A photo of Singleton Campus including Singleton park and a view of the sea
Professor Tom Crick

Yr Athro Tom Crick

Athro mewn Addysg Ddigidol a Pholisi, Education and Childhood Studies

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Sylfaenol
Swyddfa Academaidd - 433
Pedwerydd Llawr
Adeilad Keir Hardie
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig
Sylwebydd y Cyfryngau

Trosolwg

Athro Digidol a Pholisi a Dirprwy Is-ganghellor (Cenhadaeth Ddinesig) ym Mhrifysgol Abertawe yw Tom Crick. Mae ganddo benodiad ymchwil ac arloesi ar y cyd rhwng yr Adran Addysg ac Astudiaethau Plentyndod (Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol), a'r Ffowndri Gyfrifiadol gwerth £32 miliwn (Adran Gyfrifiadureg, y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg). Er bod ei gefndir disgyblaethol mewn cyfrifiadureg, mae ei ddiddordebau academaidd yn y rhyngwyneb rhwng ymchwil/polisi cyhoeddus gyda ffocws ar effaith gymdeithasol/polisi: STEM/ addysg ddigidol, diwygio’r cwricwlwm, polisi gwyddoniaeth ac arloesi, gwyddor data, systemau deallusol, dinasoedd clyfar, isadeiledd cenedlaethol, cynaliadwyedd meddalwedd, trawsnewid digidol a sgiliau/isadeiledd ar gyfer yr economi ddigidol/data. Fel themâu sy'n sail i hyn oll, mae ei ddiddordebau ymchwil ehangach hefyd yn cynnwys liferi ar gyfer arloesi llywodraethol, gwasanaethau cyhoeddus digidol, modelau economaidd newydd ar gyfer yr economi ddigidol, democratiaeth ddigidol ac ymgysylltu â'r cyhoedd/dinasyddion/dinesig.

Mae gan Tom hefyd brofiad ymgynghori annibynnol, anweithredol a sicrhau ansawdd helaeth, ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat, gan gynnwys rolau gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU (gweler isod).

Mae'n Brif Olygydd The Computer Journal (2021-presennol), un o'r cyfnodolion mwyaf hirsefydlog (ers 1958), yn gwasanaethu pob cangen o'r gymuned gyfrifiadureg academaidd, a gyhoeddir gan Oxford University Press. Mae Tom hefyd yn Olygydd Wales Journal of Education/Cylchgrawn Addysg Cymru (2020-presennol), cyfnodolyn mynediad agored platinwm, dwyieithog a gyhoeddir gan Wasg Prifysgol Cymru.

Ym mis Mehefin 2017, fe'i anrhydeddwyd ag MBE yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines am "wasanaethau i gyfrifiadureg a hyrwyddo addysg gyfrifiadureg”. Yn 2020, cafodd ei wneud yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, yr academi genedlaethol ar gyfer y gwyddorau a'r celfyddydau. Mae hefyd yn Gymrawd Siartredig BCS a'r IET, yn Siaradwr Nodedig ac yn Uwch-aelod o'r ACM.

Meysydd Arbenigedd

  • Cyfrifiadureg ac addysg STEM
  • Sgiliau digidol
  • Diwygio cwricwlwm
  • Dadansoddi data eilaidd/gweinyddol/cysylltiedig
  • Gwyddor Gymdeithasol Gyfrifiadol
  • Systemau Deallusol
  • Isadeiledd Digidol/Data
  • Economi ddigidol

Uchafbwyntiau Gyrfa

Prif Wobrau

Gwobr Effaith ac Ymgysylltu â'r Cyhoedd Cymdeithas Ymchwil Addysgol Prydain (BERA) (2020) am "Arwain Dyfodol Addysg Gwyddoniaeth a Thechnoleg yng Nghymru”.

Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru (2020)

MBE am "wasanaethau i gyfrifiadureg a hyrwyddo addysg cyfrifiadureg" (2017)

Cymrawd Ymddiriedolaeth Goffa Winston Churchill (2015)

 Cymrawd Addysgu Cenedlaethol HEA  (2014)

Cymrawd y Sefydliad Cynaliadwyedd Meddalwedd (2014)

Cymrawd Ifanc Canmlwyddiant RSA (2014)

Cymrawd Cyfryngau Gwyddoniaeth BSA (2011)