Sgrap: nod tîm y prosiect yw adeiladu safle peilot ar raddfa ddiwydiannol a all arddangos y dechnoleg didoli a phrosesu ddiweddaraf, a dangos ei bod yn effeithiol. Byddai'n cynyddu swm y gwastraff sy'n cael ei adennill a'i ailgylchu

Sgrap: nod tîm y prosiect yw adeiladu safle peilot ar raddfa ddiwydiannol a all arddangos y dechnoleg didoli a phrosesu ddiweddaraf, a dangos ei bod yn effeithiol. Byddai'n cynyddu swm y gwastraff sy'n cael ei adennill a'i ailgylchu

Ailgylchu mwy o ddeunydd o gynhyrchion ar ddiwedd eu hoes – o reiliau a thrawstiau i geir a pheiriannau golchi – yw nod tîm dan arweiniad Prifysgol Abertawe sy'n bwriadu adeiladu safle didoli technolegol soffistigedig newydd, ac sy'n galw am gefnogaeth byd diwydiant.

Mae gwahanu a didoli deunyddiau'n effeithiol yn hollbwysig wrth hybu cyfraddau ailgylchu a lleihau gwastraff.

Mae hyn yn haws gyda chynhyrchion sy'n cynnwys un deunydd, megis can diodydd dur, ond mae'n llawer anos gyda chynnyrch terfynol megis peiriant golchi sy'n cynnwys llawer o ddeunyddiau gwahanol.

Er bod lefelau ailgylchu'n cynyddu, gall technegau a thechnoleg newydd ar gyfer prosesu ac adennill deunyddiau i'w hailddefnyddio hybu'r gyfradd ymhellach. Mae'r prosiect newydd, sef i-SPACE, yn berthnasol yn hyn o beth.

Nod tîm y prosiect yw adeiladu safle peilot ar raddfa ddiwydiannol a all arddangos y dechnoleg didoli a phrosesu ddiweddaraf, a dangos ei bod yn effeithiol. Byddai'n cynyddu swm y gwastraff sy'n cael ei adennill a'i ailgylchu, a'i drosi'n ddeunyddiau craidd newydd y gellir eu defnyddio gan ddiwydiannau sylfaen eraill fel y'u gelwir, megis sment, gwydr, cerameg a phapur. Byddai hefyd yn ganolfan gwybodaeth a sgiliau yn y maes hwn sy'n tyfu'n gyflym.

Fodd bynnag, cam cyntaf y prosiect yw dadlau o blaid adeiladu'r safle, er mwyn denu'r gefnogaeth angenrheidiol i'w roi ar waith.

Mae'r prosiect yn gydweithrediad rhwng Prifysgol Abertawe a gwneuthurwyr dur yn y DU. Ond gobaith tîm i-SPACE yw y bydd eraill – o'r sector dur a'i gadwyn gyflenwi ac o ddiwydiannau sylfaen eraill a all fod ar eu hennill – hefyd yn cymryd rhan ac yn helpu i ddadlau o blaid adeiladu'r safle.

Mae dur yn dangos y manteision posib anferth a allai ddeillio o fuddsoddi mewn gwaith didoli a phrosesu gwell.

Mae dur yn hanfodol ar gyfer economi werdd ac mae'n cael ei ailgylchu'n fwy na'r un deunydd arall yn y byd, ond mae proses gweithgynhyrchu dur yn dal i ddefnyddio llawer o garbon gan ei fod yn deillio o fwyn haearn. Fodd bynnag, gellir creu dur hefyd drwy doddi ac ailddefnyddio dur sgrap ac mae'r dull hwn yn cynhyrchu llawer llai o allyriadau carbon.

Ffynhonnell fwyaf sgrap yw cynhyrchion ar ddiwedd eu hoes, o oergelloedd i ganiau diodydd. Fodd bynnag, er mwyn iddo fod yn addas fel deunydd crai ar gyfer prosesau creu dur technolegol soffistigedig heddiw, rhaid i'r sgrap fod o safon uchel, gan feddu ar y cyfansoddiad cemegol cywir a pheidio â chael ei halogi gan ddeunydd arall, sy'n hollbwysig.

Dyna pam mae’n hollbwysig didoli a phrosesu'n well. Mae'n arwain at ddur sgrap glanach a gwell, sydd yn ei dro'n golygu bod y broses creu dur yn wyrddach a'i bod yn cynhyrchu llai o allyriadau carbon.

Mae hefyd yn arwain at ailgylchu mwy o ddeunyddiau eraill, sef metelau eraill megis alwminiwm neu gopr, neu gydrannau eraill megis plastig. Ar hyn o bryd, mae llawer o'r deunyddiau hyn yn cael eu taflu, ond mae cyfle i'w trosi'n gynhyrchion y gall diwydiannau eraill eu defnyddio.

Meddai Richard Curry o Brifysgol Abertawe, sy'n arwain prosiect i-SPACE:

“Mae'n hanfodol didoli a phrosesu deunydd yn well er mwyn lleihau gwastraff ymhellach a symud yn gyflymach tuag at economi carbon isel gynaliadwy.

“Nod ein prosiect yw rhoi cyfleuster ymchwil a datblygu pwrpasol i ddiwydiannau gweithgynhyrchu a fydd yn datblygu ffynhonnell deunydd crai o gydrannau diwedd oes sy'n ymarferol o safbwynt technegol a masnachol. Yna gall y deunydd sydd wedi'i adennill gael ei ddefnyddio gan y diwydiant dur a diwydiannau sylfaen eraill yma yn y DU, yn hytrach na chael ei allforio neu ei drosi'n gynnyrch o safon is, neu ei anfon i safleoedd tirlenwi.

“Ein blaenoriaeth yw ennill cefnogaeth er mwyn ein helpu i gael caniatâd i adeiladu'r safle. Felly, rydyn ni'n awyddus iawn i glywed gan sefydliadau eraill a chwmnïau yn sector diwydiannau sylfaen y DU, er mwyn cael eu mewnbwn a'u cefnogaeth ar gyfer y safle.”

Ariennir i-SPACE gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop yr UE drwy Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru.

Ceir rhagor o wybodaeth, drwy e-bostio i-space.circulareconomy@abertawe.ac.uk

Arloesedd dur - ymchwil Abertawe

 

 

Rhannu'r stori