosod ar y wlad ym mis Chwefror 2022.

Prifysgol Genedlaethol Petro Mohyla'r Môr Du (PMBSNU) ym Mykolaiv yw ei phrifysgol yn ei gwlad, a lofnododd gytundeb partneriaeth â Phrifysgol Abertawe'n ddiweddar. Bydd y cytundeb yn arwain at ymchwil ar y cyd, yn ogystal â chyfleoedd i staff a myfyrwyr o PMBSNU i dreulio amser yn Abertawe. Mae Mariia ymysg y grŵp cyntaf o fyfyrwyr i elwa o'r bartneriaeth newydd.

Mwy o wybodaeth - partneriaeth Abertawe/PMBSNU

Mae Mariia'n astudio meddygaeth yn yr Wcráin, gan gynnwys gynaecoleg, llawdriniaeth, pediatreg a chlefydau heintus. Yn ystod ei hamser ym Mhrifysgol Abertawe, mae'n dilyn y cyrsiau canlynol yn yr Ysgol Feddygaeth: ffarmacoleg; ffarmacogenomeg, genynnau a chyffuriau; a chyfathrebiadau ar gyfer gwyddonwyr meddygol.

Ar hyn o bryd, mae ar ei chweched blwyddyn o astudiaethau, ac mae ganddi ddiddordeb penodol mewn meddygaeth atgenhedlu ac mae'n gobeithio bod yn gynaecolegydd, gan arbenigo mewn IVF, y mae hi'n ei ddisgrifio fel "dyfodol meddygaeth".

Pan ofynnwyd iddi am ei hargraffiadau ers dechrau ar ei hastudiaethau yn Abertawe, meddai Mariia Hryhorian:

"Cefais fy synnu at ba mor fawr oedd y Brifysgol a pha mor gyfeillgar oedd y tîm. Rwy'n hoffi'r system addysg ym Mhrifysgol Abertawe. Rwy'n hoffi'r ffaith bod gan y Brifysgol gyfarpar modern - rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ar gyfer gwaith meddygon y dyfodol.

Rwyf hefyd yn mwynhau bod popeth yn cael ei wneud er hwylustod y myfyriwr, sdim ots ble rydych chi. Cefais fy synnu ynghylch y berthynas rhwng yr athrawon a'r myfyrwyr. Maen nhw fel un tîm mawr. Gall myfyrwyr ofyn am gymorth a bydd y Brifysgol yn helpu. Rwyf hefyd yn hoffi sut mae clybiau cymdeithasol a theithiau o'r Brifysgol yn cael eu trefnu. Byddaf yn dweud wrth fy holl ffrindiau ac yn eu cynghori i ddod i astudio yma".

Llofnodwyd y bartneriaeth newydd rhwng Prifysgol Abertawe a PMBSNU gan benaethiaid y ddwy brifysgol mewn seremoni ar y cyd a gynhaliwyd yn Abertawe ac ym Mykolaiv. Dyma'r enghraifft ddiweddaraf o sut mae Prifysgol Abertawe, yng ngeiriau'r Is-ganghellor yr Athro Paul Boyle, “yn sefyll gyda phobl Wcráin i amddiffyn eu sofraniaeth, eu hannibyniaeth a'u rhyddid democrataidd.”

Gan ddisgrifio'r bartneriaeth newydd fel rhywbeth "pwysig iawn”, meddai Mariia:

"Mae'n anrhydedd fawr cael cyfnewid profiad o ran gwaith ac astudio. Hoffwn ddiolch i fy mhrifysgol PMBSNU am y cyfle hwn. Rwyf hefyd am ddiolch i'r tîm ym Mhrifysgol Abertawe am groeso mor gynnes. Rwyf wrth fy modd bod Prifysgol Abertawe'n cefnogi Wcráin ar adeg mor anodd i ni i gyd.

Dywedodd Mariia hefyd am y ffyrdd y mae ei phrofiad yn Abertawe – ei hymweliad cyntaf â'r DU – o fudd iddi:

"Mae treulio amser dramor fel rhan o raglen cyfnewid myfyrwyr yn brofiad gwobrwyol dros ben sy'n rhoi dewrder a hunanhyder i mi.

Dyma fy nhro cyntaf yn ymweld â Phrydain a Chymru, ond gwnes i gwympo mewn cariad â'r wlad hon o'r diwrnod cyntaf. Mae'r bobl mor garedig a chyfeillgar. Mae natur hyfryd ym mhob rhan o Gymru pan fyddwch am deithio i ddysgu am ei diwylliant. Rwy'n hoffi'r ffaith fy mod yn byw ger y môr.

Gwnes i gyfarfod â meddygon hyfryd a bellach mae gen i ffrindiau o rannau gwahanol y byd. Dechreuais hefyd ysgrifennu erthyglau meddygol gyda meddygon o Brifysgol Abertawe.

Rwy'n mwynhau pob diwrnod yma. Mae'n anrhydedd cael y cyfle i fyw, astudio a datblygu yma yn Abertawe".

Ychwanegodd yr Athro Lisa Wallace o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe:

"Mae'n anrhydedd cael ein gefeillio â PMBSNU ac mae'n bleser cael croesawu Mariia a'i chyd-fyfyrwyr o Wcráin. Maen nhw'n llysgenhadon arbennig ar gyfer eu gwlad a'r Brifysgol.

Mae cydweithwyr a myfyrwyr o Wcráin wedi dangos gwytnwch anhygoel ac mae Prifysgol Abertawe'n falch o gael chwarae rhan fach i'w cefnogi nhw.Edrychwn ymlaen at gydweithio â PMBSNU o ran symudedd myfyrwyr ac ymchwil academaidd ar y cyd, mewn partneriaeth sy'n goroesi y tu hwnt i'r rhyfel.”

Rhannu'r stori