Mae'r Athro Davies yn disgrifio sut mae Covid a Brexit yn cyfuno â phroblemau hirsefydlog i gyflwyno her economaidd ddigynsail i Gymru.

Mae'r Athro Davies yn disgrifio sut mae Covid a Brexit yn cyfuno â phroblemau hirsefydlog i gyflwyno her economaidd ddigynsail i Gymru.

Mae rhagolygon economaidd Cymru'n fwy ansicr nag y buont ar unrhyw adeg ers sefydlu'r Cynulliad – ac mae angen mwy o ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru a mwy o gydweithrediad rhwng gwleidyddion ar bob lefel, yn ôl barn arbenigwr blaenllaw mewn arolwg newydd o economi Cymru ers datganoli.

Mae'r Athro Gareth Davies o'r Adran Rheoli Busnes, Prifysgol Abertawe, yn amlinellu ei achos mewn pennod ar economeg mewn llyfr newydd o'r enw The Impact of Devolution in Wales: Social Democracy with a Welsh Stripe?

Mae'n disgrifio sut mae Covid a Brexit yn cyfuno â phroblemau hirsefydlog i gyflwyno her economaidd ddigynsail i Gymru.
Ar yr un pryd, mae'r cymysgedd o berthnasoedd gwleidyddol sydd mor bwysig i lwyddiant economaidd Cymru yn fwy cymhleth nag erioed, gydag endidau newydd fel rhanbarthau'r Bargeinion Dinesig a Thwf, a'r perthnasoedd rhwng Cymru a San Steffan, a rhwng llywodraeth y DU a'r Undeb Ewropeaidd (UE), yn gwaethygu.

O ystyried yr heriau enbyd hyn, mae'r bennod yn dadlau mai cyfnod presennol y Senedd yw'r un pwysicaf i economi Cymru ers gwawr datganoli fwy nag 20 mlynedd yn ôl.

Gan dynnu ar ei adolygiad o'r cyfnod ers datganoli, mae'r Athro Davies yn nodi dwy egwyddor graidd y gellid eu hatgyfnerthu, yn ei farn ef, fel rhan o'r ymdrechion i gryfhau economi Cymru ar yr adeg gythryblus hon.

Yr egwyddor gyntaf yw bod yn fwy parod i ymyrryd mewn sectorau economaidd allweddol, gan wneud hynny mewn modd mwy gofalus ac o safbwynt tymor hir. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi prynu maes awyr Caerdydd, gan helpu i sicrhau ei ddyfodol, ac yn nodedig mae bellach wedi gwladoli rheilffyrdd Cymru hefyd mewn un rhwydwaith o'r enw Trafnidiaeth Cymru.

Yn ogystal â thrafnidiaeth, mae'r Athro Davies yn esbonio bod cwmpas i dargedu ymyrraeth mewn meysydd isadeiledd a sgiliau hanfodol eraill:

“Un enghraifft amserol iawn yw ynni. Rhoddodd llywodraeth y DU derfyn ar fenter y morlyn llanw ym Mae Abertawe ac ar gynlluniau blaenorol ar gyfer gorsaf ynni niwclear newydd Wylfa B ar Ynys Môn. Gallai Llywodraeth Cymru ddefnyddio ei phwerau presennol er mwyn gwneud mwy i gefnogi prosiectau isadeiledd ynni mawr o'r fath.

Nid mater mor syml â pherchnogaeth yw ymyrraeth, gan ei bod hefyd yn ymwneud â threfnu cydweithrediad mewn meysydd sy'n allweddol i economi Cymru megis ynni carbon isel, y gwyddorau bywyd a'r diwydiannau creadigol.

Mae prosiect arobryn SPECIFIC, dan arweiniad Prifysgol Abertawe, yn enghraifft ardderchog, wrth i ymchwilwyr a chwmnïau mawr a bach gydweithio i ddatblygu adeiladau carbon isel.

Mae'r diffyg pwerau a roddwyd yn y setliad datganoli wedi cyfyngu ar allu Cymru i weithredu, er bod cymryd camau beiddgar a dilyn ymagwedd sectorol fwy ymyraethol wedi dangos yr uchelgais i ‘wneud ein penderfyniadau ein hunain a phennu ein blaenoriaethau ein hunain’.”

Yr ail egwyddor graidd, yn ôl yr Athro Davies, yw cydnabod rhyngddibyniaeth economaidd, a thrwy hynny bwysigrwydd cynnal perthnasoedd cryf yng Nghymru a'r tu hwnt iddi.

Mae'n nodi enghraifft Tata Steel, un o gewri economi Cymru, sy'n meddu ar gysylltiadau masnachu hollbwysig â diwydiant gweithgynhyrchu ceir y DU ar draws y ffin yng nghanolbarth a gogledd Lloegr.

Mae'r Athro Davies yn tanlinellu pam mae'n hollbwysig cydnabod rhyngddibyniaeth economaidd:

“Yn hytrach na bod mewn blwch seliedig, mae economi Cymru'n rhan o rwydwaith cymhleth o berthnasoedd. Yng Nghymru, mae angen i ni fod yn ymwybodol o'r gwirionedd economaidd syml hwn ar bob adeg.

Ar lefel y DU, rydyn ni'n dechrau gweld anawsterau cysoni Brexit â'r ffaith nad oes modd osgoi rhyngddibyniaeth economaidd.

Mae rhagolygon economaidd Cymru ynghlwm â pherthnasoedd yn y DU a'r tu hwnt iddi. Yn anffodus, ar hyn o bryd mae llawer o'r rhain yn gwaethygu'n sylweddol. Er gwaethaf y cyd-destun gwleidyddol cymhleth ac ingol, dylai gwleidyddion yng Nghymru ac yn San Steffan geisio cydweithio a chydweithredu, gan fod hynny'n hanfodol i lwyddiant economaidd.

Ar yr adeg ansicr hon, dim ond drwy weithio gyda'n gilydd y gallwn greu economi gydnerth sy'n gwasanaethu ein pobl.”

Enw pennod yr Athro Davies yw “Economic Development in Wales – evolution and revolution”. Mae'r llyfr wedi'i olygu gan Jane Williams ac Aled Eirug a'i gyhoeddi gan Wasg Prifysgol Cymru.

Mwy o wybodaeth - Rheoli Busnes, Prifysgol Abertawe

Rhannu'r stori