Sesiynau ar-lein am ddim yn cynnig cyfle i wybod mwy am radd ran-amser

Os ydych yn ystyried ailgydio yn eich addysg neu'n dymuno cael blas ar astudio, bydd Prifysgol Abertawe'n cynnig cyfres o sesiynau am ddim i roi profiad uniongyrchol i chi. 

Cynhelir cyfres o sesiynau rhagflas tair wythnos y mis nesaf a fydd yn galluogi pobl i gael blas ar gynnwys y rhaglen BA ran-amser yn y Dyniaethau.

Nod y radd yw rhoi cyfle i fyfyrwyr astudio amrywiaeth eang o feysydd pwnc y dyniaethau ar y campws ac yn y gymuned dros chwe blynedd.

Ar gyfer Julie James, o Lanelli, bu dilyn y BA yn hwb i'w hyder ac arweiniodd at lwybr gyrfa newydd sbon.

Ar ôl cydbwyso gofynion swydd amser llawn a phedwar plentyn oedran ysgol, graddiodd hi gydag anrhydedd dosbarth cyntaf ac ar ben hynny mae hi bellach wedi dewis astudio am Dystysgrif Addysg i Raddedigion.

Meddai: “Roedd fy mhlant a'm gŵr i gyd yn hapus gyda'u clybiau a'u gweithgareddau ac roeddwn i'n teimlo bod angen i fi wneud rhywbeth drosta i fy hun. Felly pan glywais i am y radd BA ran-amser, penderfynais i roi cynnig arni.

“Roedd ymrwymiad chwe blynedd i'w weld yn heriol, felly penderfynais i pe bawn i'n gwneud yn dda ac yn mwynhau'r cwrs y byddwn yn cofrestru am y flwyddyn nesaf. Cyn i fi sylweddoli, roeddwn i'n ysgrifennu fy nhraethawd hir!”

Ychwanegodd Julie: “Roedd y radd ran-amser yn gyfle fforddiadwy i gael cymhwyster lefel uwch. Roedd y tiwtoriaid i gyd yn wych, yn gefnogol iawn ac yn gadarnhaol. Roedd cymysgedd o fyfyrwyr yn y dosbarth o gefndiroedd amrywiol a oedd yn gwneud y cwrs am resymau gwahanol. Oherwydd hynny, roedd y dosbarthiadau a'r trafodaethau'n ddiddorol iawn ac roeddwn i'n edrych ymlaen atyn nhw bob amser.”

Mae ei phrofiad yn cael ei hadleisio gan Ray Collier, a ddechreuodd y radd ran-amser wrth iddo baratoi i ymddeol yn gynnar.

Meddai: “Gan fy mod i wedi graddio oddeutu 40 o flynyddoedd yn ôl, roeddwn i'n teimlo bod hynny'n amser rhy hir i fynd yn syth i raglen gradd meistr, yn enwedig gan fod fy niddordeb mewn hanes, lle roedd ymchwil newydd wedi newid y pwnc yn sylweddol.”

Fodd bynnag, ar ôl graddio'n llwyddiannus, mae Ray, o Donnau yng Nghastell-nedd, bellach yn ail flwyddyn gradd MA ran-amser.

“Yn wahanol i rai o'r myfyrwyr, nid yw'r cwrs wedi arwain at swydd neu yrfa newydd i fi ond mae dysgu yn ystod fy ymddeoliad wedi fy nghadw'n brysur, wedi fy ymestyn yn academaidd ac yn ddeallusol ac wedi bod yn bwysig yn gymdeithasol – mae perygl y byddwch chi'n ynysu eich hun pan fyddwch chi'n ymddeol.”

Meddai Dr Alison Walker, Cyfarwyddwr y Rhaglen: “Rydyn ni'n teimlo ein bod ni wedi creu rhaglen ran-amser arloesol, ddeinamig a hyblyg a fydd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu'r sgiliau, yr wybodaeth a'r profiad a all agor drysau i ddyfodol disglair.

“Mae'r sesiynau rhagflas hyn yn berffaith os ydych chi'n oedolyn sy’n ystyried ailgydio yn eich addysg ac yn dymuno gwybod a yw'r cwrs gradd yn addas i chi.”

Gan dynnu ar hanes, llenyddiaeth, cymdeithas a gwleidyddiaeth de Cymru, bydd y dosbarthiadau yn eich cyflwyno i astudio ar lefel prifysgol drwy ddarlithoedd, seminarau a thrafodaethau gafaelgar.

Gall myfyrwyr ddewis a dethol y pynciau sy'n mynd â'u bryd hwy er mwyn cael dealltwriaeth fwy cyflawn o'r hyn y gallai'r rhaglen radd ran-amser ei gynnig.

Darllenwch am y radd BA ran-amser ac e-bostiwch i ofyn am becyn cais, a fydd ar gael o fis Mai 2022.

 

Rhannu'r stori