Athrawes yn gwisgo masg wyneb yn sefyll wrth fwrdd gwyn o flaen disgyblion.

Mae ymchwil newydd wedi datgelu'r effaith a gafodd pandemig Covid-19 ar staff uwch ysgolion Cymru.

Yn ôl adroddiad gan Brifysgol Abertawe mae eu lles nid yn unig yn is na chyfartaledd y DU, ond fe wnaeth uwch arweinwyr hefyd wynebu straen cymedrol i uchel gyda mwy na hanner yn arddangos symptomau iselder.

Cymerodd mwy na 170 o uwch arweinwyr ysgolion ledled Cymru ran yn Arolwg Arweinyddiaeth Ysgolion Covid-19 a oedd â’r nod o archwilio'r baich a'r straen a brofodd penaethiaid ysgolion a staff arweinyddiaeth uwch yn ystod Covid-19.

Erbyn hyn mae eu hymatebion yn sail i adroddiad newydd, dan arweiniad Dr Emily Marchant, o Adran Addysg ac Astudiaethau Plentyndod a Gwyddor Data Poblogaethau mewn cydweithrediad ag Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru.

Cynhaliwyd Adroddiad Astudiaeth Arweinyddiaeth Uwch Covid-19 2022 drwy rwydwaith ysgolion cynradd HAPPEN Cymru sy’n rhan o astudiaeth ryngwladol ehangach drwy Rwydwaith Llythrennedd Iechyd Covid-19 sy’n rhychwantu dros 30 o wledydd.

Rhoddodd ymchwil flaenorol sylw i effaith cau ysgolion ar iechyd a lles disgyblion a'r heriau dysgu a datblygu ar gyfer staff addysgu a chefnogi, ond eglurodd Dr Marchant fod bwlch mewn tystiolaeth sy'n archwilio effeithiau'r pandemig ar benaethiaid ac arweinwyr ysgolion.

Dywedodd: "Mae hwn yn faes pwysig gan fod penaethiaid ac uwch-arweinwyr ysgolion wedi ymdrin â sefyllfa ac amgylchedd gwaith hollol newydd, a ofynnodd iddynt wneud penderfyniadau ac arwain yng nghyd-destun yr heriau niferus maent wedi gorfod eu meistroli a'u rheoli.

"Nhw sy'n gyfrifol am bob agwedd ar fywyd ysgol a bu’n rhaid iddyn nhw ymdopi â gofynion arbennig o drwm yn ystod Covid. Mae adroddiad a gomisiynwyd gan yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol wedi trafod argyfwng posib mewn arweinyddiaeth addysg o safbwynt recriwtio a chadw penaethiaid, a'r rôl bwysig y gall lles arweinwyr ei chwarae wrth osgoi hyn."

Dangosodd yr arolwg fod 75 y cant o'r staff wedi dweud eu bod yn gweithio ar lefel yr oedden nhw'n gwybod nad oedd yn dda iddyn nhw yn ystod y pandemig, gwnaeth 93 y cant oriau ychwanegol a chyfaddefodd y mwyafrif eu bod wedi blino'n feddyliol gan y swydd.

Gofynnwyd hefyd i arweinwyr ysgolion raddio anghenion iechyd eu staff ac o safbwynt iechyd meddwl, dywedodd 91 y cant mai'r mater pwysicaf oedd straen ac ymdopi. Cafodd problemau mewnol megis gorbryder ac iselder hefyd eu graddio'n uchel.

Dywedodd Dr Marchant: “Er mwyn diogelu iechyd a lles arweinwyr ysgol, dylid canolbwyntio ar raglenni ataliol er mwyn gwella'r adnoddau sydd ar gael i arweinwyr wrth ymdopi â gofynion a phethau sy’n achosi straen mewn perthynas â gwaith. Rhaid ystyried hyn ar lefel unigol, sefydliadol a systematig i gefnogi arweinwyr yn eu rôl"

Mae'r adroddiad nawr yn argymell:

  • Dull mwy strategol o gefnogi lles arweinwyr addysg yng Nghymru;
  • Mwy o eglurder ar gynnwys ac ansawdd y ddarpariaeth datblygu arweinyddiaeth i gefnogi lles arweinwyr yn benodol; ac,
  • Ymchwil pellach sy’n mapio newidiadau i les arweinwyr dros amser a allai gyfrannu at gryfhau'r sylfaen dystiolaeth yn y maes hwn.

Ychwanegodd cydweithredwr y prosiect, Tom Crick, Athro Digidol a Pholisi a Dirprwy Is-ganghellor Cenhadaeth Ddinesig Prifysgol Abertawe: “Mae recriwtio a chadw staff ysgol yn flaenoriaeth genedlaethol, yn enwedig yng nghyd-destun yr arweinyddiaeth sydd ei hangen ar bob lefel i roi’r Cwricwlwm newydd i Gymru ar waith yn llwyddiannus ynghyd â diwygiadau i systemau addysg ehangach a geir ar hyn o bryd.

“Gallai mynd i’r afael â lles ar draws y sector gyfrannu at hyn, wrth i ni ddechrau ar normal newydd ôl-Covid ar gyfer addysg yng Nghymru.”

Bydd Dr Merchant nawr yn cyflwyno ei chanfyddiadau yng Nghynhadledd Iechyd Cyhoeddus Ewrop yn Berlin, yr Almaen, yn ddiweddarach y mis hwn.

 

Rhannu'r stori