Mae cynhyrchion naturiol yn gwneud cyfraniad sylweddol at ansawdd ein bywydau. Mae eu gwerth unigryw yn ganlyniad miliynau o flynyddoedd o esblygu. Fodd bynnag, manteisiwyd ar ychydig iawn o'r gronfa enfawr o'r cyfansoddion bioweithredol hyn a geir o blanhigion, anifeiliaid a microrganebau sydd ar gael yn hwylus.
Oherwydd newid yn yr hinsawdd a'r angen am ffyrdd mwy cynaliadwy a gwyrdd o fyw mae angen, nawr mwy nag erioed, uchafu'r buddion gan gynhyrchion naturiol gan darfu cyn lleied â phosib ar yr amgylchedd.
Bydd defnydd mwy helaeth o gynhyrchion naturiol yn y diwydiannau amaethyddol, fferyllol a gweithgynhyrchu yn cyfrannu at amgylchedd a chymuned iachach.
Drwy weithio mewn partneriaeth â Chyngor Abertawe, mae Prifysgol Abertawe'n bwriadu mynd i'r afael â'r angen hwn a dod ag arbenigwyr amlddisgyblaethol ynghyd o'r cymunedau academaidd, diwydiant a busnes, drwy brosiect BioHyb Cynhyrchion Naturiol a ariennir drwy'r Gronfa Adfywio Gymunedol â'r nod o:
- Harneisio a datblygu gwerth cynhyrchion a phrosesau naturiol.
- Darparu atebion sy'n ystyriol o'r amgylchedd i ddiwallu anghenion a galwadau diwydiannau amaethyddol, gweithgynhyrchu a fferyllol.
- Helpu i ennill y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd.
- Datblygu isadeiledd gwyrdd a chynyddu bioamrywiaeth y rhanbarth.
Prosiect BioHyb Cynhyrchion Naturiol
Mae'r prosiect yn gyfle unigryw i gydweithredu a chryfhau cysylltiadau presennol â diwydiant, busnes a'r gymuned ehangach, a rhoi arbenigedd academaidd ar waith i harneisio potensial organebau'r tir a rhai dyfrol ymhellach, heb niweidio'r amgylchedd.
Bydd y biohyb yn darparu cyfleuster amlbwrpas i gefnogi
- ymchwilwyr a busnesau sy'n arbenigo mewn cynhyrchion naturiol
- Cwmnïau allgynhyrchu a phartneriaid diwydiannol i gydweithio er mwyn datblygu cynhyrchion a phrosesau naturiol newydd ac arloesol ac arferion cynaliadwy.
- Cyfleoedd hyfforddiant a gwella sgiliau'r gymuned leol.
- Creu busnesau a swyddi newydd yn y rhanbarth.
- Rhwydweithio i Fusnes a Diwydiant.
Bydd hefyd yn creu lle cymunedol hygyrch i hyrwyddo cynnwys y cyhoedd a dealltwriaeth ehangach o gynhyrchion naturiol a'u buddion.
Ymchwil ac Arbenigedd Cynhyrchion Naturiol
Mae Prifysgol Abertawe'n arwain ymchwil ym maes cynhyrchion naturiol ar sail microbau ar gyfer diwydiannau amaethyddol, gweithgynhyrchu a fferyllol, ac mae wedi sefydlu sawl busnes allgynhyrchu llwyddiannus yn y maes hwn. Mae ei chyfleusterau peirianneg o'r radd flaenaf a'i harbenigedd ym maes data mawr yn cynnig potensial i ehangu diwydiannu sefydledig a newydd yn y sector cynhyrchion naturiol.
Mae ein holl ymchwil i ddyfodol cynaliadwy, ynni a'r amgylchedd yn cyfrannu at Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig ac yn mynd i'r afael â heriau naturiol a chymdeithasol i gefnogi ecosystemau iach a chynaliadwy.
Darllenwch ragor am ein hymchwil bresennol ym maes Biowyddoniaeth a'i heffaith