Lluniau o bennau ac ysgwyddau dwy fenyw sy'n gwenu

Yn y sgwrs gyntaf mewn cyfres arbennig, gwahoddir cynulleidfaoedd i rannu canrif o straeon ffermio a chymryd rhan mewn trafodaeth am ystyr entrepreneuriaeth i'r Cymry.

Bydd yr Athro Kirsti Bohata a Dr Louisa Huxtable-Thomas, o Gyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Abertawe, yn cymryd rhan yn y seminarau a gynhelir yng Nghanolfan Gelfyddydau Wyeside yn Llanfair-ym-Muallt.

Bydd yr Athro Bohata, cyd-gyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil i Lên ac Iaith Saesneg Cymru (CREW), yn archwilio'r ffermwr fel cymeriad eiconig yn niwylliant llenyddol Cymru a sut mae'r fferm deuluol yn symbol hynod wleidyddol mewn trafodaethau am ddefnyddio tir, newid yn yr hinsawdd a cholli bioamrywiaeth.

Mae ei sgwrs, Taking Stock: A Century of Farming Stories, yn myfyrio ar y newidiadau anferth a gafwyd ym maes ffermio. Yn ogystal â bod yn lloches ac yn fan adfywio diwylliannol, mae'r fferm a bywyd gwledig yn gysylltiedig ag aberth a chyfyngiadau personol. Bydd y sgwrs yn archwilio sut mae ffermydd a ffermwyr wedi cael eu cynrychioli a sut mae'r portreadau hyn yn berthnasol i ni yn yr oes bresennol.  

Archebwch docynnau am ei sgwrs, a gynhelir am 2.30pm ddydd Mawrth, 29 Tachwedd.

Yn yr ail sgwrs yn y gyfres, bydd profiad Dr Huxtable-Thomas, athro cysylltiol yn yr Ysgol Reolaeth, o fyw yng nghanolbarth Cymru yn sail i'w seminar ryngweithiol, Leadership or Entrepreneurship – ships that pass in the night.

 Bydd yn rhannu gwersi ei hymchwil ac yn mynd rhagddi i drafod teimladau'r gynulleidfa am entrepreneuriaeth ac arweinyddiaeth, a yw pobl go iawn yn gallu uniaethu â'r geiriau hyn ac a yw polisïau yng Nghymru'n yn clustnodi'r bobl gywir. 

Archebwch docynnau am ei seminar am 2.30pm ddydd Mawrth 6 Rhagfyr.

 

Rhannu'r stori