Pâl rhesog yn hedfan dros y cefnfor. Cydnabyddiaeth llun: Yusuke Goto.

Mae ymchwil newydd a arweinir gan Brifysgol Abertawe wedi canfod bod rhai adar y môr pelagig yn hedfan yn uniongyrchol tuag at lygad y ddrycin, y mae ymchwilwyr yn meddwl sy'n eu helpu i osgoi cael eu cyfeirio i'r tir, gan leihau'r perygl o anaf neu farwolaeth.

Bu'r Athro Emily Shepard a Dr Emmanouil Lempidakis, o Adran y Biowyddorau, yn gweithio gydag academyddion o Brifysgol Nagoya, Prifysgol Leeds, a Sefydliad Technoleg Nagoya i ymchwilio i sut mae palod yn ymateb i seiclonau trofannol a stormydd ym Môr Japan, yn agos at fasn mwyaf actif y byd, ogledd-orllewin y Môr Tawel.

Bu'r tîm yn tagio palod oedolion dros 11 mlynedd gan ddadansoddi eu holrheinwyr GPS o ran y gwynt.

Dengys y canlyniadau, a gyhoeddwyd yn y Proceedings of the National Academy of Sciences (PNAS), fod yr adar yn hedfan tuag at lygad y ddrycin, lle mae cyflymder y gwynt gyflymaf, hyd yn oed yn ystod y corwynt cryfaf yn ystod cyfnod yr astudiaeth.

Mae corwyntoedd yn symud mewn cyfeiriad gwrthglocwedd yn Hemisffer y Gogledd, felly pe bai'r adar wedi aros yn eu lleoliad gwreiddiol, gallent fod wedi cael eu dal yn y gwyntoedd cryfion at y tir y tu ôl i lygad y ddrycin. Gallai hyn lusgo'r adar dros y tir, rhagolwg peryglus gyda gwrthdrawiadau posib, glanio heb reolaeth ac wynebu ysglyfaethwyr.

Meddai'r Athro Emily Shepard, arbenigwr mewn ecoleg symudedd anifeiliaid gwyllt: “Cawsom ein synnu wrth edrych ar yr olrheinwyr GPS fod palod yn hedfan tuag at lygad y ddrycin, ac weithiau’n ei olrhain am sawl awr. Nid yw hyn fel unrhyw ymateb i stormydd a welwyd gan adar y môr erioed o'r blaen.”

Ychwanegodd Dr Emmanouil Lempidakis, a wnaeth gynnal yr ymchwil hon fel rhan o'i PhD: “Mae palod fel albatrosiaid, yn addasu i amodau gwyntog, gan fod eu harddull hedfan yn eu galluogi i hedfan heb lawer o fflapio pan fydd hi'n wyntog, ond deuir i bwynt lle na all cyflymder yr hediad gystadlu yn erbyn cyflymder y gwynt.

"Pan fydd hyn yn digwydd, mae adar yn dechrau gwyro gyda'r gwynt, a dyna pam roedden wedi ein synnu eu bod yn hedfan tuag at rai o'r corwyntoedd cryfaf.”

Er bod yr ymchwil yn dangos bod rhai o'r adar yn hwylio o amgylch stormydd, roedd hyn dim ond wedi digwydd pan roeddent allan ymhell ar y môr ac roedd ganddynt y fantais o lwybr clir o amgylch y storm. Gyda'i gilydd, dengys fod adar yn addasu eu hymateb i'r storm gan ddibynnu ar eu lleoliad a llwybr y storm.

Mae'r astudiaeth hefyd yn amlygu efallai fod angen i'r adar wybod ble mae'r tir er mwyn ei osgoi, sydd hefyd yn esbonio pam weithiau, y bydd miloedd o adar ifanc yn cael eu golchi i'r lan ar ôl stormydd.

Rhannu'r stori