Myfyrwyr yn cerdded tu fas i Abaty Singleton

Mae Prifysgol Abertawe wedi lansio strategaeth pum mlynedd newydd sy'n amlinellu ei huchelgeisiau a’i dyheadau ar gyfer parhau â’i gwaith o sicrhau lle blaenllaw i’r Gymraeg yn y sefydliad ac yn y gymuned leol.

Dros gyfnod o 18 mis mae sgyrsiau a gweithdai wedi eu cynnal gyda staff, myfyrwyr a rhanddeiliaid gan arwain at gynllun sydd wedi ei arddel ar draws y sefydliad ac sy’n hyrwyddo gweithio mewn partneriaeth yn gymunedol ac yn genedlaethol er lles y Gymraeg.

Mae’r strategaeth hon, Camu Ymlaen – Strategaeth Iaith a Diwylliant Cymraeg Prifysgol Abertawe 2022-27, yn cydweddu â Gweledigaeth Strategol a Phwrpas y Brifysgol a gyhoeddwyd yn 2020, ac yn fodd o adeiladu ymhellach ar ymrwymiad y Brifysgol i ehangu’r ystod o gyfleoedd i fyfyrwyr astudio drwy gyfrwng y Gymraeg a chael profiad o’r Gymraeg.

Mae’r Gymraeg wedi bod yn greiddiol i waith a darpariaeth y Brifysgol ers ei sefydlu yn 1920. Yn sgil sefydlu Academi Hywel Teifi yn 2010 a’r cydweithio llwyddiannus sydd wedi datblygu gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, gwelwyd trawsnewidiad cenedlaethol i’r addysg cyfrwng Cymraeg sydd ar gael i fyfyrwyr, ac yn Abertawe mae’r ddarpariaeth yn eang ac yn gyfoethocach nag erioed.

Gyda chyflwyno rheoliadau Safonau’r Gymraeg yn y Brifysgol yn 2018, hwyluswyd cynnydd pellach yng ngwasanaethau Cymraeg rheng flaen y sefydliad, ac mae gwaith Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe wedi galluogi siaradwyr newydd ar y campws ac yn y gymuned fel ei gilydd i gael mynediad at yr iaith.

Mae sylfaen gadarn, felly, i’r strategaeth hon a’r Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe, a’r nod yn ystod y pum mlynedd nesaf yw adeiladu ymhellach ar y sylfeini hynny er mwyn sicrhau cynnydd parhaus, a galluogi’r Brifysgol i gymryd ei lle yn hyderus ymhlith y prifysgolion hynny yng Nghymru sy’n croesawu, yn dathlu ac yn hyrwyddo’r Gymraeg a Chymreictod.

Er mwyn cyflawni ei huchelgeisiau ar gyfer y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe, mae’r strategaeth hon yn canolbwyntio ar bedwar piler allweddol.

  • Diwylliant Prifysgol Abertawe, gan sicrhau ei bod yn brifysgol sy’n gartref i gymuned o fyfyrwyr a staff amlieithog ac amlddiwylliannol sy’n groesawgar ac yn ffyniannus.
  • Profiad y dysgwr, gan feithrin amgylchedd cefnogol sy’n helpu pawb sy’n dysgu Cymraeg i wneud cynnydd, beth bynnag yw lefel eu gallu.
  • Gwreiddio’r Gymraeg ledled y Brifysgol, gan alluogi’r sefydliad i gydymffurfio â gofynion rheoliadau safonau’r Gymraeg a rhagori arnynt.
  • Cefnogi ymchwil a chenhadaeth ddinesig y Brifysgol, gan gydnabod gwerth y Gymraeg i’n hymchwil a’n gweithgareddau arloesi, a’i heffaith ar ein cenhadaeth ddinesig.

Mae Cynllun Gweithredu cynhwysfawr i gyd-fynd â’r strategaeth gydag ymrwymiad gan adrannau ar draws y sefydliad cyfan i wireddu’r amcanion er mwyn dathlu a hyrwyddo’r Gymraeg a sicrhau ei bod i’w gweld a’i chlywed ym mhob agwedd ar fywyd y Brifysgol.

Meddai’r Athro Elwen Evans CF, Dirprwy Is-ganghellor y Gymraeg a’i Diwylliant: “Mae'r strategaeth hon yn dangos fod Prifysgol Abertawe yn camu ymlaen yn hyderus i'r cyfnod nesaf yn ein hanes, gan adeiladu ar y twf aruthrol sydd wedi ei brofi nid yn unig yn yr addysg cyfrwng Cymraeg rydym yn ei darparu ond hefyd yn y gwaith o amlygu Cymreictod ein cymuned. Prifysgol sydd â’i gwreiddiau yng Nghymru a phrifysgol i Gymru ydym ni, ac rydym yn dathlu ein treftadaeth a’n diwylliant Cymreig mewn modd cynhwysol a chroesawgar.

“Mae’r strategaeth hon yn cydnabod gwir natur Cymru’r 21ain ganrif gyda’i dwy iaith swyddogol a’i chymdeithas amlddiwylliannol ac aml-ethnig. Mae’n amlygu ein bwriad i sicrhau bod pawb sy’n byw, yn astudio neu’n gweithio yng Nghymru neu sy’n ymweld â’r wlad yn medru profi popeth sydd gan y genedl unigryw hon i’w gynnig yn ystod eu hamser ym Mhrifysgol Abertawe. Bydd y strategaeth hon yn sicrhau bod y Gymraeg, ei diwylliant a’i threftadaeth yn rhan annatod o’r profiadau ffurfiannol hynny ar gyfer ein holl fyfyrwyr, a bod ein siaradwyr Cymraeg yn elwa’n llawn ar astudio mewn prifysgol sydd â chysylltiadau amlddiwylliannol a rhyngwladol gwerthfawr.”

Rhannu'r stori