Tair menyw a dau ddyn yn sefyll mewn rhes mewn seremoni wobrwyo.

Yn y llun (o'r chwith) y mae'r cystadleuydd Olympaidd Hannah Mills, a gyflwynodd y wobr i Helyn Taylor, Arbenigwr Cyflogadwyedd SEA, Lucy Griffiths, Pennaeth SEA, a Rob Yarr, Cynorthwy-ydd Rhaglen Cymorth SEA i Raddedigion, gyda Stuart McLaren, noddwr y wobr.

Mae Prifysgol Abertawe ac Aspire2Be wedi cael cymeradwyaeth uchel yng Ngwobrau Cenedlaethol Cyflogadwyedd Israddedigion o ganlyniad i'w prosiect ar y cyd, iBroadcast.

Mae iBroadcast yn rhaglen dysgu seiliedig ar waith a ddatblygwyd gan Academi Cyflogadwyedd Prifysgol Abertawe mewn partneriaeth â'r cwmni technoleg ddysgu Aspire2Be, gan fanteisio ar sgiliau'r darlledwr chwaraeon adnabyddus Sean Holley yn y cyfryngau.

Nod y prosiect yw helpu myfyrwyr i fagu sgiliau a chael profiad yn sector cystadleuol y cyfryngau a darlledu.

Ar ôl cynnal y prosiect yn llwyddiannus am bum mlynedd, aeth timau iBroadcast ac Academi Cyflogadwyedd Abertawe ati i addasu'r prosiect er mwyn i garfan myfyrwyr 2021 barhau i elwa o'r profiad drwy gydol y pandemig.

Datblygodd y prosiect i gael ei gynnal yn llwyr o bell, gan bwysleisio hygyrchedd ac ehangu cyfranogiad, wrth i adnoddau cydweithredu ar-lein gael eu defnyddio i hyfforddi myfyrwyr.

Creodd myfyrwyr adnoddau eithriadol a gwnaethant elwa o amrywiaeth o gyfleoedd, megis cael eu cynnwys ym mhodlediad 'The Tuesday Club' Sean Holley a llunio cynnwys ar gyfer cynadleddau cenedlaethol ar ran Prifysgol Abertawe.

Yn ystod cyfnod digynsail, enwebwyd y tîm yn y categori ‘Cydweithrediad Gorau rhwng Prifysgolion a Chyflogwyr’ yng Ngwobrau Cenedlaethol Cyflogadwyedd Israddedigion, a drefnwyd gan RateMyPlacement.co.uk, o ganlyniad i'r addasiad digidol llwyddiannus hwn.

Meddai Lucy Griffiths, Pennaeth Academi Cyflogadwyedd Prifysgol Abertawe (SEA): “Mae'r gwobrau hyn yn uchel eu bri yn y sector, ac mae cael ein cydnabod ymysg cystadleuaeth mor glodwiw'n profi unwaith eto ymrwymiad Prifysgol Abertawe i ddatblygu cyflogadwyedd, a'i harloesedd yn y maes, gan arwain at lwyddiant ardderchog i raddedigion sy'n astudio yma.

“Yn benodol, roedd yn arbennig cael cydnabyddiaeth am ein cydweithrediad ag Aspire2Be yn Abertawe a chynnig iBroadcast Sean Holley Sport & Media.

“Datblygodd Academi Cyflogadwyedd Prifysgol Abertawe y cydweithrediad hwn i sicrhau chwarae teg i fyfyrwyr Prifysgol Abertawe sy'n ceisio torri trwodd ym meysydd cystadleuol y cyfryngau a'r cyfryngau chwaraeon, ac rydyn ni wedi gweld rhai canlyniadau rhagorol.”

Mae cyn-fyfyrwyr o brosiectau iBroadcast blaenorol wedi mynd rhagddynt i weithio yn y cyfryngau ac mewn swyddi eraill yn rhyngwladol, ac mae hyn wedi llywio penderfyniadau rhai cyfranogwyr wrth ddewis cyrsiau ôl-raddedig.

Meddai Nick Evans, Technolegydd Partner yn Aspire 2Be: “Mae gweithio gyda'r Brifysgol wedi ehangu ein gorwelion ynghylch pobl dalentog y dyfodol a chyfleoedd yn y sector digidol i fyfyrwyr.

“Mae'r rhaglen iBroadcast ei hun wedi ein galluogi i fanteisio ar sgiliau rhai o bobl dalentog fwyaf addawol y Brifysgol, ac rydyn ni wedi elwa'n fawr o'r nifer sylweddol o fyfyrwyr sydd wedi cyfranogi ac sydd wedi dylanwadu yn sgil hynny ar gylch datblygu'r rhaglen iBroadcast.

“Gan fod y myfyrwyr ar y rhaglen iBroadcast mor dalentog, rydyn ni'n aml yn ceisio nodi cyfleoedd i ni fanteisio ar eu sgiliau i ddatblygu'r hyn rydyn ni'n ei gynnig, gan ein galluogi i fyfyrio fel busnes ar ein prosesau a'n rhaglenni ein hunain.

“Mae'r rhaglen iBroadcast hefyd wedi arwain at ddatblygu rhaglen fentora yn y Brifysgol. Mae hon wedi rhoi cyfle i fyfyrwyr feithrin cysylltiadau newydd yn eu taith addysgol, ac fel busnes mae'n ein galluogi i rymuso myfyrwyr i fod yn arbenigwyr eu hunain.”

Rhannu'r stori