Menyw'n edrych ar lechen â graffigau llawn calonnau cariad ac ieir bach yr haf o gwmpas y sgrîn

Ni all arian brynu cariad ond mae'n gwneud eich proffil yn fwy atyniadol wrth chwilio am gariad ar-lein. Mae ymchwil newydd wedi datgelu bod lefel addysg ac incwm yn arbennig o bwysig, yn enwedig yn achos dynion. 

Cymerodd Dr Andrew G Thomas, seicolegydd esblygol, o Ysgol Seicoleg Prifysgol Abertawe, ran yn yr astudiaeth a archwiliodd bron dwy filiwn o broffiliau. Datgelodd yr astudiaeth fod lefel uwch o addysg ac incwm cynyddu'r sylw y mae pobl yn ei gael wrth chwilio am gariad.

Meddai Dr Thomas: “Roedden ni am wybod a allen ni ragweld faint o sylw – boed hynny drwy negeseuon, winciau neu achosion o gael ei hoffi – gafodd proffil person yn seiliedig ar lefel ei incwm a'i addysg, sef rhywbeth rydyn ni'n ei alw’n gymhwysedd wrth gyfuno’r ffactorau hyn.”

Gan ddefnyddio 1.8 miliwn o broffiliau o 24 o wledydd gwahanol, darganfu Dr Thomas a Dr Peter Jonason, ei gyd-awdur, ei bod hi'n wir bod cymhwysedd yn cynyddu'r sylw a gafwyd gan bobl ym mhob gwlad a astudiwyd.

Dangosodd eu hymchwil, sydd newydd gael ei chyhoeddi yn y cyfnodolyn ar-lein Human Nature, y denodd aelodau'r ddau ryw fwy o ddiddordeb pan oedd ganddynt allu sylweddol i gael gafael ar adnoddau, ond roedd y cynnydd bron 2.5 o weithiau'n fwy ymhlith dynion na menywod.

Meddai: “Efallai fod hyn yn adlewyrchu'r ffaith bod menywod yn tueddu i chwilio am statws cymdeithasol uwch yn eu partneriaid rhamantaidd na dynion a dyma batrwm byd-eang arall.”

Yn ogystal, mesurodd yr astudiaeth y bwlch o ran sylw rhwng dynion a menywod ar-lein. Cafodd menywod bron 7.5 o weithiau'n fwy o sylw na dynion. Roedd y gwahaniaeth rhwng y rhywiau'n llai wrth gymharu dynion a menywod addysgedig ag incwm uchel ond roedd yn bresennol o hyd. Methodd hyd yn oed dynion hynod gymwys â denu mwy o sylw na menywod o gefndiroedd incwm isel ac addysg wael.

Mae'r ddeinameg o ran sylw'n deillio o'r ffaith bod mwy o ddynion na menywod yn defnyddio gwefannau chwilio am gariad i geisio rhyw achlysurol, ynghyd â chyd-destunau paru amwys heb fawr o ymrwymiad.

Dywedodd Dr Thomas fod yr ymddygiad hwn yn arwain at amgylchedd lle mae menywod yn cael eu boddi gan geisiadau gan ddynion sydd â diddordeb tymor byr. O ganlyniad, daw'r cysylltiadau’n unochrog.

“Mae negeseuon dynion sy'n chwilio am bartner tymor hir yn cael eu colli mewn môr o geisiadau arwynebol. Mae menywod yn gorfod llafurio drwy ymatebion ac felly maen nhw'n gosod safonau uchel ac yn barnu bod dynion yn chwilio am ryw nes iddyn nhw brofi eu hymrwymiad.”

Yn achos dynion unig na allant fod yn hynod gymwys neu fenywod sydd wedi syrffedu ar bori drwy negeseuon arwynebol di-rif, gall fod ffordd well o ddod o hyd i hapusrwydd yn agosach at gartref.

Meddai Dr Thomas, sydd hefyd yn ysgrifennu am y pwnc ar ei flog Darwin Does Dating: “Byddwn i'n argymell bod pobl yn chwilio am bartner mewn cyd-destunau sy'n meithrin ymrwymiad gan y ddau barti, megis digwyddiadau caru cyflym lleol.

"Yn ogystal â’r ffaith bod angen amser ac ymdrech i fynd iddyn nhw, gallwch chi ddibynnu ar eich holl synhwyrau a'ch gallu i addasu wrth wneud penderfyniadau ar ddod o hyd i bartner, a chael cysylltiadau sy'n fwy ystyrlon er bod llai ohonyn nhw.”

Rhannu'r stori