Myfyrwyr yn eistedd yn y llyfrgell

Mae Prifysgol Abertawe ymysg sefydliadau gorau'r byd yn 10 o'r 11 grŵp o bynciau yn Nhablau Prifysgolion y Byd Times Higher Education 2023.

Yn ogystal â pherfformio'n gryf mewn meysydd pwnc, mae Abertawe wedi cadw ei statws cyffredinol rhwng 251 a 300 yn fyd-eang.

Daw perfformiadau gorau Abertawe yn y tablau eleni yn y pynciau canlynol: 

  • Y Gyfraith, nas rhestrwyd o'r blaen, sydd yn y 67ain safle
  • Addysg, nas rhestrwyd o'r blaen, sydd rhwng rhif 126 a rhif 150 yn y tabl
  • Cyfrifiadureg, a restrir rhwng rhif 126 a rhif 150

Yn ogystal â'r ffaith bod dau bwnc newydd yn cael eu rhestru yn y tablau am y tro cyntaf, mae pum pwnc arall wedi gwella eu statws, ac mae dau bwnc wedi cadw statws sefydlog.

  • Y Celfyddydau a'r Dyniaethau: 301–400
  • Busnes ac Economeg: 151–175
  • Pynciau Clinigol ac Iechyd: 251–300
  • Cyfrifiadureg: 126–150
  • Addysg: 126–150
  • Peirianneg: 251–300
  • Y Gyfraith: 67ain safle
  • Y Gwyddorau Ffisegol: 201–250
  • Seicoleg: 251–300
  • Y Gwyddorau Cymdeithasol: 251–300

Meddai'r Athro Judith Lamie, Dirprwy Is-ganghellor dros Ymgysylltu Rhyngwladol: “Rwy'n falch iawn o weld bod y tablau byd-eang diweddaraf hyn yn ein gosod ymysg y prifysgolion mwyaf blaenllaw ar gyfer amrywiaeth mor eang o bynciau.

“Mae ein llwyddiant parhaus yn y tablau hyn a thablau cynghrair eraill ar gyfer sefydliadau yn y DU a sefydliadau rhyngwladol yn dangos ein bod yn perfformio'n well a bod ein henw da am ddarparu addysgu, ymchwil, boddhad myfyrwyr a rhagolygon gyrfa ardderchog yn lledaenu’n gyflym.”

Gweler safleoedd Prifysgol Abertawe yn yr holl dablau

Rhannu'r stori