Adeilad newydd yn Khuded: mae cyflenwad trydan dibynadwy’n golygu y gall preswylwyr wefru batris ffonau a lampau. Mae hefyd yn pweru peiriant plisgo reis, uned oeri a melin flawd (yn y llun), y gwnaeth preswylwyr nodi ei fod yn hanfodol.

Adeilad newydd yn Khuded: mae cyflenwad trydan dibynadwy’n golygu y gall preswylwyr wefru batris ffonau a lampau. Mae hefyd yn pweru peiriant plisgo reis, uned oeri a melin flawd (yn y llun), y gwnaeth preswylwyr nodi ei fod yn hanfodol.

Bydd pentref yng nghefn gwlad India bellach yn cael trydan glân a dibynadwy am y tro cyntaf, diolch i Adeilad Gweithredol newydd ei agor, sy'n debyg i'r rhai hynny mae Abertawe wedi'u harloesi, sy'n cynhyrchu, yn storio ac yn rhyddhau ei bŵer solar ei hun.

Mae 770 miliwn o bobl yn fyd-eang yn parhau i fod heb fynediad at drydan. Mae adeiladau'n gyfrifol am 40% o holl allyriadau carbon y byd. Mae'r adeilad newydd hwn yn India yn helpu i fynd i'r afael â'r ddwy her ar yr un pryd, gan gynhyrchu ei ynni ei hun ar gyfer trydan o'r haul heb yr angen am danwydd ffosil.

Mae'r adeilad i’w ddefnyddio gan gymuned pentref Khuded yn nhalaith Maharashtra, yng ngorllewin India. Er bod Khuded wedi'i gysylltu â'r grid, mae'r cyflenwad trydan yn annibynadwy ac yn ddrud. Mae'r rhan fwyaf o’r preswylwyr yn dibynnu ar losgi tanwydd megis cerosin a choed tân, sy'n peri risg ddifrifol o glefydau anadlol a thanau.

Cyd-ddyluniwyd yr arddangosydd technoleg newydd – o'r enw'r OASIS solar – gan bentrefwyr yn Khuded, a fydd yn rhannu'r ynni mae'n ei gynhyrchu.

Fe'i cyflwynwyd mewn partneriaeth â Tata Cleantech Capital Ltd, a bydd yn cynnig technolegau cynaliadwy ar gyfer goleuadau a chynhyrchu bwyd, gan leihau'r angen i losgi tanwydd.

Mae cyflenwad trydan dibynadwy’n golygu y gall preswylwyr wefru batris ffonau a lampau. Mae hefyd yn pweru peiriant plisgo reis, uned oeri a melin flawd, y gwnaeth preswylwyr nodi ei fod yn hanfodol, gan fod llawer ohonynt yn ennill bywoliaeth o gynnyrch amaethyddol.

Dyluniwyd yr adeilad gan rwydwaith SUNRISE dan arweiniad Abertawe, sef Prosiect a ariennir gan y Gronfa Ymchwil Heriau Byd-eang sy'n cynnwys prifysgolion a diwydiannu o bob rhan o'r DU, India, Mecsico, Kazakhstan a De Affrica. Cefnogwyd dyluniad Adeiladau Gweithredol gan arbenigedd o Ganolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC, sydd hefyd dan arweiniad Prifysgol Abertawe.

SUNRISE - mwy o wybodaeth 

Mae'r gymuned leol yn Khuded wedi bod yn rhan o'r prosiect ers y cychwyn cyntaf. Cyn llunio unrhyw gynlluniau, gweithiodd Sefydliad y Gwyddorau Cymdeithasol Tata ac elusen leol, Keshav Shrusthi, gyda phentrefwyr ar arolwg, gan amlinellu’r hyn y byddai ei angen gan yr adeilad. Nawr bod yr adeilad wedi agor, y gymuned leol fydd yn ei gynnal.

Mae Adeilad Gweithredol yn cyfuno amrywiaeth o dechnolegau ynni adnewyddadwy integredig, sy'n gweithio ar y cyd mewn un system i gynhyrchu, storio a rhyddhau gwres a thrydan.

Mae'r cysyniad, a ddatblygwyd gan dîm SPECIFIC, eisoes wedi bod yn llwyddiannus yn y DU, ac mae'r Ystafell Ddosbarth Weithredol a'r Swyddfa Weithredol yn gweithredu'n llwyddiannus ar Gampws y Bae Prifysgol Abertawe

Mae'r adeilad cymunedol newydd yn Khuded yn dangos sut mae SUNRISE wedi addasu'r cysyniad Adeilad Gweithredol i fod yn addas i gyd-destun a hinsawdd wahanol iawn India wledig.

Mae nodweddion adeilad OASIS Solar Khuded yn cynnwys:

• Dyluniad "Nest-In " Modiwlaidd gan Tata Steel, er mwyn gallu ei adeiladu oddi ar y safle a'i roi at ei gilydd yn gyflym ar y safle
• To a wnaed o baneli solar integredig, a gynhyrchwyd gan BIPVco
• Gallu storio ynni, fel na fydd pŵer solar dros ben yn cael ei wastraffu
• Pwyntiau gwefru batris
• Awyru naturiol
• Man cymunedol hyblyg

Mae tîm SUNRISE eisoes wedi gosod tri system micro-grid solar ar gyfer cymunedau gwledig yn India, ond y ganolfan OASIS Solar yn Khuded yw eu hadeilad graddfa lawn cyntaf.

Y syniad yw y bydd Khuded yn dangos bod y cysyniad Adeilad Gweithredol yn gweithio'n ymarferol mewn lleoliad anghysbell a gwledig yn India, a’r gobaith yw y bydd eraill yn dilyn ei enghraifft.

Dywedodd Arunavo Mukerjee, Is-lywydd Gwasanaethau Ymgynghorol Tata Cleantech Capital Ltd:

"Gall Adeiladau Gweithredol chwarae rôl allweddol yng Nghenhadaeth Solar Genedlaethol Llywodraeth India, sydd â'r nod o sefydlu India fel arweinydd byd-eang mewn ynni solar. Maent hefyd yn helpu i gyflawni Nod Datblygu Cynaliadwy 7 y Cenhedloedd Unedig, sef: trydan cynaliadwy, fforddiadwy, dibynadwy a modern i bawb."

Dywedodd yr Athro David Worsley o Brifysgol Abertawe, sy'n Brif-ymchwilydd SUNRISE:

“Drwy ein gwaith gyda phobl leol Khuded, daeth yn amlwg bod angen i’r OASIS Solar ddarparu lle cymunedol y gellir ei addasu. Drwy ymyriad sengl ac un adeilad cymunedol pwrpasol y gellir ei roi ar waith yn gyflym, nid yn unig y bydd preswylwyr yn derbyn ynni cynaliadwy, ond hefyd le i gynhyrchu bwyd a chymryd rhan mewn gweithgareddau economaidd megis creu a gwerthu crefftau."

Mae SUNRISE wedi'i ariannu gan UKRI drwy ei Gronfa Ymchwil Heriau Byd-eang a chefnogwyd OASIS Solar gan Tata Cleantech Capital Ltd drwy gronfeydd Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol.

Rhannu'r stori