Mae gan storio ynni thermol – storio gwres fel y bydd ar gael yn ôl yr angen – y potensial i leihau biliau ynni

Technoleg newydd a allai storio gwres am ddiwrnodau neu fisoedd hyd yn oed, gan helpu'r broses o symud tuag at sero net, yw ffocws prosiect newydd sy'n cynnwys Rhaglen Ymchwil y Ganolfan Adeiladu Gweithredol, dan arweiniad Prifysgol Abertawe, sydd newydd gael cyllid gwerth £146,000.

Mae'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) yn ariannu'r prosiect drwy'r rhaglen Arddangos Dulliau Storio Ynni am Gyfnod Hwy, sy'n rhan o'r Portffolio Arloesi Sero Net (NZIP) gwerth £1bn.

Mae gan storio ynni thermol – storio gwres fel y bydd ar gael yn ôl yr angen – y potensial i leihau biliau ynni sy'n cynyddu'n gyflym.

Yn ogystal, mae'n datrys un o brif broblemau ffynonellau ynni adnewyddadwy, sef eu natur ysbeidiol: mae ynni gwynt a solar yn ddibynnol ar y tywydd. Mae storio ynni thermol yn golygu y gellir storio ynni dros ben a gynhyrchir ar adegau pan fydd digonedd o ynni adnewyddadwy ar gael, a'i ryddhau i wneud iawn am brinder yn y dyfodol.

Nod y prosiect, sef Adsorb (Advanced Distributed Storage for grid Benefit), yw dangos system fodiwlaidd a allai wella perfformiad ynni adeilad a lleihau pwysau ar systemau ynni cenedlaethol. Gellid gosod y system mewn adeiladau newydd neu ei hôl-osod mewn adeiladau presennol.

Bydd y tîm yn gwerthuso dau fath gwahanol o dechnoleg storio ynni thermol uwch, sy'n cael eu harloesi gan Brifysgol Loughborough.

Y math cyntaf yw storio thermogemegol (TCS), a allai storio ynni am wythnosau – neu fisoedd hyd yn oed – heb golli unrhyw wres. Mae'n gweithio drwy dynnu gwres o ffynhonnell thermol megis pwmp gwres, elfen wresogi drydanol neu gasglydd thermol solar er mwyn dadhydradu deunydd gweithredol, a thrwy hynny wefru'r storfa thermol. Ar ôl iddi gael ei gwefru, gellir oeri'r system i dymheredd yr amgylchedd a storio'r ynni. Yn ôl yr angen, gellir ailgyflwyno lleithder, sy'n rhyddhau'r gwres i'w ddefnyddio yn y cartref.

Yr ail dechnoleg yw deunydd newid gwedd (PCM). Mae gan y dechnoleg hon y potensial i storio ynni thermol o ddydd i ddydd ar ddwyseddau llawer mwy na thechnolegau traddodiadol. Mae'r system PCM hefyd yn defnyddio ffynhonnell thermol, y tro hwn er mwyn gwresogi storfa gemegol i drosi'r deunydd solet i'w ffurf hylif. Yr effaith yw storio gwres cudd am sawl diwrnod. Yr unig beth y bydd angen ei wneud i ryddhau'r gwres sy'n cael ei storio er mwyn darparu dŵr poeth neu wresogi mannau yw pwmpio dŵr tymheredd is drwy'r system.

Ar y cyd â systemau rheoli deallus, gallai'r technolegau hyn leihau biliau defnyddwyr yn sylweddol a mynd i'r afael â phroblem ynni ysbeidiol, gan hybu ynni adnewyddadwy a thynnu mwy o garbon o gyflenwad ynni'r DU.

Bydd y cyllid newydd yn cefnogi astudiaeth ddichonoldeb ragarweiniol, er mwyn asesu buddion posib y technolegau hyn.

Bydd Rhaglen Ymchwil y Ganolfan Adeiladu Gweithredol yn gweithio ochr yn ochr â Phrifysgol Loughborough, Prifysgol Sheffield a Mixergy.

Mae gweithio gyda byd diwydiant yn elfen hollbwysig o'r prosiect hwn. Mae gan Mixergy brofiad gwerthfawr o fasnacheiddio technolegau arloesol a ddatblygwyd yn y byd academaidd, ond mae gan y cwmni hefyd gadwyni cyflenwi a modelau dosbarthu sefydledig a all helpu'r technolegau hyn i gyrraedd marchnadoedd prif ffrwd yn gyflym.

Ar ôl datblygu tanc dŵr poeth domestig haenedig deallus, ei lansio a meithrin marchnad ar ei gyfer, mae tîm Mixergy, fel rhan o'r prosiect hwn, hefyd yn ymchwilio i ffordd o gyfuno'r system storio thermol ddeallus arfaethedig â systemau ynni domestig presennol.

Meddai Dr Ahsan Khan, Prif Ymchwilydd Rhaglen Ymchwil y Ganolfan Adeiladu Gweithredol:

“Ni fydd gwres yn cael ei ddatgarboneiddio'n ddigon cyflym heb arloesi dulliau storio thermol. Felly, mae gweld BEIS yn blaenoriaethu'r llwybr hollbwysig hwn, a'n tîm storio thermol yn meithrin partneriaethau diwydiannol er mwyn gwireddu'r technolegau hyn, yn teimlo fel cam mawr ar drywydd sero net.”

Meddai Greg Hands, un o weinidogion Llywodraeth y DU:

“Bydd bwrw ymlaen â thechnolegau storio ynni'n hollbwysig wrth i ni symud tuag at ynni adnewyddadwy rhad, glân a diogel.

Bydd yn ein galluogi i fanteisio i'r eithaf ar ein ffynonellau ynni adnewyddadwy lleol, lleihau costau a rhoi terfyn ar ein dibyniaeth ar danwyddau ffosil anwadal a drud. Drwy'r gystadleuaeth hon, rydym yn sicrhau ein bod yn cefnogi gwyddonwyr a meddylwyr mwyaf blaengar y wlad i wireddu'r uchelgais hwn.”

 

Rhannu'r stori