Person yn gwisgo mwgwd llawfeddygol, cot wen labordy a menig wrth weithio mewn labordy cemeg.

Mae Prifysgol Abertawe wedi llofnodi’r Ymrwymiad i Dechnegwyr, gan ymuno â thros hanner prifysgolion y DU a sawl sefydliad ymchwil wrth gefnogi addewid i gefnogi eu technegwyr.

The Technician Commitment is a university and research institution initiative, led by a steering board of sector bodies, with support from the Science Council and the Technicians Make It Happen campaign.

Mae Prifysgol Abertawe'n ymuno â llofnodwyr megis Prifysgol Heriot-Watt a Phrifysgol Sussex i sicrhau amlygrwydd, cydnabyddiaeth, datblygiad a chynaliadwyedd gyrfa i dechnegwyr sy'n gweithio mewn addysg uwch ac ymchwil ar draws yr holl ddisgyblaethau.

Meddai'r Athro Biagio Lucini, Dirprwy Is-ganghellor dros Ddiwylliant Ymchwil, ac Arweinydd yr Ymrwymiad i Dechnegwyr yn y Brifysgol:

"Mae Prifysgol Abertawe'n falch o lofnodi'r Ymrwymiad i Dechnegwyr. Mae ein technegwyr a'n staff technegol yn hollbwysig i fywyd y brifysgol, gan fod eu gwaith caled yn ein galluogi i gyflwyno ymchwil o'r radd flaenaf, addysgu rhagorol a phrofiad myfyrwyr cryf.

"Diolch i'w hymdrechion amhrisiadwy a'u gwybodaeth tra helaeth, rydym yn gallu cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl yn y gymuned leol a'r tu hwnt. Drwy'r Ymrwymiad i Dechnegwyr, rydym yn rhoi ein cefnogaeth barhaus i'n cydweithwyr sy'n dechnegwyr."

Dywedodd yr Athro Helen Griffiths, Dirprwy Is-ganghellor, Prifysgol Abertawe: "Mae'n bleser gennyf gadarnhau bod y Brifysgol wedi llofnodi'r fenter bwysig hon.

"Mae'r gwaith hanfodol y mae ein technegwyr yn ei wneud ar draws y Brifysgol o fudd i ni'n uniongyrchol ac yn cefnogi ein partneriaethau; mae sgiliau ac ymroddiad ein technegwyr yn y Cyfadrannau a'r Gwasanaethau Proffesiynol yn galluogi Abertawe i gyflwyno rhagoriaeth mewn ymchwil ac addysgu, ac rydym yn ymroddedig i sicrhau bod eu cyfraniadau at ein cyflawniadau'n cael eu cydnabod yn eang."

Meddai Kelly Vere MBE, Rheolwr Ymgysylltu Addysg Uwch, y Cyngor Gwyddoniaeth ac Arweinydd yr Ymrwymiad i Dechnegwyr:

"Mae'n bleser gennym groesawu Prifysgol Abertawe i gymuned yr Ymrwymiad i Dechnegwyr.

"Rydym mor falch o'r cynnydd rydym wedi'i wneud ar y cyd ar draws y sector, ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda'r Brifysgol i ddatblygu amlygrwydd, cydnabyddiaeth, datblygiad a chynaliadwyedd gyrfa ar gyfer y gymuned dechnegol."

Rhannu'r stori