v

Gyda chanlyniadau Safon Uwch ar y gorwel yr wythnos nesaf, efallai fod rhai myfyrwyr yn teimlo'n ansicr ynghylch dechrau cwrs mewn prifysgol ar ôl heriau'r blynyddoedd diwethaf.

Ar ddiwrnod y canlyniadau, efallai y byddant yn gweld nad ydynt wedi ennill y graddau roeddent yn eu disgwyl neu eu bod wedi ennill graddau gwell. Ar y llaw arall, efallai y byddant wedi newid eu meddwl am y brifysgol y maent yn dymuno mynd iddi, y cwrs y maent yn dymuno ei astudio, neu efallai na fyddant wedi cael cynigion gan y prifysgolion neu'r colegau y maent wedi cyflwyno ceisiadau iddynt.

Mae Prifysgol Abertawe'n cynghori myfyrwyr sy'n wynebu'r sefyllfaoedd hyn ar ddiwrnod y canlyniadau i gysylltu i ganfod a oes modd iddynt gael lle yn y brifysgol a dechrau eu dyfodol disglair yn Abertawe. 

Meddai'r Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe:

“Mae myfyrwyr sy'n cysylltu â ni drwy glirio ar ddiwrnod y canlyniadau'n aml dan straen ac wedi drysu a hoffwn i dawelu meddwl unrhyw un sy'n ystyried ymuno â'n prifysgol nad ydyn ni'n asesu cais ar sail canlyniadau arholiadau yn unig. Rydyn ni'n ystyried pob cais rydyn ni'n ei gael ar sail unigol ac mae graddau'n un agwedd yn unig ar ein proses benderfynu. Rydyn ni hefyd yn ystyried a yw ymgeiswyr yn addas ar gyfer y cwrs o'u dewis ac a fydden nhw'n elwa o'n hamgylchedd yma yn Abertawe.

“Gall myfyrwyr deimlo'n sicr os byddan nhw'n penderfynu dod i Abertawe y byddan nhw'n cael profiad dysgu o'r radd flaenaf, gydag addysgu ardderchog a rhagolygon cyflogaeth a gyrfa gwych ar ôl iddyn nhw raddio.

“Gallan nhw hefyd fod yn hyderus y bydd ganddyn nhw ymdeimlad o berthyn yn Abertawe. Mae'r brifysgol a'r ddinas yn gyfeillgar ac yn groesawgar ac mae lleoliadau ein dau gampws yn golygu y gall ein myfyrwyr fanteisio i'r eithaf ar fywyd y ddinas, yn ogystal â bod yn agos iawn at draeth. 

“Er fy mod i am i'n myfyrwyr newydd astudio'n galed, a chael profiad dysgu gwych, rwyf hefyd am iddyn nhw deimlo bod y lle'n gartref iddyn nhw lle byddan nhw'n cael eu cefnogi'n llawn wrth iddyn nhw gymryd eu camau nesaf i addysg uwch.”

Ceir rhagor o wybodaeth drwy fynd i wefan y brifysgol neu drwy ffonio'r llinell gymorth ar 0808 175 3071.

Rhannu'r stori