Mae technoleg (e.e. dronau - yn y llun) - wedi trawsnewid maes rheoli plâu yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Mae technoleg (e.e. dronau - yn y llun) - wedi trawsnewid maes rheoli plâu yn ystod y blynyddoedd diwethaf. 

Mae cynhadledd ryngwladol fawr ym Mhrifysgol Abertawe wedi dod ag arbenigwyr mewn rheoli plâu yn integredig ynghyd i drafod ffyrdd newydd o leihau dibyniaeth ar bryfladdwyr cemegol niweidiol.

Gwnaeth mwy na 130 o gyfranogwyr o 20 o wledydd, gan gynrychioli 66 o sefydliadau lleol a rhyngwladol, gymryd rhan yn y digwyddiad o'r enw Symposiwm Dulliau Newydd o Reoli Plâu yn Integredig (New IPM Symposium) 2022.

Bu cynrychiolwyr o bob sector sy'n ymwneud â'r maes, megis diwydiant, y byd academaidd ac awdurdodau rheoleiddio.

Eu nod cyffredin yw helpu i leihau'r defnydd o blaladdwyr mewn meysydd megis cynhyrchu bwyd, er mwyn atal yr effeithiau cysylltiedig ar yr amgylchedd ac iechyd.

Mae rheoli plâu yn integredig yn cyfuno natur a thechnoleg fodern i fynd i'r afael â phrofiadau amgylcheddol byd-eang. Mae'r defnyddiau posib yn cynnwys:

  • Meithrin ymwrthedd mewn plâu cnydau i blaladdwyr, a gwrthfiotigau sy'n gallu gwrthsefyll clefydau
  • Mynd i'r afael â phlanhigion goresgynnol, megis clymog Japan, sy'n difrodi tai ac isadeiledd
  • Lleihau'r defnydd o gemegion wrth gynhyrchu bwyd, a fyddai'n lleihau'r risgiau i iechyd a'r perygl y caiff pridd a dŵr eu halogi

Mae ymagwedd gydweithredol amlasiantaeth wrth wraidd rheoli plâu yn integredig ac mae gan Brifysgol Abertawe'r arbenigedd a'r gallu i ddod â phawb sy'n cymryd rhan ynghyd. Trefnwyd y digwyddiad gan yr Athro Tariq Butt (Prifysgol Abertawe) a Dr Ian Baxter (IBMA UK).

Roedd sesiynau'n ymwneud â phynciau megis heriau i reoli plâu yn integredig ac atebion, cynhyrchion newydd a datblygu strategaethau, astudiaethau achos o'r defnydd o nwyddau botanegol, semiogemegion a monitro plâu, yn ogystal â'r defnydd o dechnoleg fodern, defnyddiau ym maes gwyddor gyfrifiadol, materion rheoleiddio, a'r defnydd o ddronau a cherbydau awyr di-griw ar gyfer synhwyro o bell.

Meddai'r Athro Tariq Butt o Brifysgol Abertawe, cyd-drefnydd y gynhadledd:

“Dangosodd yr amrywiaeth o siaradwyr natur ryngddisgyblaethol rheoli plâu yn integredig a'r angen mwy am gydweithrediadau ymchwil i ddatblygu'r rhaglenni arloesol sy'n ymwneud â dulliau newydd o reoli plâu yn integredig yn y byd cyfoes, ac i amlygu'r rhwystrau i ddatblygu a masnacheiddio.

“Mae'r digwyddiad yn enghraifft dda o'r ffordd y gall y BioHYB Cynhyrchion Naturiol newydd, dan arweiniad Prifysgol Abertawe, ddod â sectorau gwahanol ynghyd. Roedd y gynhadledd hefyd yn gyfle ardderchog i gydweithwyr o Brifysgol Abertawe – gan gynnwys Dr Farooq Shah, yr Athro Peter North, Dr Will Allen, Dr Ben Clunie, Alex Dearden, Dr Joel Loveridge, Pierre-Antoine Bourdan a Dr Martyn Wood – ddangos eu harbenigedd a'u hymchwil lwyddiannus i gynulleidfa fyd-eang, ac atgyfnerthu a datblygu cyfleoedd cydweithredol newydd.”

Meddai Dr Ian Baxter o IBMA UK (International Biocontrol Manufacturers Association UK):

“Roedd IBMA UK yn falch o gyd-drefnu'r digwyddiad hwn â Phrifysgol Abertawe. Mae'r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn arbennig o heriol i ni i gyd, ond nid yw hyn wedi arafu cyfradd y tyfwyr sydd wedi mabwysiadu'r dechnoleg – o bosib, mae hi wedi prysuro o ganlyniad i'r pwysau amlwg ar adnoddau.

“Roedd hon yn adeg berffaith i ddod ynghyd a chyfnewid gwybodaeth am y datblygiadau diweddaraf mewn dulliau newydd o reoli plâu yn integredig.”

Cafodd y symposiwm ei gefnogi gan y BioHYB Cynhyrchion Naturiol, sef cydweithrediad rhwng Prifysgol Abertawe a Chyngor Dinas Abertawe i ddod â'r byd academaidd, diwydiant a'r gymuned ynghyd wrth gefnogi twf busnes cydnerth a dyfodol gwyrddach i bawb. Mae'r BioHYB yn gweithio gydag IBMA i gynnal symposiwm dulliau newydd o reoli plâu yn integredig ym mis Medi 2023 a fydd yn canolbwyntio ar gyfranogiad amlddisgyblaethol a thraws-sector.

Mae crynodebau a gwybodaeth am y cadeiryddion/prif siaradwyr ar gael yma

Rhannu'r stori