Disgyblion o Ysgol Gynradd Sirol Tavernspite yn siarad ag aelodau o'r cyhoedd am yr hyn a ddysgwyd ganddynt.

Disgyblion o Ysgol Gynradd Sirol Tavernspite yn siarad ag aelodau o'r cyhoedd am yr hyn a ddysgwyd ganddynt.

Mae disgyblion ysgolion cynradd wedi cael cyfle unigryw i ddefnyddio dulliau peirianneg creadigol er mwyn dysgu am gadwraeth forol fel rhan o brosiect sy'n ymwneud â Phrifysgol Abertawe.

Nod Prosiect SIARC (Siarcod yn Ysbrydoli Gweithredu ac Ymchwil gyda Chymunedau) yw ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol i ddiogelu'r amgylchedd morol drwy sesiynau rhyngweithiol â disgyblion ysgol.

Dan arweiniad Cyfoeth Naturiol Cymru a Chymdeithas Swolegol Llundain (ZSL), ariennir y prosiect ar y cyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, yr elusen gadwraeth On the Edge a'r Gronfa Dreftadaeth drwy Lywodraeth Cymru.

Yn seiliedig ar un o rywogaethau mwyaf blaenllaw'r prosiect, sef y maelgi, bu Prifysgol Abertawe, ZSL a thîm ehangach SIARC yn gweithio gydag ysgolion yn Sir Gâr a'r cyffiniau ar y prosiect rhyngweithiol hwn i helpu disgyblion i ddysgu am y rhywogaeth drwy ddylunio gyda chymorth cyfrifiadur (CAD) ac argraffu 3D.

Disgyblion o Ysgol Gynradd Sirol Tavernspite, Ysgol Llanmiloe, Ysgol Nantgaredig ac Ysgol Abergwili oedd y cyntaf o 13 o ysgolion cynradd o Sir Gâr i gymryd rhan mewn gweithdy dan arweiniad Prifysgol Abertawe, lle cawsant eu haddysgu sut i greu eu dyluniadau a'u gwrthrychau eu hunain gan ddefnyddio argraffwyr 3D arbenigol, a osodwyd yn eu hystafelloedd dosbarth gan y Brifysgol, fel rhan o amrywiaeth o weithgareddau dysgu Prosiect SIARC.

Ar ôl cael cyflwyniad i'r dulliau peirianneg newydd hyn a meithrin cryn wybodaeth am rywogaeth y maelgi, argraffodd y disgyblion siarc ar ffurf 3D drwy sgan laser a gyflawnwyd gan Brifysgol Abertawe.

Yna gwahoddwyd pob ysgol i gyflwyno arddangosiad yn y Tŷ Gwydr Mawr yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, gan roi cyfle i'r disgyblion siarad â'r cyhoedd am y rhywogaethau o siarcod yng Nghymru a dangos yr amgylcheddau y maent yn eu creu.

Siaradodd Julianna Bransden, athrawes o Ysgol Llanmiloe, am y profiad gwych hwn i'r disgyblion: “Mae'r plant wedi ffynnu. Ar ôl teimlo'n bryderus am sgwrsio â'r cyhoedd, llwyddon nhw i gyd i siarad â nifer o ymwelwyr a dywedon nhw wrtha i faint roedden nhw wedi mwynhau gwneud hynny.

“Mae hi wedi bod yn hyfryd gwylio'r rhai sydd heb yr hyder i siarad weithiau, neu sy'n amharod i wthio eu hunain ymlaen fel arfer, yn dweud wrth bobl eraill am eu gwaith ar y maelgi a'n hamgylchedd morol.”

Meddai Miss Xiaojun Yin, Athro Cysylltiol mewn Peirianneg Sifil yng Nghyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg Prifysgol Abertawe: “Mae'n anhygoel beth mae'r plant wedi'i greu drwy eu syniadau, eu mentrau a'u dychymyg, gan ddefnyddio'r sgiliau maen nhw wedi eu magu yn ystod y prosiect hwn.

“Mae pob ysgol wedi creu rhywbeth gwahanol iawn, ond maen nhw i gyd wedi creu argraff yr un mor ffafriol yn eu ffyrdd eu hunain, o gemau cyfrifiadurol a ffisegol i gôd QR â dolenni i daflenni llawn gwybodaeth. Roedd hyd yn oed sioe bypedau!”

“Mae'r arddangosiadau wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Mae ymrwymiad y plant wedi bod yn wych, ac maen nhw i gyd wedi creu argraff ar y cyhoedd, gyda'u sgiliau cyfathrebu ardderchog yn ogystal â'u gwybodaeth am faelgwn a'u brwdfrydedd am amgylchedd morol Cymru.

Meddai un ymwelydd: “Dyma brosiect gwych sy'n cyfuno sgiliau peirianneg, gwybodaeth wyddonol, gofal am yr amgylchedd a chreadigrwydd.

“Galla i weld bod hyn wedi bod o fudd mawr i'r plant!”

Rhagor o wybodaeth am Brosiect SIARC.

Rhannu'r stori