Baban yn cael ei fwydo ar y fron gan ei fam sy'n gwisgo crys T

Yn ôl ymchwilwyr, anghymeradwyaeth neu hyd yn oed ffieidd-dod gan y cyhoedd yw un o'r rhesymau pam mae rhai menywod yn amharod i fwydo ar y fron y tu allan i'r cartref.

Mae arbenigwyr o Brifysgolion Abertawe a Chaerdydd, sydd wedi astudio profiadau mwy na 17,000 o famau, yn dweud bod agweddau dieithriaid yn cael effaith uniongyrchol ar ymddygiad teuluoedd o ran bwydo babanod.

Dr Aimee Grant, o Ganolfan Llaethiad, Bwydo Babanod ac Ymchwil Trawsfudol ym Mhrifysgol Abertawe wnaeth arwain yr astudiaeth a edrychodd ar ymchwil bresennol yn bennaf o'r DU, UDA ac Awstralia. Archwiliodd ei thîm nid yn unig ymatebion 17,700 o fenywod beichiog a mamau ond hefyd ymatebion 156 o bartneriaid gwrywaidd, 46 o deidiau a neiniau a 438 o aelodau’r cyhoedd.

Meddai: “Roedd sylw aelodau o’r cyhoedd a arsylwodd fwydo ar y fron yn canolbwyntio’n anghywir ar famau fel menywod rhywioledig, yn hytrach nag fel gofalwyr i fabanod oedd angen eu bwydo.

“Roedd hyn yn creu amgylchedd anghyfeillgar lle’r oedd yn anos i famau fwydo eu babanod, a oedd yn straen ac yn annymunol.”

Mae’r astudiaeth newydd gael ei gyhoeddi gan y cyfnodolyn Maternal & Child Nutrition ac mae ei ganfyddiadau’n cynnwys:

  • Yng ngwledydd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD), prin oedd y dystiolaeth fod menywod yn bwydo ar y fron fel mater o drefn y tu allan i'r cartref; i'r rhai a oedd yn gwneud, roeddent yn aml yn gweld y profiad yn un anghyfforddus;
  • Nid oedd amddiffyniadau cyfreithiol ar gyfer bwydo ar y fron yn gyhoeddus, lle'r oeddent yn bresennol, yn hysbys iawn ac roedd yn ymddangos nad oeddent wedi'u gorfodi'n ddigonol;
  • Roedd mamau'n ymwybodol o stigma yn ymwneud â bwydo ar y fron yn gyhoeddus ac yn ofni gwrthdaro â dieithriaid. Ni theimlwyd yr ofn hwn yn gyfartal, gyda mamau a oedd yn ifanc, yn dlawd, ac o ethnigrwydd ymylol yn adrodd am fwy o wyliadwriaeth a stigma; a,
  • Roedd gan arsylwyr bwydo ar y fron yn gyhoeddus ddealltwriaeth wael o ymddygiad bwydo babanod arferol a'r angen i fwydo ar y fron mewn mannau cyhoeddus. Cawsant hefyd ymatebion o ffieidd-dod wrth fwydo ar y fron.

Mae bwydo ar y fron yn gyhoeddus yn gyfreithlon yng Nghymru a Lloegr fel rhan o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ond nid yw'r amddiffyniad cyfreithiol hwnnw'n atal mamau rhag wynebu ymatebion negyddol. Fis diwethaf fe ymddangosodd Beth Coles yn y penawdau ar ôl i weithiwr mewn archfarchnad ofyn iddi roi’r gorau i fwydo o’r fron wrth idd eistedd yn ei char ym maes parcio Sainsbury’s.

Meddai Dr Grant: “Rydym angen ar frys i’r cyhoedd ail-ystyried eu barn am fwydo ar y fron, fel y caiff ei ddeall fel maeth i fabanod, yn hytrach na gweithred wleidyddol neu rywiol gan eu rhieni. Golyga hyn na ddylai’r cyhoedd syllu, twtio na gwneud sylwadau negyddol am fabanod sy’n bwydo ar y fron.”

Rhannu'r stori