Myfyrwyr yn eistedd ar risiau o flaen Ty Fulton ar gampws Singleton.

Mae Academi Cyflogadwyedd Prifysgol Abertawe wedi ennill y categori Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynwysoldeb yng Ngwobrau Rhagoriaeth AGCAS (Cymdeithas y Gwasanaethau Cynghori ar Yrfaoedd i Raddedigion) eleni.

Mae Gwobrau Rhagoriaeth AGCAS yn hyrwyddo, yn dathlu ac yn rhannu arfer da ymhlith ymarferwyr gyrfaoedd a chyflogadwyedd a'u sefydliadau partner ym maes addysg uwch.

Mae'r categori Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynwysoldeb, a gefnogir gan Simpicity, yn cydnabod mentrau sy'n nodi meysydd tangynrychioli ac sy'n gwneud gwahaniaeth.

Mae'r Academi wedi cael ei chydnabod am ei chyfranogiad yn rhaglen RE:Action 24/7, sef cydweithrediad rhwng saith prifysgol yn y DU, a TG Consulting, asiantaeth sy'n cysylltu addysgwyr, myfyrwyr a chyflogwyr.

Mae RE:Action 24/7 yn cefnogi uchelgeisiau a galluoedd pobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is sydd am roi hwb i’w gyrfaoedd.

Mae'r rhaglen yn darparu cymorth hollbwysig i fyfyrwyr wrth iddynt gystadlu am swyddi i raddedigion, ac yn cynnig amrywiaeth helaeth o adnoddau, gan gynnwys:

  • Hyfforddiant ar themâu sy'n ysbrydoli, megis 'Derbyn pwy rydych chi a manteisio ar eich amrywiaeth' a 'Meithrin meddylfryd enillydd a datblygu gwydnwch'.
  • Sgyrsiau gan bobl sy'n ennyn edmygedd ac yn cynrychioli'r myfyrwyr.
  • Gweithdai a sesiynau myfyrio.
  • Sesiynau holi ac ateb wedi'u harwain gan gyflogwyr.

Drwy RE:Action 24/7, mae dros 3,000 o fyfyrwyr sy'n wynebu rhagfarn ddiwylliannol-gymdeithasol wedi profi ymdeimlad o berthyn a hwb i'w hyder.

Wrth siarad am yr enillydd, meddai Panel Beirniadu Terfynol AGCAS: "Gwnaeth rhaglen RE:Action 24/7 argraff arbennig ar y beirniaid mewn categori cystadleuol oherwydd ei hymagwedd gydweithredol, cryfder yr adborth gan y cyfranogwyr a'r mesurau cryf o effaith.

"Roedd y beirniaid yn edmygu'n benodol y ffordd roedd y myfyrwyr yn ymateb i'r rhaglen ac roeddent yn hoffi'r pwyslais ar wella teimladau o hyder a pherthyn."

Meddai Lucy Griffiths, Pennaeth Academi Cyflogadwyedd Prifysgol Abertawe: "Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynwysoldeb wrth wraidd popeth rydym yn ei wneud yn yr Academi, felly roedden ni wrth ein boddau'n ennill y wobr hon ar ôl cael ein henwebu mewn pum categori yng ngwobrau AGCAS.

"Mae'r canlyniadau sydd wedi'u cyflawni yng ngham cyntaf y rhaglen RE:Action 24/7 yn rhagorol ac yn dyst i arweinyddiaeth TG Consulting, nawdd gan Enterprise Rent-A-Car, a gwaith partneriaeth gwych Prifysgol Abertawe ar y cyd â Phrifysgol Leeds Beckett, Prifysgol Aston, Prifysgol Edge Hill, Prifysgol Middlesex, Prifysgol y Frenhines Mary, Llundain a Phrifysgol Greenwich.

"Mae'n bleser gen i ddweud y byddwn ni'n parhau â'r bartneriaeth gynhyrchiol hon gyda Tonia Galati a'r tîm ac edrychwn ymlaen at weld i ble bydd hyn yn mynd â ni."

Meddai Tonia Galati, Cyfarwyddwr TG Consulting Ltd: "Rydym yn hynod falch bod ein partneriaeth RE:Action 24/7 wedi cael ei chydnabod drwy Wobrau Rhagoriaeth AGCAS.

"Drwy'r rhaglen hon, rydyn ni wedi gallu darparu cyfleoedd i lawer o fyfyrwyr yn yr holl brifysgolion sy'n rhan o'r bartneriaeth, ac rydym yn gwybod ei bod wedi cael effaith gadarnhaol iawn. Yn TG Consulting, rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at gynnal y rhaglen eto yn yr hydref eleni."

Cyhoeddwyd enwau'r enillwyr yn seremoni cyflwyno Gwobrau Rhagoriaeth AGCAS ar 22 Mehefin 2022, a gellir gweld rhestr lawn ar wefan AGCAS.

Rhagor o wybodaeth am gyflogadwyedd ym Mhrifysgol Abertawe.

Rhannu'r stori