Baban yn bwydo ar y fron.

Mae adolygiad newydd gan Brifysgol Abertawe, gan weithio gyda Phrifysgol Caint ac Autistic UK, y sefydliad nid-er-elw, wedi canfod nad yw cymorth bwydo ar y fron gan fydwragedd ac ymwelwyr iechyd yn addas i ddiwallu anghenion menywod awtistig yn aml. 

Ymdriniodd yr adolygiad, a gyhoeddwyd yn Autism, â phrofiadau mwy na 300 o famau awtistig ac fe'i harweiniwyd gan Dr Aimee Grant o ganolfan ymchwil LIFT (Llaetha, Bwydo Babanod a Throsi) Prifysgol Abertawe. Canfu Dr Grant fod gwasanaethau cymorth mamolaeth a bwydo babanod wedi'u seilio ar ddiffyg dealltwriaeth o anghenion mamau awtistig ac yn aml nid oeddent yn hygyrch yn ystod y cyfnod ar ôl iddynt ddod yn famau pan oeddent, fel y rhan fwyaf o rieni, eisoes yn teimlo dan straen aruthrol.

Canfu'r gwaith dadansoddi newydd fod llawer o famau awtistig wedi gwneud llawer o ymchwil am fwydo ar y fron a bod ganddynt gryn gymhelliant i fwydo eu babanod ar y fron. Adroddodd lleiafrif o famau am brofiadau cadarnhaol o fwydo ar y fron ond, i'r rhan fwyaf, cafodd yr heriau y mae'r mwyafrif o fenywod yn eu hwynebu er mwyn bwydo ar y fron eu dwysáu o ganlyniad i wahaniaethau yn eu profiad o boen a theimladau corfforol, yn ogystal â diffyg cymorth.

Felly, roedd bwydo ar y fron yn heriol iawn i'r rhan fwyaf ohonynt ac yn amhosib i eraill. Wrth fwydo babanod llaeth fformiwla, roeddent yn teimlo fel nad oeddent yn cyflawni'r nodau bwydo o'u dewis, ond roedd yr arfer o baratoi poteli llaeth fformiwla'n destun cysur i leiafrif o famau.

Meddai Dr Grant: “Cydnabyddir yn eang fod cymorth bwydo ar y fron yn y GIG yn ofnadwy o annigonol; o ganlyniad i ddiffyg cyllid difrifol a phrinder o fwy na 2,000 o fydwragedd, nid yw'n bosib i'r rhan fwyaf o famau gael y cymorth y mae ei angen arnynt i gyflawni eu nodau o ran bwydo ar y fron.

"Rydym yn gwybod bod mamau yn y DU sy'n iau ac sy'n dod o gefndiroedd incwm isel yn tueddu i fwydo ar y fron yn llai, ond mae llai o gydnabyddiaeth o ffactorau fel niwrowahaniaethau. Mae'r adolygiad hwn wedi amlygu bod angen brys i wasanaethau mamolaeth a bwydo babanod ddiwallu anghenion mamau awtistig.”

Ar ddiwedd yr adolygiad, ceir argymhellion allweddol ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol:

  • Dylid cyfathrebu mewn modd eglur, uniongyrchol a phenodol a dylid cyflwyno
    gwybodaeth ddilynol ar ffurf ysgrifenedig;
  • Ni ddylid cyffwrdd â mamau, er enghraifft wrth ddangos
    cydfan bwydo ar y fron, heb ganiatâd penodol;
  • Dylai staff gael hyfforddiant ynghylch awtistiaeth, sy'n benodol i fwydo babanod ac y gellir ei deilwra i anghenion unigol pob mam awtistig;
  • Dylai un gweithiwr iechyd proffesiynol (“gofalwr parhaus”) roi cymorth mamolaeth a bwydo babanod i famau awtistig er mwyn osgoi'r angen i ailadrodd eu hanghenion i aelodau staff newydd; a'
  • Dylid cynnwys arweiniad ar gyfathrebu ac anghenion synhwyraidd mewn nodiadau mamolaeth.

Meddai Kathryn Williams, Cyfarwyddwr Anweithredol ac Arweinydd Ymchwil Autistic UK: “Mae'r gwaith y mae Autistic UK yn ei wneud wedi amlygu'r anghydraddoldeb o ran mynediad oedolion awtistig at ofal iechyd.

"Mae hwn yn adlewyrchu canfyddiadau'r ymchwil, sy'n nodi ei bod hi'n hanfodol canolbwyntio ar wella mynediad oedolion awtistig at ofal iechyd, ac mae cynllun peilot Hyfforddiant Gorfodol Oliver McGowan mewn Anabledd Dysgu ac Awtistiaeth yn Lloegr yn galonogol i ni.

"Rydyn ni hefyd yn dechrau gweithio gyda byrddau'r GIG yng Nghymru er mwyn rhoi Côd Ymarfer ar gyfer Darparu Gwasanaethau Awtistiaeth ar waith a bydden ni'n croesawu hyfforddiant i bob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru a Lloegr.”

Ariannwyd yr adolygiad gan Gronfa Arloesi Ymchwil Cymru.

Rhannu'r stori