Dr Gethin Thomas yn derbyn ei wobr.

Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi cyflwyno gwobr uchel ei bri i ddarlithydd o Brifysgol Abertawe sydd wedi rhoi cymorth anfesuradwy i'w fyfyrwyr.

Cyflwynwyd Gwobr y Myfyrwyr i Dr Gethin Thomas, Uwch-ddarlithydd yn y Biowyddorau ym Mhrifysgol Abertawe, wrth i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol  ddathlu ei ben-blwydd yng Nghaerfyrddin ar 13 Gorffennaf.

Mae Gwobr y Myfyrwyr yn rhoi'r cyfle i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg i enwebu darlithydd sydd wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol i'w bywyd yn y brifysgol.

Yn ôl yr enwebiadau, dywedodd un myfyriwr fod y cymorth a gynigiwyd gan Dr Thomas yn ystod cyfnod heriol yn ‘anfesuradwy’, a chanodd myfyriwr arall glodydd Dr Thomas am ei addysgu ardderchog drwy gyfrwng y Gymraeg sydd wedi galluogi'r myfyriwr i ymddangos ar BBC Radio Cymru ac S4C. Ni fyddai wedi cael y cyfleoedd hyn pe na bai'n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a sefydlwyd yn 2011, yn arwain y gwaith o ddatblygu addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn y sector ôl-orfodol yng Nghymru.

Wrth dderbyn y wobr, meddai Dr Thomas: “Mae'n anrhydedd ac yn fraint derbyn Gwobr y Myfyrwyr gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yn enwedig gan fod y myfyrwyr  wedi fy enwebu. Mae'n galonogol gwybod bod y myfyrwyr yn gweld gwerth darpariaeth cyfrwng Cymraeg ym maes y biowyddorau ac yn teimlo eu bod nhw'n cael y cymorth angenrheidiol i barhau i astudio'n ddwyieithog. Rwy'n hynod ddiolchgar am y gydnabyddiaeth hon.”

Meddai Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg: “Mae'r enillwyr yn haeddu cryn ganmoliaeth a chydnabyddiaeth am eu gwaith academaidd gwych, yn ogystal ag am annog a chefnogi eu cymheiriaid a'u cydweithwyr mewn prifysgolion, colegau a gweithleoedd i ymfalchïo yn eu Cymreictod, gan godi proffil y Gymraeg yn eu sefydliad wrth wneud hynny.

“Rwy'n hynod falch ein bod wedi gallu cynnal digwyddiad wyneb yn wyneb heno i ddathlu ymrwymiad ein dysgwyr, ein myfyrwyr a'n darlithwyr. Maen nhw wrth wraidd llwyddiant y Coleg dros y degawd ac rydyn ni wir yn ymfalchïo yn eu llwyddiant yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.”

Dysgwch fwy am astudio'r biowyddorau ym Mhrifysgol Abertawe. 

Rhannu'r stori