Teulu'n mynd am dro yn yr awyr agored.

Mae astudiaeth dan arweiniad Prifysgol Abertawe wedi amlygu pwysigrwydd llythrennedd iechyd rhieni ac yn awgrymu bod y rhai hynny sy'n meddu ar ddealltwriaeth well a mynediad at wybodaeth feddygol yn fwy tebygol o fynd â'u plentyn i gael prawf am Covid-19 a chael canlyniad positif.

Drwy gymorth y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Llesiant y Boblogaeth (NCPHWR), archwiliodd academyddion o'r uned Gwyddor Data Poblogaethau ym Mhrifysgol Abertawe, Prifysgol Leuphana Lüneburg a Technische Universität München y cysylltiad rhwng ymddygiadau iechyd plant a heintiau Covid-19 drwy'r rhwydwaith ysgolion cynradd HAPPEN.

Mae HAPPEN yn darparu holiadur iechyd a lles, sef Arolwg HAPPEN, sy'n canolbwyntio ar iechyd corfforol a meddyliol plant ysgolion cynradd yng Nghymru.

Casglodd yr astudiaeth 7,000 o ymatebion a gyflwynwyd cyn mis Mawrth 2020 a dechrau'r pandemig.

Yna archwiliwyd yr ymatebion ochr yn ochr â data profion PCR arferol am Covid-19, a gasglwyd rhwng mis Mawrth 2020 a mis Awst 2021, a gedwir ym Manc Data SAIL ym Mhrifysgol Abertawe.

Drwy hyn, nododd y tîm ymchwil amrywiaeth o ffactorau sy'n gysylltiedig â thebygolrwydd cynyddol o gael prawf am Covid-19, megis:

  • Bwyta brecwast yn hytrach na pheidio â bwyta brecwast
  • Bwyta bwydydd ac yfed diodydd sy’n cynnwys llawer o siwgr drwy gydol yr wythnos
  • Cyfranogi mewn mwy o glybiau y tu allan i oriau ysgol
  • Y gallu i reidio beic
  • Y gallu i nofio 25 metr
  • Plant hŷn 

Ffactorau sy'n gysylltiedig â thebygolrwydd cynyddol o gael canlyniad positif:

  • Bwyta brecwast yn hytrach na pheidio â bwyta brecwast
  • Bod yn gorfforol egnïol am 60 munud rhwng un a saith niwrnod yr wythnos yn hytrach na dim diwrnod
  • Y gallu i reidio beic
  • Plant hŷn
  • Merched

Canfu'r astudiaeth hefyd fod plant o ardaloedd difreintiedig yn fwy tebygol o gael canlyniad positif mewn prawf am Covid-19.

Mae canfyddiadau'r astudiaeth yn nodi y gall y cysylltiadau hyn rhwng ymddygiadau iachach ymwneud â llythrennedd iechyd rhieni: y gallu i gael mynediad at wybodaeth feddygol, ei deall a'i rhoi ar waith er mwyn gwneud penderfyniadau gwybodus ynghylch cyngor neu ganllawiau meddygol.

Maent hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd ymddygiadau monitro cadarnhaol gan rieni a meddu ar yr adnoddau gofynnol i gefnogi'r ymddygiadau hyn, megis cyfranogi mewn gweithgareddau grŵp corfforol, a all gynyddu cysylltiad â Covid-19, ond sy'n hanfodol i ddatblygiad plant.

Meddai'r prif ymchwilydd, Dr Emily Marchant, sy'n gweithio yn Ymchwil Data Gweinyddol Cymru yn yr uned Gwyddor Data Poblogaethau ym Mhrifysgol Abertawe ac sy'n cael ei hariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC)“Mae Covid-19 wedi amlygu'r hyn y gall unigolion ei wneud, a'r mesurau y mae cymdeithas yn eu rhoi ar waith, er mwyn hybu ymddygiadau iechyd cadarnhaol.

“Mae ein hastudiaeth yn awgrymu pwysigrwydd llythrennedd iechyd, ymddygiadau monitro cysylltiedig gan rieni, a chael yr amser, yr wybodaeth a'r adnoddau i gael mynediad at y gwasanaethau iechyd perthnasol.

“Wrth i ni ddechrau'r flwyddyn ysgol newydd, mae gennym gyfle go iawn i feithrin a datblygu ‘cyfalaf llythrennedd iechyd’ ar gyfer y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau'r dyfodol.”

Meddai'r cyd-awdur Tom Crick, Athro Materion Digidol a Pholisi a Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol Cenhadaeth Ddinesig Prifysgol Abertawe: “Mae canfyddiadau'r astudiaeth hon yn estyn yn ehangach na'r pandemig, wrth i ni ddynesu'n araf at gyfnod annormal newydd ar ôl Covid-19 – yn gymdeithasol, yn ddiwylliannol ac yn economaidd.

“Fel rhan o'r cwricwlwm newydd i Gymru, a gyflwynir yn raddol o fis Medi, rhoddir pwysigrwydd amlwg i iechyd a lles fel un o'r chwe maes dysgu a phrofiad newydd.

“Nawr yn fwy nag erioed, mae cyfle arwyddocaol i Gymru roi trefn well ar bolisi ac ymarfer ar draws meysydd addysg, iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn gwella ymhellach ganlyniadau iechyd ehangach y cyhoedd a phoblogaethau.”

Rhannu'r stori