Academi'r Gwyddorau Meddygol yn enwi Athro Iechyd Cyhoeddus yn Gymrawd

Mae arbenigwr iechyd cyhoeddus o Brifysgol Abertawe wedi cael ei anrhydeddu gan Academi'r Gwyddorau Meddygol.

Mae'r Athro Ronan Lyons, Athro Clinigol Iechyd Cyhoeddus yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe ac un o ddau Gyfarwyddwr Gwyddor Data Poblogaethau, yn un o 60 o wyddonwyr biofeddygaeth ac iechyd sydd wedi cael eu derbyn i Gymrodoriaeth ddylanwadol yr Academi uchel ei bri.

Mae'r Cymrodorion newydd i gyd wedi cael eu cydnabod am eu cyfraniadau anhygoel at wyddor fiofeddygol ac iechyd a'u gallu i greu gwybodaeth newydd a gwella iechyd pobl ym mhob man.

Mae ymchwil yr Athro Lyons yn canolbwyntio ar ddefnyddio gwybodaeth am iechyd i helpu i glustnodi a gwerthuso ymyriadau gwasanaethau iechyd ac ymyriadau eraill er mwyn gwella gwaith atal, gofal ac iacháu.

Yn ystod y pandemig, mae ei dîm wedi defnyddio gwersi'r data iechyd helaeth ym Manc Data SAIL, gan gynnwys darparu gwybodaeth i Grŵp Cynghori Technegol Llywodraeth Cymru, ac yn sgîl hynny SAGE (sef Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau) y DU.

Meddai'r Athro Lyons: “Mae'n destun balchder a phleser fy mod i wedi cael fy newis i fod yn Gymrawd gan Academi'r Gwyddorau Meddygol.

“Heb os, mae hyn yn adlewyrchu'r ffaith bod cyfraniad cymdeithasol yr ymchwil sy'n cael ei gwneud drwy ddefnyddio Banc Data SAIL yn cael ei werthfawrogi'n gyffredin.

“Yn ogystal, dyma gydnabyddiaeth o ymagwedd gwyddoniaeth tîm wych Gwyddor Data Poblogaethau ym Mhrifysgol Abertawe a'n hymrwymiad i hyrwyddo ymchwil iechyd drwy ein mentrau cydweithredol niferus ledled y DU a'r byd.”

Academi'r Gwyddorau Meddygol yw'r corff annibynnol yn y DU sy'n cynrychioli amrywiaeth gwyddor feddygol. Y 60 o wyddonwyr a ddewiswyd o blith 366 o ymgeiswyr o bob rhan o'r DU yw'r nifer mwyaf o Gymrodorion newydd a etholwyd erioed.

Meddai'r Fonesig Anne Johnson, Llywydd yr Academi: “Mae'n destun pleser mawr i mi groesawu'r 60 o arbenigwyr hyn i'r Gymrodoriaeth er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r heriau iechyd sylweddol sy'n wynebu ein cymdeithas.

“Mae amrywiaeth yr arbenigedd mewn biofeddygaeth ac iechyd yn ein Cymrodoriaeth yn gaffaeliad aruthrol sydd wedi llywio ein gwaith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ar faterion hollbwysig megis mynd i'r afael â phandemig Covid-19, deall effeithiau newid yn yr hinsawdd ar iechyd, ymdrin ag anghydraddoldebau iechyd, a dadlau dros ariannu gwyddoniaeth. Bydd y Cymrodorion newydd yn 2022 yn hollbwysig er mwyn ein helpu i gyflawni ein strategaeth uchelgeisiol, 10 mlynedd o hyd y byddwn ni'n ei lansio'n ddiweddarach eleni.”

Bydd yr Academi'n derbyn y Cymrodorion newydd yn ffurfiol y mis nesaf.

Rhannu'r stori