tree and lake in canada

Ein Ymchwil

Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (FRY), 2021: Rydym wrth ein bodd ein bod ein hamgylchedd a'n heffaith wedi cyflawni graddau o 100% o ran arwain y byd a rhagoriaeth ryngwladol, a hynny o ganlyniad i waith ein hadran, sydd wedi treblu yn ei maint yn y saith mlynedd ddiwethaf. Yn drawiadol, mae 65% o'n cyhoeddiadau ymchwil wedi cael eu dosbarthu yn rhai sy'n arwain y byd.

Mae'r Adran Biowyddorau yn cynnal ymchwil ar bynciau amrywiol ar draws y gwyddorau naturiol, gan gyfuno gwyddoniaeth sylfaenol a chymhwysol i ddarparu amgylchedd ymchwil crwn. Mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar bedair thema, ond rydym hefyd yn integreiddio'r rhain gyda'n cenhadaeth addysg trwy ein grŵp Ed STEMM, a thu hwnt i'n gweithgarwch ymchwil yn rhoi pwyslais ar gynnal cymuned academaidd werthfawr.

Themâu Ymchwil

systemau morol a dŵr croyw

Rydym yn cymryd ymagwedd rhyngddisgyblaethol ac yn adeiladu ar hanes cryf o ymchwil dyfrol ym Mhrifysgol Abertawe i ateb cwestiynau ymchwil sylfaenol a chymhwysol sydd wedi'u hanelu at gynnal gwasanaethau ecosystem o amgylcheddau dŵr môr a dŵr croyw. Rydym hefyd yn ystyried natur gyd-gysylltiedig gwahanol amgylcheddau dŵr croyw, aberol a morol a phobl fel elfennau allweddol o'r systemau hyn.

ecoleg ymddygiadol ac esblygiad

O'r moleciwlaidd hyd at raddfeydd macro-ddatblygiadol, rydym yn holi sail addasiadau ymddygiadol a morffolegol. Rydym yn canolbwyntio ar ddeall cymdeithasoldeb anifeiliaid, ecoleg symud a'r gyrwyr esblygiadol a mecanweithiau ymddygiad.

bioamrywiaeth ac ecosystemau

Mae newid amgylcheddol byd-eang yn addasu ac yn effeithio ar ecosystemau a bioamrywiaeth a'r swyddogaethau a'r cymorth bywyd a ddarperir ganddynt. Ein nod yw deall y mecanweithiau a'r swyddogaethau sy'n sbarduno patrymau bioamrywiaeth a deinameg ecosystem, er mwyn llywio gwell rheolaeth a pholisi o raddfeydd lleol i fyd-eang. Mae ein cryfderau'n codi o'r synergeddau o gyfuno ymagweddau arbrofol, maes, a damcaniaethol, ar draws graddfeydd unigol i boblogaeth a lefel gymunedol. Mae ein gwaith yn cwmpasu ecosystemau ar draws y byd, o ynysoedd trofannol i greigiau tymherus ac arfordiroedd, o goedwig yr Iwerydd i ecosystemau boreal.

cynhyrchion naturiol ac adnoddau amgylcheddol

Nod ein hymchwil yw gwneud y gorau o fanteision adnoddau naturiol wrth leihau'r aflonyddwch i'r amgylchedd. Rydym yn mynd i'r afael â heriau amgylcheddol a chymdeithasol trwy ymchwil gymhwysol, ac wrth wneud hynny, rydym yn hyrwyddo ecosystemau iach a chynaliadwy. Mae ein ffocws yn eang ac yn amrywio o harneisio systemau microb ar gyfer datblygu cynnyrch a phrosesau nofel (bioprosbwyso, bioremediation), i fynd i'r afael â diogelwch bwyd dyfrol a daearol (dyframaethu, bio-reoli, ecoleg afiechydon), a stiwardiaeth amgylcheddol (rheoli rhywogaethau ymledol, rhyngweithio rhwng y ddynoliaeth a'r amgylchedd ). Mae gweithio ar y cyd ar draws disgyblaethau gydag academyddion, busnesau a llunwyr polisi yn ganolog i'n hymchwil.

Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig

Mae ein hymchwil yn cyfrannu at lwyddiant y nodau penodol hyn.