Dau bâr o draed o dan flanced

Mae ymchwil newydd wedi datgelu bod cynnwrf rhywiol yn peri i ddynion ffafrio ar unwaith baru tymor byr ar draul perthnasoedd ymrwymedig tymor hwy, megis priodas.

Mae paru tymor byr yn cynnwys carwriaethau un noson, dirgel neu heb ymrwymiadau.

Drwy gyfres o arbrofion, canfu Dr Andrew G. Thomas, uwch-ddarlithydd seicoleg ym Mhrifysgol Abertawe, a’r cyd-awdur Dr Arnaud Wisman, o Brifysgol Caint, fod dynion sydd wedi’u cynhyrfu’n rhywiol (yn hytrach na dynion nad ydynt wedi’u cynhyrfu’n rhywiol) yn fwy tebygol o ddyheu am ryw achlysurol heb ymrwymiad gyda phartner, ni waeth am eu statws perthnasoedd, yn ogystal â bod yn llai tebygol o ddyheu am baru tymor hir.

Gwnaeth y tîm brofion hefyd i weld a oedd mathau o bersonoliaethau cyfranogwyr yn yr astudiaeth a swm y pornograffi roeddent yn ei wylio fel arfer yn dylanwadu ar eu dewisiadau. Yn yr un ffordd â diffyg cyfraniad statws perthnasoedd at y canlyniadau, daethant i’r casgliad nad oedd math o bersonoliaeth na swm y pornograffi roeddent yn ei wylio’n newid y canlyniadau.  Roedd yr ysgogiad am gysylltiadau rhywiol mwy achlysurol yn deillio’n llwyr o gynnwrf cryfach y cyfranogwyr.

Meddai Dr Wisman, darlithydd seicoleg: “Bu llawer o ymchwil i strategaethau paru dynol bondigrybwyll, a sut gallai ffactorau megis harddwch, cyfoeth ac oedran ddylanwadu arnon ni wrth i ni ddewis partner. Y ddealltwriaeth yw bod hoffterau cymysg gan ddynion a menywod o ran perthnasoedd – mae tuedd gryfach gan rai pobl i aros gydag un person, mae’n well gan eraill berthnasoedd byrrach, ac mae rhai’n ffafrio cymysgedd o’r ddau beth. Mae’n dibynnu ar y cyd-destun hefyd; ar noson allan, gall unigolion edrych ar ddarpar bartneriaid yn wahanol nag y bydden nhw wrth bori gwefan canfod cariad.

“Mae ein hastudiaeth ymysg y rhai cyntaf i edrych ar ddewisiadau paru dynion yng nghyd-destun cynnwrf rhywiol. Gwelon ni fod yn well gan ddynion sydd wedi’u cynhyrfu drefniant tymor byr, megis carwriaeth un noson, na rhywbeth tymor hwy. Yn ddiddorol, doedd hi ddim yn bwysig chwaith p’un a oedd dynion mewn perthynas tymor hwy ai peidio, roedd cynnwrf rhywiol yn dal i gynyddu’r awydd am ‘sbri’.”

Meddai Dr Thomas: “Yr hyn a wnaeth fy synnu yn yr ymchwil hon oedd cysondeb yr effaith. Roedd cynnwrf rhywiol yn cynyddu diddordeb mewn paru tymor byr, waeth beth am bersonoliaeth na statws perthnasoedd. Mewn geiriau eraill, yn union fel dynion sengl, pan oedd dynion mewn perthnasoedd yn cael eu cynhyrfu, dangoson nhw fwy o ddiddordeb mewn cael rhyw y tu allan i berthynas ymrwymedig. Rwy’n meddwl bod yr ymchwil hon yn ddefnyddiol er mwyn cynyddu hunanymwybyddiaeth dynion o’r grymoedd sy’n llywio eu penderfyniadau paru ac sy’n dylanwadu arnyn nhw, gan roi mwy o reolaeth iddyn nhw dros eu tynged garwriaethol yn y pen draw.”

Dyma’r canfyddiadau cyntaf mewn cyfres o astudiaethau sy’n ystyried sut gall cyflyrau megis cynnwrf rhywiol newid ein dewisiadau. Mae’r timau ymchwil hefyd yn ystyried sut gallai ffactorau gwahanol, megis y gylchred fislifol, dulliau atal cenhedlu hormonaidd ac oedran effeithio ar y math o berthnasoedd rhamantus y mae menywod yn chwilio amdanyn nhw a’r partneriaid y maen nhw’n eu dewis. 

Mae’r papur ‘In the Heat of the Short-Term: Evidence that Heightened Sexual Arousal Increases Short-Term Mating Motivation Among Men’ wedi’i gyhoeddi yn Springer Nature

 

Rhannu'r stori