Ymwelodd Carol â Champws y Bae ym mis Tachwedd 2021 a chyfarfu â chymheiriaid o'r adran Fathemateg

Ymwelodd Carol â Champws y Bae ym mis Tachwedd 2021 a chyfarfu â chymheiriaid o'r adran Fathemateg

Mae naw bwrsariaeth mynediad at fathemateg Carol Vorderman – sy’n werth £2,000 yr un – ar gael i’r holl fyfyrwyr sy’n cyflwyno cais i astudio Mathemateg ym Mhrifysgol Abertawe, gan gynnwys y rhai sy’n cyflwyno cais drwy glirio.  

Dywedodd Carol, a fagwyd yng ngogledd Cymru mewn teulu un rhiant, gan dderbyn prydau ysgol am ddim, fod mathemateg yng Nghymru wedi newid ei bywyd er gwell a'i bod am helpu mewn rhyw ffordd y rhai sydd am wneud yr un peth.

Darllenwch stori Carol isod

Clirio - mwy o wybodaeth

£2,000 yw gwerth y fwrsariaeth i bob myfyriwr. Bydd yn agored i bob ymgeisydd am raglenni gradd israddedig mewn Mathemateg neu Wyddor Actiwaraidd a fydd yn dechrau eu hastudiaethau gyda Phrifysgol Abertawe ym mis Medi 2022.

Ym mis Ebrill 2021, dathlodd Carol Vorderman MBE Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod drwy roi sgwrs ysbrydoledig a llwyddiannus iawn i'r Ffowndri Gyfrifiadol, sy'n gartref i'r adran Mathemateg a Chyfrifiadureg ym Mhrifysgol Abertawe.

Ers degawdau mae Carol wedi dylanwadu’n fawr ar bynciau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM), gan annog menywod ifanc i astudio a gweithio ym maes gwyddoniaeth a pheirianneg. Yn ei sgwrs yn Abertawe, siaradodd yn agored am ei bywyd a'i gyrfa a'r heriau y gall menyw eu hwynebu mewn pynciau STEM.

Ymwelodd Carol â Champws y Bae ym mis Tachwedd 2021 a chyfarfu â chymheiriaid o'r adran Fathemateg ac Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Paul Boyle, i drafod sut gellid gwireddu ei huchelgais i helpu pobl o gefndir tebyg i gyrraedd addysg uwch. Mae Carol yn bwriadu ymweld â'r Brifysgol eto'n fuan iawn.

Bu Carol yn frwd dros fathemateg erioed, gan gael ei hysbrydoli o oedran cynnar gan ei hathro mathemateg. Mae wedi rhannu'r brwdfrydedd hwn â'r genedl, wrth iddi gyflwyno “Countdown” ar y teledu am 26 o flynyddoedd. Mae Carol yn ymdrechu i ysbrydoli pobl ifanc, athrawon a rhieni i fwynhau mathemateg drwy ei sgyrsiau, ei llyfrau a'i gwaith elusennol.

Yn fwy diweddar, mae Carol wedi gweithio ar lefel weinidogol yn llywodraeth y DU, gan gynnwys ysgrifennu adroddiad pwysig am addysg mathemateg i'r prif weinidog.

Meddai'r Athro Elaine Crooks, Pennaeth Mathemateg a Chyfrifiadureg ym Mhrifysgol Abertawe:

"Rydyn ni'n falch o gynnig y cyfle gwych hwn i fyfyrwyr i astudio Mathemateg yma ym Mhrifysgol Abertawe. Mae bwrsariaethau Mynediad at Fathemateg Carol Vorderman yn dangos ymrwymiad parhaus i ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol a darparu mynediad a chydraddoldeb i bawb. Rydyn ni'n hynod ddiolchgar i Carol am y rhodd hael hon."

Mae ceisiadau bellach ar agor ar gyfer cam cyntaf y cyllid.

Am ragor o wybodaeth ynghylch sut i gyflwyno cais am y fwrsariaeth, ewch i'r dudalen we yma.

“Newidiwyd fy mywyd o ganlyniad i ddysgu mathemateg yng Nghymru”: stori Carol Vorderman:

“Roeddwn i flwyddyn neu ddwy ar y blaen yn yr ysgol gynradd yn y Rhyl ac yna gwnes i gwrdd â'r athro mathemateg mwyaf bendigedig yn y byd, Mr Palmer Parry, yn Ysgol Gatholig Bendigaid Edward Jones yn y Rhyl, pan oeddwn i'n 10 oed.

Roedd Mr Parry yn llym, yn ddoniol, gan ein gorfodi i weithio'n galed a pheri i ni chwerthin; roedd yn eglur ac yn gryno ac yn gefnogol. Yn ystod haf poeth 1976, pasiodd pob un ohonon ni yn ei ddosbarth Lefel 0 gyda gradd A (doedd A* ddim yn bodoli bryd hynny).

Gwnaeth ef fy addysgu ar Safon Uwch ac, am wn i (cywirwch fi os ydw i'n anghywir), fi oedd y fenyw gyntaf o ysgol gyfun yng ngogledd Cymru i fynd i Brifysgol Caergrawnt. Doedd y pethau hyn ddim yn digwydd bryd hynny. Ar ben hynny, aeth Eugene, myfyriwr arall o fy nosbarth gyda Mr Parry, i Gaergrawnt yn ystod y flwyddyn ganlynol, ac roedd e'n gyfrifol am y cwbl.

Roeddwn i'n derbyn prydau ysgol am ddim ac yn hanu o deulu un rhiant. Felly, addysg oedd y peth pwysicaf yn fy mywyd. Dyna oedd fy nghyfle euraid ac roeddwn i'n dwlu ar y cwbl, gan groesawu dysgu am rifau a chwarae â nhw ar gyflymder.

Nododd Mrs Wynne Jones, fy athrawes, y canlynol yn fy adroddiad ysgol pan oeddwn i'n wyth oed: “Mae gan Carol y gallu i drin rhifau mewn modd cyfrifiadol a allai fod yn werthfawr iddi yn nes ymlaen yn ei bywyd.” Profwyd ei bod hi yn llygad ei lle pan ddechreuais i swydd a fyddai'n para am 26 o flynyddoedd yn datrys gêm y rhifau ar Countdown.

Felly, sut mae hyn yn berthnasol i'r bwrsariaethau? Mae'n gwbl berthnasol iddyn nhw. O ganlyniad i'r addysg honno, llwyddais i i gael sefydlogrwydd ariannol a chyrraedd sefyllfa lle gallwn roi rhywbeth ystyrlon yn ôl. Newidiodd mathemateg yng Nghymru fy mywyd er gwell ac rwyf am helpu mewn rhyw ffordd y rhai sydd am wneud yr un peth. Efallai dydyn nhw ddim yn ddigon ffodus i gael rhywun fel Mr Parry neu i gael pobl i'w hannog i ddilyn mathemateg yn y brifysgol.

Rydyn ni i gyd yma i'ch annog chi i ddilyn y llwybr hwnnw a gobeithio y bydd y bwrsariaethau hyn yn helpu rhai ohonoch chi i lwyddo yn hyn o beth. Hoffwn i ddymuno pob lwc i chi a chynnig llwncdestun i fathemateg chwareus yn y blynyddoedd i ddod.”

 

Rhannu'r stori