Menyw ifanc yn gwisgo mwgwd wrth eistedd ar gês dillad mewn terfynfa maes awyr

Gallai'r argyfwng ynghylch partïon yn adeiladau llywodraeth y DU, diffyg sylw i'r feirws yn y cyfryngau a'r gred ei fod bellach yn llai peryglus i gyd effeithio ar gydymffurfiaeth â chanllawiau Covid yn y dyfodol. 

Mae ymchwil newydd gan Brifysgol Abertawe wedi datgelu bod lleiafrif o bobl yn dal i gadw pellter cymdeithasol ac yn teimlo eu bod wedi cael eu cyflyru i fod yn fwy gofalus, er bod llawer o bobl yn credu bod bywyd bellach yn normal eto.

Archwiliodd yr astudiaeth, gan Dr Simon Williams a Dr Kimberly Dienes o'r Ysgol Seicoleg, ymddygiad presennol pobl ynghylch Covid-19, gan gynnwys gwisgo mygydau, cadw pellter cymdeithasol, ymgymryd â phrofion ac ynysu.

Yn ogystal, ystyriwyd barn pobl am bigiadau atgyfnerthu yn y dyfodol, gan gynnwys a fyddant am gael un ai peidio. Aeth yr astudiaeth rhagddi i holi pobl a fyddant yn debygol o ddilyn rheolau neu ganllawiau pe bai amrywiolyn arall yn dod i'r amlwg yn ystod yr hydref.

Canfu y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn fodlon cymryd camau yn y dyfodol er mwyn peidio â throsglwyddo Covid neu feirysau eraill, ond roedd nifer yn teimlo na fyddent yn cadw pellter cymdeithasol nac yn gwisgo mygydau oni bai fod y sefyllfa'n ddifrifol ac y byddai pobl yn dechrau marw eto. Roedd llawer o'r farn y byddai'r argyfwng ynghylch y partïon ac achosion eraill o dorri rheolau Covid gan wleidyddion yn effeithio ar gydymffurfiaeth â rheolau yn y dyfodol.

Mae'r astudiaeth wedi cael ei chyhoeddi gan PsyArXiv, gwefan a ddefnyddir gan ymchwilwyr i rannu canfyddiadau newydd ynghylch pynciau llosg cyn iddynt gael eu hadolygu gan gymheiriaid i'w cyhoeddi mewn cyfnodolyn (*ceir rhagor o wybodaeth isod).

Dyma'r canfyddiadau allweddol eraill:

  • Roedd diffyg sylw'r cyfryngau i'r pandemig, y rhyfel yn Wcráin a'r argyfwng ynghylch costau byw ymysg y rhesymau pam roedd pobl yn teimlo nad oeddent yn meddwl am Covid i'r un graddau;
  • Mae canfyddiad cyffredin bod amrywiolion (Omicron) newydd yn llai peryglus na'r rhai blaenorol, sydd wedi lleihau pryderon;
  • Mae gwisgo mygydau bellach yn anghyffredin;
  • Mae pobl yn barod iawn i gael profion. Fodd bynnag, roedd gwybodaeth pobl am bryd i gael prawf, a'r parodrwydd i brynu pecynnau profi, yn amrywio;
  • Nid oedd yr awydd i ddiogelu'r GIG yn gymhelliant i gymryd camau i leihau ymlediad y feirws; ac
  • Nid oedd awydd mawr ymhlith pobl a oedd wedi cael tri phigiad i gael pigiadau atgyfnerthu yn y dyfodol. Awgrymodd nifer o bobl na fyddent yn debygol o gael pigiad atgyfnerthu arall heb argymhelliad neu wahoddiad swyddogol.

Cynhaliwyd yr ymchwil drwy gyfrwng grwpiau ffocws ar-lein â 28 o gyfranogwyr rhwng 15 a 30 Mehefin 2022.

Meddai Dr Williams: “Yn ôl ein hastudiaeth, mae llawer o bobl yn teimlo bod bywyd bellach yn normal eto, ac nid ydyn nhw wedi bod yn meddwl ryw lawer, os o gwbl, am Covid yn ddiweddar. Mae hyn yn ddealladwy – mae'r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn anodd ac mae hawl gan bobl i fwynhau'r rhyddid sydd ganddyn nhw, o'i gymharu ag adegau cynharach y pandemig.

“Fodd bynnag, mae'n destun pryder hefyd, gan ein bod yng nghanol un don ar hyn o bryd, ac y bydd amrywiolion newydd a thonnau newydd yn debygol yn ystod yr hydref a'r gaeaf. Yr her yw dod o hyd i ffordd fwy cytbwys a chynaliadwy o weithredu, lle gallwn gadw rhai ymddygiadau amddiffynnol, wrth i lywodraethau a sefydliadau roi cymorth drwy ddulliau mwy bras – megis awyru da, gweithio hybrid, profion am ddim, a thâl salwch gwell.

“Mae nifer o oblygiadau i'n hastudiaeth. Mae'n bwysig cyfathrebu'n ddigonol ynghylch risgiau. Mae'n bwysig peidio â pheri i bobl boeni'n ddiangen am y pandemig, ond i'r un perwyl mae'n bwysig bod pobl yn ymwybodol o'r effeithiau sy'n parhau. Mae'n bosib bod diffyg sylw yn y cyfryngau yn ddiweddar a'r ffordd y mae rhai aelodau o lywodraeth y DU wedi bod yn sôn am ‘fyw gyda'r feirws’ yn y DU ‘ar ôl y pandemig’ wedi gwneud i bobl deimlo'n rhy ddiogel, a hynny ar gam.

“Yn olaf, gwelwyd bod ymddiriedaeth yn hollbwysig wrth gymell pobl i ddilyn canllawiau a rheolau. Mae argyfwng y partïon wedi gwanhau'n ddifrifol hyder llawer o bobl yn y ffordd y mae llywodraeth y DU wedi ymdrin â'r pandemig, yn ogystal ag effeithio o bosib ar eu parodrwydd i wneud pethau megis gwisgo mygydau neu gadw pellter cymdeithasol yn y dyfodol, yn ôl yr angen.

“Mae rhai arwyddion pryderus na fydd pobl mor barod i gydymffurfio pe bai rhagor o ganllawiau a hyd yn oed rheolau yn cael eu cyflwyno yn y dyfodol. Bydd hynny, wrth gwrs, yn effeithio ar ymlediad y feirws, nifer y bobl sy'n treulio cyfnodau yn yr ysbyty a gallu'r GIG i ymdrin â'r sefyllfa yn y pen draw.”

** Mae PsyArXiv yn wasanaeth rhagargraffu am ddim i'r gwyddorau seicolegol. Nid yw rhagargraffiadau wedi cael eu hardystio eto drwy adolygiad gan gymheiriaid ac ni ddylid eu defnyddio i lywio ymarfer clinigol.**

Rhannu'r stori