Enillwyr y 14 o wobrau

Enillwyr y 14 o wobrau

Amlygwyd ehanger ymchwil Prifysgol Abertawe sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang yng Ngwobrau Ymchwil ac Arloesi 2022 wrth i 14 o brosiectau gael eu gwobrwyo.

Gwahoddwyd ymchwilwyr o bob rhan o'r Brifysgol i gyflwyno ceisiadau a chafwyd mwy na 100 ohonynt, mewn 14 o gategorïau gwobrau. Roedd pob cais yn enghraifft dda o ansawdd, perthnasedd ac effaith fyd-eang gadarnhaol ymchwil Prifysgol Abertawe a'i gallu i ysbrydoli.

Meddai Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Paul Boyle:

"Rydyn ni'n hynod falch o dwf ein gweithgarwch ymchwil ac arloesi ym Mhrifysgol Abertawe dros y degawd diwethaf. Yn ystod y saith mlynedd diwethaf, mae ein hincwm ymchwil wedi cynyddu 160% o £148m i £286m, ac mae ein bri byd-eang fel partner ymchwil ar y cyd yn ffynnu.

Bob blwyddyn, mae ein Gwobrau Ymchwil ac Arloesi'n cynnig cyfle gwych i ddathlu hyblygrwydd ein cymuned ymchwil a'n gallu i addasu, ar y cyd â'n partneriaid yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector. Mae ein llwyddiant dros y 100 mlynedd diwethaf wedi deillio o gydweithredu mewn modd ystyrlon ac rwy'n hyderus y bydd yr ymdeimlad hwn o weithio mewn partneriaeth yn parhau i ysgogi ein llwyddiant yn ystod ein hail ganrif."

Yr Athro Helen Griffiths, Dirprwy Is-ganghellor ar gyfer Ymchwil ac Arloesi:

“Dyma chweched seremoni'r Gwobrau Ymchwil ac Arloesi, sy'n dathlu datblygiad ein cymuned ymchwil ac arloesi ffyniannus. Eleni, gwnaethon ni ddyfarnu 14 o wobrau, gyda mwy na 250 o randdeiliaid yn ymuno â ni ar y safle a mwy na 200 o westeion eraill yn gwylio'r dathliadau o bell.

Mae'r dathliadau mawr yn adlewyrchu'r cynnydd aruthrol o ran gallu ymchwil Prifysgol Abertawe dros y blynyddoedd diwethaf a'r partneriaethau pwrpasol rydyn ni'n parhau i’w meithrin â sefydliadau yn y sector preifat, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector.”

Cyn cyhoeddi'r ceisiadau buddugol, cafodd y gwesteion o ddiwydiant, y gymuned academaidd, y trydydd sector a chyrff cyllido gyfle i fwynhau cyflwyniad ysbrydoledig gan Dr Laura Baker, o Tata Steel, ac Enillydd Gwobr Pen-blwydd y Frenhines Prifysgol Abertawe, yr Athro Dave Worsley, sef: Arwain chwyldro mewn technolegau ynni adnewyddadwy.

Dyma enillwyr y 14 o wobrau a'u noddwyr:

1. Cydweithrediad Ymchwil ac Arloesi Neilltuol yn y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol (wedi'i noddi gan Azets) – Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru

2. Cydweithrediad Ymchwil ac Arloesi Neilltuol mewn Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd (wedi'i noddi gan F&J Healthcare) – Tîm Modelu Abertawe

3. Cydweithrediad Ymchwil ac Arloesi Neilltuol (wedi'i noddi gan KLA Corporation) – SUNRISE

4. Effaith Ryngwladol Neilltuol Ymchwil ac Arloesi (wedi'i noddi gan Razbio) - AMBER - Cydweithio i uno afonydd rhanedig Ewrop

5. Cyfraniad Neilltuol at Ymgysylltu â'r Cyhoedd (wedi'i noddi gan Symbiosis) – Cynllun Gwyddoniaeth i Ysgolion (S4) Prifysgol Abertawe

6. Effaith Neilltuol ar Iechyd a Lles (wedi'i noddi gan Vindico) – Banc Data SAIL a Grŵp Gwyddor Data Abertawe

7. Effaith Neilltuol ar Ddiwydiant, Masnach ac Arloesi (wedi'i noddi gan Fanc Datblygu Cymru) – Offer Creu Rhwyllau Anstrwythuredig

8. Cyfraniad Neilltuol at y Celfyddydau, Diwylliant a Chymdeithas (wedi'i noddi gan Brifysgol Abertawe) – yr Athro Kirsti Bohata

9. Cyfraniad Neilltuol at Lywio Cymuned Ymchwil ac Arloesi'r Brifysgol (wedi'i noddi gan Zimmer & Peacock) – Tablau QS a Bri Ymchwil

10. Goruchwyliaeth Ymchwil Neilltuol (wedi'i noddi gan Certis Group) – Dr Lloyd Hughes Davies

11. Seren Ymchwil ac Arloesi'r Dyfodol (Ôl-raddedig) (wedi'i noddi gan Tata Steel) – Alaa Alaizoki

12. Seren Ymchwil ac Arloesi'r Dyfodol (Gyrfa Gynnar) (wedi'i noddi gan GX Group) – Dr Ashra Khanom, Dr Emrys Evans, Dr Gemma Morgan

13. Gwobr Cyfraniad Neilltuol gan Dechnegydd (wedi'i noddi gan Dell Technologies) – Ian Hemming

14. Gwobr anghystadleuol: Ymateb Neilltuol i Bandemig Covid-19 (wedi'i noddi gan Rolls Royce) – Astudiaeth PVCOVID (Barn y Cyhoedd yn ystod Pandemig Covid-19), Dulliau Arloesol o Ddal Thripsod, Cofrestr Sglerosis Ymledol y DU, Microbioleg Feddygol a Gwasanaethau Haint / Iechyd Cyhoeddus Cymru, Microbioleg yn Abertawe, y Ganolfan Technoleg Gofal Iechyd, Prosiect Hylif Diheintio Dwylo Prifysgol Abertawe, Banc Data SAIL a Grŵp Gwyddor Data Abertawe, Arloesedd a Thrawsnewid Covid-19 GIG Cymru

Gweler yr holl gynigion ar y rhestrau byr yn y categorïau gwobrwyo

Meddai Ceri Jones, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Ymchwil, Ymgysylltu ac Arloesi (REIS) ym Mhrifysgol Abertawe:

“Hoffwn i ddiolch i'n prif noddwr, y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol, am ei gefnogaeth barhaus a'r sylfaen gadarn ar gyfer y dyfodol y mae wedi ei chreu yn ein diwylliant ymchwil, drwy roi'r adnoddau i'n galluogi i sicrhau bod llawer o'n gweithgareddau ymchwil ac arloesi yma ym Mhrifysgol Abertawe yn cael yr effaith fwyaf.

Hoffwn i ddiolch hefyd i holl noddwyr ein digwyddiad. Mae wedi bod yn bleser mawr gennym weithio gyda llawer ohonynt dros y blynyddoedd blaenorol, ac edrychwn ymlaen at gydweithio â nhw yn y blynyddoedd i ddod.”

 

Rhannu'r stori