Michelle Morgan

Mae menyw o'r Barri'n dathlu graddio heddiw, gan goroni taith academaidd, broffesiynol a phersonol lle cymhwysodd i fod yn barafeddyg wrth weithio i'r GIG yn ystod y pandemig. Yn ogystal, cymerodd ran mewn proses cyfnewid arennau a helpodd ei gor-nith i wella ar ôl salwch difrifol.

Roedd Michelle Morgan, 52 oed, yn gweithio'n amser llawn fel Technegydd Meddygol Brys yng Ngorsaf Ambiwlans y Barri pan benderfynodd ddatblygu ei gyrfa ymhellach drwy gymhwyso i fod yn barafeddyg. Ymunodd â chwrs trosi’r Diploma Addysg Uwch mewn Gwyddor Barafeddygol ar gyfer Technegwyr Meddygol Brys ym Mhrifysgol Abertawe yn 2019. Fodd bynnag, ar ôl iddi astudio am ychydig fisoedd yn unig, dechreuodd y pandemig yn y DU.

Meddai Michelle: “Roedd dechrau'r pandemig yn swrrealaidd i mi gan fod llawer o ansicrwydd ac roedd yn dir newydd i bawb. Wrth i mi sicrhau fy mod i'n gyfarwydd â'r wybodaeth, y canllawiau a'r arferion gweithio diweddaraf yn y gwaith, roeddwn i hefyd yn ymgymryd â'r cwrs trosi. Roedd y brifysgol hefyd yn ymaddasu ac yn newid i barhau i roi lefel uchel o gymorth addysgol, a oedd yn gyfnod heriol i ddarlithwyr yn ogystal â'r dysgwyr unigol.

“Roedd y diffyg dysgu wyneb yn wyneb yn broblem i mi a doedd fy nisgyblaeth wrth ddyrannu fy amser dysgu ddim yn wych, ond rwyf hefyd wrth fy modd fy mod i wedi llwyddo i gyflawni fy nghymhwyster a graddio gyda fy ngharfan.”

Wrth i Michelle wynebu'r heriau hyn, ym mis Awst 2020, cafodd Keely Morgan, ei gor-nith 12 oed a oedd ar fin dechrau yn yr ysgol uwchradd, ddiagnosis o achos difrifol o fethiant yr arennau. Roedd y diagnosis yn ysgytwad i'r teulu cyfan gan iddo gael ei ddatgelu drwy gais am brawf gwaed yn dilyn ambell symptom. Gan fod gweithrediad ei harennau mor ddifrifol wael, gosodwyd Keely ar unwaith ar raglen ddialysis a'r rhestr trawsblannu arennau. Cafodd sawl aelod o'r teulu, gan gynnwys Michelle, ei sgrinio'n ddwys, ond yn anffodus nid oedd yr un ohonynt yn cyfateb.

Fodd bynnag, cynigiwyd y cyfle i Michelle a Keely ymuno â chronfa ar y cyd ar gyfer cyfnewid arennau, er iddynt gael gwybod y gallai gymryd cryn amser i ddod o hyd i aren addas. Yna, ar ddechrau mis Medi 2021, cafodd Michelle gadarnhad eu bod wedi cael eu paru'n llwyddiannus. Yn groes i’r arfer, roedd tri theulu'n rhan o'r broses cyfnewid arennau a oedd yn byw mewn rhannau gwahanol o'r DU, felly byddai'r broses yn ymwneud â sawl ysbyty ac yn cael ei chynnal ar yr un diwrnod – ymhen pythefnos yn unig.

Meddai Michelle: “I ddechrau, roedd yn ysgytwad i mi gan fy mod i wir yn disgwyl i'r broses o ddod o hyd i bâr addas gymryd misoedd, blynyddoedd hyd yn oed. O ganlyniad, doeddwn i ddim wedi rhoi gwybod i fy nghyflogwr na’r brifysgol.

“Siaradais i ar unwaith â fy Rheolwr Ardal, Alan Thomas; fy Rheolwr Gweithredol ar Ddyletswydd, Kath Morgans; a fy Rheolwr Lleoliadau, Paul Mayze. Roedden nhw i gyd yn anhygoel ac yn hynod gefnogol.

“Fodd bynnag, roedd posibilrwydd y byddwn i'n gorfod gohirio fy astudiaethau, gan beri ing emosiynol i mi, ond yna camodd Pennaeth y Gwyddorau Parafeddygol, Nikki Williams, i'r adwy a dweud y gallwn i barhau. Roeddwn i'n teimlo ei bod hi wedi mynd y tu hwnt i'r galw. Cadwodd hi mewn cysylltiad rheolaidd â mi yn dilyn y llawdriniaeth ac ar ôl i mi ailgydio yn fy astudiaethau a pharhaodd i gynnig y cymorth roedd ei angen arna i.”

Diflannodd y pythefnos yn gyflym iawn i Michelle gan iddi gael sawl apwyntiad gyda'r ysbyty ac roedd yn rhaid iddi gwblhau arholiad pwysig yn y brifysgol a pharatoi ar gyfer llawdriniaeth drwy ymgymryd â phrofion PCR a hunanynysu.

Meddai Michelle: “Roedd y broses lawfeddygol i mi'n eithaf syml ac ailgydiais i yn fy nyletswyddau gweithredol llawn ar ôl 12 wythnos.

“Roedd yn rhaid i Keely ymgymryd â rhagor o lawdriniaeth yn dilyn y trawsblaniad. Mae hi bellach yn cymryd meddyginiaeth tymor hir ond llwyddodd i ddychwelyd i'w hastudiaethau amser llawn yn yr ysgol.  Mae hi bellach yn 14 oed, yn rhydd o ddialysis ac yn gallu mwynhau bod yn arddegwr, ac rwyf newydd gymhwyso i fod yn barafeddyg.

“Gan edrych yn ôl, rwy'n falch iawn o fy nghyflawniad o ymgymryd â chwrs yn y brifysgol a graddio, wrth weithio'n amser llawn i’r GIG yn ystod pandemig a rhoi aren. Hoffwn i ddiolch i fy nheulu, fy ffrindiau, fy nghydweithwyr a fy ngharfan i gyd am eu cymorth parhaus drwy gydol y cwbl.”

Meddai Nikki Williams, Pennaeth Astudiaethau Parafeddygol: “Mae'r cwrs Gwyddor Barafeddygol yn heriol ac yn feichus iawn, gan fod yn rhaid i fyfyrwyr ddysgu sgiliau meddygol cymhleth yn ogystal â'r theori sy'n sail i ymarfer parafeddygol, wrth ymarfer eu sgiliau newydd gyda chleifion go iawn sy'n cael gofal brys a gofal heb ei drefnu drwy Wasanaeth Ambiwlans Cymru.

“Mae’n ddigon anodd gweithio ac astudio yn ystod pandemig byd-eang, ond cymerodd Michelle seibiant byr yn ystod ei hastudiaethau er mwyn rhoi un o'i harennau i'w nith! Wnaeth hi ddim oedi i feddwl am darfu ar ei hastudiaethau, er gwaethaf ei gwaith caled i ennill lle ar y cwrs, sy'n pwysleisio pa mor hyfryd, gofalgar a thosturiol y mae hi fel person. Mae Michelle wedi rhoi rhodd amhrisiadwy i'w nith ac rwyf mor falch ohoni am ddal ati i lwyddo i gwblhau ei diploma a chofrestru i fod yn barafeddyg.

“Rwy'n meddwl bod Michelle yn llawn haeddu cael ei chydnabod am ei gwaith caled a'i phenderfyniad ac am y rhodd anhygoel y mae hi wedi ei rhoi i'w nith. Mae Michelle yn achubwr bywyd go iawn!” 

Rhannu'r stori