Llun: ymweliad diweddar â'r campws yn Grenoble gan yr Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, a'r Athro Judith Lamie, y Dirprwy Is-ganghellor dros Ymgysylltu Rhyngwladol.

Llun: ymweliad diweddar â'r campws yn Grenoble gan yr Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, a'r Athro Judith Lamie, y Dirprwy Is-ganghellor dros Ymgysylltu Rhyngwladol.

Bydd cysylltiadau Ewropeaidd ac ymchwil Prifysgol Abertawe ym mhob rhan o'r sefydliad yn cael eu cryfhau pan fydd ymchwilwyr sy'n gweithio yn Abertawe a Ffrainc yn cwrdd ym mis Gorffennaf, fel rhan o bartneriaeth ffyniannus ag Université Grenoble Alpes (UGA).

Mae UGA yn un o'r prifysgolion mwyaf blaenllaw yn Ffrainc ac yn un o ddwsin o safleoedd prifysgol yn unig yn y wlad sy'n meddu ar y label "Initiative d'excellence".

Mae'r gynhadledd ymchwil ym mis Gorffennaf yn cael ei chyhoeddi yn dilyn ymweliad diweddar â'r campws yn Grenoble gan yr Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, a'r Athro Judith Lamie, y Dirprwy Is-ganghellor dros Ymgysylltu Rhyngwladol.

Sefydlwyd Partneriaeth Strategol Sefydliadol Abertawe-Grenoble yn 2013 rhwng Abertawe ac Université Joseph Fourier, fel ydoedd bryd hynny, fel menter ymchwil ar y cyd ym maes nanowyddoniaeth, ynni a heneiddio.

Erbyn hyn, mae'r bartneriaeth wedi cael ei hehangu ag Université Grenoble Alpes, a ffurfiwyd pan unwyd tair prifysgol yn Grenoble yn 2016. Dyma fenter unigryw rhwng prifysgol yn y DU a phrifysgol yn Ffrainc.

Université Grenoble Alpes

Mae'r buddion sydd eisoes wedi deillio o'r bartneriaeth yn cynnwys:

  • Graddau doethur ar y cyd – mae'r bartneriaeth wedi ariannu mwy na 40 ohonynt mewn meddygaeth, peirianneg, gwyddoniaeth, y gwyddorau cymdeithasol a'r dyniaethau. Mae'r myfyriwr yn treulio hanner ei amser ym mhob prifysgol ac yn derbyn doethuriaeth gan Abertawe a chan Grenoble.
  • Ymchwil ar y cyd – mae mwy na 70 o bapurau ymchwil gan gyd-awduron rhwng Abertawe ac UGA wedi cael eu cyhoeddi, ac mae cyllid ymchwil gwerth £1.8m wedi cael ei ddyfarnu o ganlyniad i gynigion ar y cyd.
  • Addysgu ar y cyd – mae rhaglenni meistr mewn Cyfrifiadureg/Informatique ac un newydd mewn Cyfieithu bellach ar gael.
  • Trefniadau cyfnewid sy'n galluogi myfyrwyr o'r naill sefydliad i drefnu amser yn y llall – mae opsiynau tymor byrrach drwy ysgolion haf neu aeaf a threfniadau cyfnewid rhithwir hefyd yn cael eu hystyried ar hyn o bryd.
  • Cyfnewid staff – mae staff addysgu, ymchwil a gweinyddol o'r ddwy brifysgol wedi bod ar ymweliadau cyfnewid, gan rannu arfer gorau; mae academyddion Abertawe wedi elwa o raglen Meithrin Gwyddoniaeth Grenoble i hybu eu gobeithion o gael gafael ar gyllid ymchwil o'r Undeb Ewropeaidd.

Bydd y gynhadledd ym mis Gorffennaf yn destun budd pendant arall i ddeillio o'r bartneriaeth wrth iddi dyfu.

Ar hyn o bryd, mae 20 o fyfyrwyr ôl-raddedig ar y rhaglen PhD ar y cyd. Mae hanner ohonynt yn Abertawe ac mae'r hanner arall yn Grenoble. Bydd y gynhadledd yn gyfle iddynt hwy, eu timau goruchwylio a rhanddeiliaid eraill gwrdd â'i gilydd wyneb yn wyneb, trafod mentrau cydweithredol posib a nodi cyfleoedd eraill ar gyfer ymchwilwyr gyrfa gynnar.

Cynhelir y digwyddiad yn Abertawe rhwng 11 a 13 Gorffennaf.

Bydd y rhaglen yn cynnwys cyflwyniadau gwyddonol gan fyfyrwyr a goruchwylwyr ar brosiectau ar y cyd, hyfforddiant i ymchwilwyr ar feysydd megis sut i gyflwyno eu canfyddiadau a pharatoi am eu harholiad llafar, syniadau ynghylch cyflwyno ceisiadau am gyllid ar y cyd, a chyfleoedd iddynt ddod i adnabod ei gilydd yn well a meithrin perthnasoedd pwysig.

Y nod cyffredinol yw rhoi hwb arall i'r rhaglen ymchwil ar y cyd rhwng Abertawe a Grenoble, gan arwain at brosiectau ymchwil newydd a cheisiadau am gyllid.

Meddai'r Athro Yassine Lakhnech, llywydd Université Grenoble Alpes:

“Roedd yn anrhydedd go iawn ac yn bleser mawr croesawu cynrychiolwyr Prifysgol Abertawe i Grenoble. Roedd yn achlysur i gael trafodaethau ffrwythlon am ein camau gweithredu blaenoriaethol presennol a'r rhai sydd i ddod, yn unol â'n strategaethau, ac mae fframwaith o gamau gweithredu yn y dyfodol wedi cael ei ddiffinio.”

“Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'n gilydd tuag at ein nodau cyffredin megis cyfleoedd am gyllid, a rhagor o brosiectau ymchwil ac addysgu dwys ar y cyd.”

Meddai'r Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe:

“Mae partneriaeth strategol Prifysgol Abertawe ag Université Grenoble Alpes (UGA) yn enghraifft ardderchog o bŵer cydweithredu rhwng sefydliadau. Dros amser, mae hi wedi cael ei chryfhau gan ein huchelgais cyffredin i gynyddu ymchwil ar y cyd ym mhob rhan o'n sefydliadau, cefnogi myfyrwyr PhD a meithrin cysylltiadau cryfach ledled Ewrop a'r tu hwnt.

“Yn dilyn dwy flynedd o gyfarfodydd rhithwir, roedden ni'n falch o ymweld â'n cydweithwyr yn UGA wyneb yn wyneb ym mis Mawrth, a wnaeth ein galluogi i ailgysylltu, yn ogystal â chanolbwyntio o'r newydd ar weithgarwch ar y cyd yn y dyfodol a fydd yn gwella gallu'r ddau sefydliad i gyflawni ein nodau strategol uchelgeisiol.”

Meddai'r Athro Judith Lamie, Dirprwy Is-ganghellor ym Mhrifysgol Abertawe:

“Mae ein gweledigaeth a'n pwrpas yn rhoi pobl wrth wraidd y gwaith o gyflawni ein nodau yn y dyfodol ym Mhrifysgol Abertawe ac roedd dod ynghyd â'n partneriaid yn Université Grenoble Alpes (UGA) yn ffordd ddelfrydol o ddangos hyn yn ymarferol.

“Drwy gwrdd â'n gilydd i ganolbwyntio ar ein huchelgeisiau a'n hymrwymiadau rhyngwladol, cryfhawyd y bartneriaeth fyd-eang bwysig iawn hon, ac yn y pen draw bydd yn hybu ein bri byd-eang. Rwy'n edrych ymlaen at gymryd rhan wrth lywio a gweithredu ein partneriaeth strategol ag UGA.”

Rhannu'r stori